'Sioc a siom' am ddiffyg erlyn wedi anhrefn Mayhill
- Cyhoeddwyd
Chwe mis wedi anhrefn ar strydoedd Mayhill yn Abertawe, mae dyn symudodd o'r ardal yn dweud ei fod wedi "synnu" ac yn "siomedig" nad oes unrhyw un wedi cael eu herlyn.
Symudodd Adam Romain a'i deulu o'u cartref ar Heol Waun-Wen ar ôl i geir cael eu llosgi a ffenestri a drysau eu malurio ar 20 Mai.
Mewn fideo gafodd ei recordio gan Mr Romain, mae modd ei glywed yn erfyn ar yr heddlu i ymateb ar ôl iddo egluro fod ffenest flaen y tŷ wedi ei thorri a bod rhywun wedi ceisio gwthio'u ffordd i mewn trwy'r drws.
Fe gafodd 37 o bobl eu harestio ond does neb, hyd yn hyn, yn wynebu cyhuddiadau troseddol.
"Fi 'chydig yn siomedig i fod yn hollol onest, i feddwl ei bod hi wedi bod chwe mis bellach," meddai Mr Romain.
Mae Heddlu De Cymru wedi bod yn cysylltu er mwyn rhoi diweddariadau ond mae Mr Romain yn teimlo'n rhwystredig.
"Mae synnwyr cyffredin yn dweud y dylid dal pobl yn atebol am y gweithredoedd yma," meddai.
"Mae'n gwneud i mi deimlo'n siomedig gyda'r system ac yn poeni pan fi mas yn Abertawe.
"Ma' fe'n gwneud i mi feddwl, a allai'r bobl hyn ymosod eto, a bod dim canlyniadau am eu gweithredoedd."
Cafodd saith o blismyn eu hanafu yn y digwyddiad, gafodd ei feirniadu'n hallt gan y Prif Weinidog Mark Drakeford a'r Ysgrifennydd Cartref Priti Patel.
Mae adolygiad annibynnol i'r trafferthion yn edrych ar gefndir y digwyddiad i weld a oes modd dysgu gwersi.
Mae'r adolygiad ar y cyd rhwng Cyngor Abertawe, Heddlu'r De a'u Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn cael ei arwain gan banel o dan gadeiryddiaeth yr Athro Elwen Evans QC, yr arbenigwr heddlu Martin Jones a'r ymgynghorydd llywodraeth leol Jack Straw.
Atgofion Rhys Williams, gohebydd Abertawe BBC Cymru
Fe gyrhaeddais i Heol Waun-Wen ychydig cyn 22:00 y noson honno ar ôl pasio tua dwsin o gerbydau'r heddlu a dwy injan dân a oedd wedi'u parcio tu allan i Orsaf Heddlu Townhill.
Fe gefais i fy synnu gan yr hyn a welais. Yr olygfa fwyaf trawiadol oedd dau gar oedd yn dal i fudlosgi.
Roedd pobol yr ardal mewn sioc. Fe wyliais i ddau ddyn yn helpu dynes oedrannus o'i thŷ union o flaen y ceir oedd yn llosgi.
Daeth hi i'r amlwg yn ddiweddarach mai hi oedd eu mam 92 oed. Roedd gwres y tân wedi malu'r ffenestri.
Dywedodd un o'r meibion eu bod wedi gorfod llenwi powlenni o ddŵr o gegin ei fam er mwyn diffodd y tân, funudau'n unig cyn i mi gyrraedd.
Dywedodd fod y "terfysgwyr" wedi mynd awr cyn hynny, ond nad oedd unrhyw un wedi dod i helpu i ddiffodd y tân na symud ei fam i rywle diogel.
Erbyn i mi adael er mwyn ffeilio'r stori o adref ychydig wedi 23:00, doedd dal dim golwg o'r gwasanaethau brys ar Heol Waun-wen.
Atgofion David Grundy, gohebydd Abertawe BBC Cymru
Ges i noson eithaf di-gwsg ar ôl gwylio'r lluniau rhyfeddol o ddigwyddiadau'r noson ym Mayhill.
Am 05:00 roedd gwydr wedi'i chwalu, olion ceir oedd wedi llosgi, metel a gwifrau a phlastig wedi'i doddi ar Heol Waun-Wen.
Dywedodd un person wrtha i: "Fi ffaelu credu be' sy' wedi digwydd, ma' fe'n edrych mwy fel Belfast ers talwm na Mayhill."
Erbyn 08:00 roedd pobl yn dechrau cyrraedd gydag ysgubau, fflasgiau o de, ac agwedd o barodrwydd i drio helpu.
"Nid dyma'r Mayhill rwy'n ei 'nabod," meddai un gwirfoddolwr, "a fi moyn i bobl wybod nad y'n ni fel hyn."
Awr gymerodd hi i glirio'r dystiolaeth bod unrhyw beth wedi digwydd yno'r noson gynt. Bydd yr atebion ynglŷn â pham bod hyn wedi digwydd ym Mayhill fis Mai yn cymryd llawer hirach.
Fe gafodd ceir eu llosgi a ffenestri eu malu ym Mayhill ar ôl i wylnos i ddyn ifanc a fu farw droi'n dreisgar.
Dywedodd tad Ethan Powell, Jonathan Russ, fod y rheiny gymerodd ran yn yr anhrefn yn "wehilion".
Mae yna feirniadaeth wedi bod o ymateb Heddlu De Cymru gan rai trigolion gan gynnwys Mr Romain, alwodd 999 deirgwaith ar ôl dychwelyd adref wedi i'w bartner ei ffonio yn ei dagrau.
'Terfysg oedd e'
"Fi'n deall bod rhai pobl wedi cael eu gwahardd o rai ardaloedd yn agos at ble digwyddodd y terfysg ac mae'n rhaid i ni ei alw fe yn be' oedd e, terfysg," meddai Mr Romain.
"Ond yw'r bobl hynny yn mynd i wrando a chadw draw? Sai'n gwybod.
"Yw hynny'n ddigon i bobl eraill deimlo'n ddiogel? Yn bersonol, i ni, dyw e ddim."
Bydd yr adolygiad annibynnol i'r terfysg yn edrych ar gefndir y trais a gweld a oes modd dysgu gwersi.
"Fe gafodd 37 o bobl eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ym Mayhill, ac mae ffeiliau wedi eu hanfon at Wasanaeth Erlyn y Goron," meddai'r Ditectif Arolygydd Gareth Jones o Heddlu De Cymru.
"Rydym yn disgwyl am benderfyniadau cyhuddiadau.
"Mae'r ymchwiliad yn gymhleth ac rwy'n gwerthfawrogi pryderon y gymuned leol ond mae'n gwaith ni yn parhau i sicrhau bod yr unigolion sy'n gyfrifol am weithredoedd wnaeth fygwth bywydau pobl leol yn wynebu cyfiawnder."
Mae BBC Cymru wedi gofyn am ymateb gan Wasanaeth Erlyn y Goron.
'Mynd i'r afael â'r broblem yn fwy eang'
Yn ôl Sioned Williams, AS Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, mae cymuned Mayhill yn un arbennig, gyda phobl yr ardal yn edrych ar ôl ei gilydd.
"'Naeth un fenyw oedrannus ddweud wrtha i 'dyna'r peth gore sydd wedi digwydd i'r lle yma', ac o'n i methu credu beth oedd hi'n gweud.
"Beth oedd hi'n golygu wrth gwrs, oedd hi'n teimlo bod yr awdurdodau nawr yn ymateb yn gynt i bethe' pan oedd problemau'n codi, a ma' hynny'n anfaddeuol."
Mae Ms Williams yn dweud fod angen mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd a blaenoriaethu problemau cymdeithasol, gan ei bod hi teimlo eu bod yn wraidd i'r cyfan ddigwyddodd ym Mayhill.
"Dwi yn meddwl bod y cymunedau tlotaf yn sicr yn fwy bregus, ac yn fwy agored i'r math o broblemau sy'n gallu arwain at drais," meddai.
"Ni'n gwybod bod diffyg cyfleon, diffyg chwarae teg, diffyg mynediad at wasanaethau, swyddi da, a'r anghydraddoldebau sy'n dod law yn llaw gyda thlodi yn gallu arwain at broblemau cymdeithasol.
"Gallen ni ddim claddu'n pennau ni yn y tywod, ond dyw ceisio jest gweld be ddigwyddodd yn yr achos unigol yma ddim yn ddigon - mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r broblem yn fwy eang."
'Meddwl am eu gweithredoedd'
Mae Adam Romain yn credu ei fod yn dioddef o PTSD ar ôl gadael Mayhill gan ei fod yn cael trafferth cofio pethau.
Mae'n sefydlu cartref newydd ond mae'n gobeithio y bydd y rhai gymerodd ran yn yr anhrefn yn mynd o flaen eu gwell.
"Rhaid iddyn nhw feddwl am eu gweithredoedd a chael amser i fyfyrio," meddai.
"Rwy'n bryderus na fyddan nhw yn cael hynny ac mae angen help ac arweiniad arnyn nhw - dyna beth rwy'n teimlo."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd21 Mai 2021
- Cyhoeddwyd21 Mai 2021