Bandicoot a chwedlau dinas Abertawe
- Cyhoeddwyd
A hithau'n Ddydd Miwsig Cymru 2022 mae Cymru Fyw wedi cael cipolwg ar fyd un o fandiau newydd mwyaf cyffrous Cymru - Bandicoot.
Gyda teithiau i ŵyl South by South West, Texas a Future Echoes, Sweden o'u blaenau a'u halbym cyntaf, Black After Dark yn cael ei rhyddhau ym mis Mawrth mae'n argoeli i fod yn flwyddyn enfawr i'r pedwarawd roc o Abertawe.
Un peth sydd yn ddifyr am Bandicoot yw eu hunaniaeth a'u perthynas â'r Gymraeg. Magwyd y grŵp mewn dinas sydd yng nghysgod y brifddinas ac mae rhan o agwedd y grŵp yn deillio o fod yn edrych o ongl wahanol ar y sîn gerddoriaeth yng Nghymru.
"Ni'n teimlo fod hwnna yn rhywbeth am Abertawe fel lle sydd ddim yn, yn ein profiad ni o leiaf, yn le Cymraeg Cymraeg tu hwnt. Er bod nodweddion Cymraeg iawn i Abertawe chi'n byw trwy gyfrwng y ddwy iaith," meddai'r prif leisydd Rhys Underdown.
Ond mae dinas eu magwraeth, yn ôl dau aelod gwreiddiol y band - Rhys a'i gyfaill Billy Stillman, yn sefyll ar ei ddwy droed yn gadarn. Ac mae chwedlau strydoedd eu plentyndod a chyfoeth celfyddydol Abertawe yn ddiffinio pwy ydi Bandicoot erbyn hyn.
Pwy ydyn nhw?
Rhyddhaodd Bandicoot bum sengl llynedd sy'n cynnwys O Nefoedd!, Fuzzy, Dark Too Long, Worried Blues a Life Death and Other Things. Maen nhw newydd gael eu henwi yn un o fandiau Gorwelion ar gyfer 2022.
Maen nhw'n enwi Little Richard a'r Beatles fel dylanwadau yn eu dyddiau ffurfiannol pan ddechreuodd Rhys Underdown a'r drymiwr Billy Stillman jamio bron i naw mlynedd yn ôl.
Ers rhai blynyddoedd bellach mae Tom Emlyn wedi ymuno ar y gitâr a llais a Kieran Doe ar y bas ac mae'r pedwar yn byw yng Nghaerdydd.
Yn ôl Rhys Underdown, sy'n canu, chwarae'r gitâr, yr allweddellau a'r sacsoffon, "mae rhyw fath o ddylanwad gan fandiau o'r 60 a'r 70au cynnar fel Velvet Underground, John Cale, Beatles, T-Rex a glam."
"Ond mae newid sŵn wedi bod yn rhywbeth eithaf cyson ble mae pob unigolyn yn y band gyda dylanwadau gwahanol felly ma' fe wedi addasu i rywbeth sydd ddim yn rili clir. Ma fe'n anoddach i ddisgrifio beth yw sŵn."
Iaith
Mae eu perthynas â'r iaith a'u dadansoddiad o amlieithrwydd yng Nghymru yn bwnc sydd o ddiddordeb i'r grŵp. Meddai Rhys Underdown:
"Roedden ni'n tyfu lan ble oedd y bands Cymraeg eu hiaith a'r bands Saesneg eu hiaith ar wahân."
"Doedd e ddim tan i ni adael Abertawe ac ehangu pa ddylanwadau oedd ganddon ni a dechrau gwrando ar fwy o stwff Cymraeg i ni ddechrau sylwi 'fallai bod ffordd i gymysgu'r ddau."
Er mai grŵp ail iaith Gymraeg yw Bandicoot, mae'r iaith i'w glywed yn nifer o'u caneuon, sy'n "fynegiant eithaf effeithiol o sut ry'n ni'n teimlo am yr iaith a sut ni'n byw trwy'r ddwy iaith," meddai Rhys.
"Ni'n defnyddio'r ddwy iaith yn ein caneuon i adlewyrchu sut ni'n byw yn Gymraeg a' Saesneg.
"Doedden ni heb gael ein magu lle mae'r dwyieithrwydd fel ma fe yng Nghaerdydd. Ar y pryd roedden ni yn canu yn Saesneg yn unig ac er ein bod ni yn eithaf dwyieithog doedd dim cymuned ddwyieithog rili cryf yn Abertawe."
Dylanwad Badfinger
Yng ngeiriau Rhys "mae Abertawe wedi datblygu i fod yn rhywbeth sydd yn rili canolog i hunaniaeth gerddorol ni," ac yn ganolog i'r datblygiad hwnnw mae dylanwad un o fandiau mwyaf Abertawe a Chymru erioed, Badfinger.
"Maen nhw fel hidden gem. Mae llwyth o bobl sydd heb glywed am Badfinger. Roeddwn i yn un ohonyn nhw," meddai'r drymiwr Billy.
Roedd Badfinger yn grŵp a ffurfiwyd yn y ddinas yn y 60au ac mae hanner can mlynedd bellach ers iddyn nhw ryddhau eu hail albym Straight Up, sy'n cynnwys y gan enwog 'Baby Blue' - fydd yn gyfarwydd i lawer o ffans y gyfres Breaking Bad.
Roedd y grŵp wedi ei arwyddo i label Apple gan The Beatles a fuodd George Harrison a Paul McCartney yn gynhyrchwyr arnynt. Tybiwyd fod y grŵp wedi gwerthu 14 miliwn o albymau sy'n cynnwys caneuon adnabyddus fel Without You, gafodd ei chyfro gan Mariah Carey a Harry Nilsson, a No Matter What.
Ag albym Bandicoot, Black After Dark yn llawn o chwedlau ac adleisiau strydoedd dinas Abertawe nid yw'n syndod fod teyrnged i Pete Ham, prif leisydd Badfinger ynddi.
Meddai Rhys: "Wrth i ni dyfu lan roeddwn yn gweld o gwmpas y dref y signs bo' nhw yn bodoli. Mae plac wedi ei osod yn yr orsaf trên sy'n cofio Pete Ham."
"Pobman o'n i'n mynd o'n i'n ymwybodol o'r band ac mae e wedi sort of datblygu i fod yn myth, dim jest am y band ei hun, ond am Abertawe fel lle sydd wedi creu'r gerddoriaeth sbesial yna.
"Y peth am Badfinger sydd yn nodweddiannol yw'r ffaith dyw nhw ddim yn swnio'n Gymraeg iawn. Byddech chi ddim yn gwybod eu bod nhw'n Gymraeg wrth jest gwrando arnyn nhw. Dyw nhw ddim gydag acenion Cymraeg a dyw nhw ddim yn ysgrifennu lyrics sydd yn ymwneud a Chymru lot.
"Mae rhywbeth ym melodïau Badfinger sydd yn rili nostalgic mewn ffordd ac mae 'na innocence really pwerus yn gerddoriaeth a lyrics nhw. Fi'n meddwl bo hwnna yn canu cloch."
'Enaid creadigol cryf'
Wrth drafod celfyddyd Abertawe nid oes modd osgoi un o'r beirdd mwyaf erioed wrth gwrs ac mae dylanwad Dylan Thomas ar ddau gyfansoddwr (Rhys a Tom) sydd a diddordeb mawr mewn barddoniaeth yn amlwg.
"Er mae'n kind of cliché i ddweud rili nawr ond mae Dylan Thomas fel bardd, ynghyd a Vernon Watkins wedi cael dylanwad. Mae cefndir llenyddol Abertawe wedi cael dylanwad," meddai Rhys.
"Fel gyda Badfinger chi'n gallu cerdded rownd y dref a gweld naill ai enw neu wyneb Dylan Thomas - mae'r element o myth na yn bodoli nid jest yn gerddorol ond yn llenyddol ac yn greadigol a fi'n meddwl mae enaid creadigol yn really cryf yn Abertawe.
"Mae 'na loads lefydd bach sydd yn sbarduno'r egni yna, hyd yn oed os dyw e ddim yn amlwg neu yn ddiwylliannol yn adnabyddus, os chi'n byw 'na, ac yn tyfu lan 'na chi methu peidio teimlo rhywbeth oddi wrtho fe.
"Mae cymeriad y bobl 'na jest yn hybu'r creadigrwydd sydd yna. Mae'n lle hawdd i fod yn greadigol."
Texas, Sweden a Black After Dark
Mae'r flwyddyn nesaf yn gyfnod hynod gyffrous i Bandicoot. Yn dilyn gig gartref a werthodd allan yn y Bunkhouse, Abertawe ar Chwefror 2 mae'r grŵp yn edrych ymlaen at ryddhau'r albym Black After Dark a chreu argraff ar lwyfannau ym Mhrydain, Ewrop a'r Unol Daleithiau.
"Ni'n chwarae Future Echoes yn Sweden yng nghanol mis Chwefror. Wedyn mae ganddo ni'r album launch yn Clwb Ifor ar Fawrth 4. Wythnos ar ôl launch yr albym ar ni'n mynd i Texas i chwarae yn South by Southwest sydd yn unreal," meddai Billy.
"Wedyn ni'n chwarae headline cyntaf ni yn Llundain ym mis Ebrill wedyn Focus Wales, Kendall Calling a In It Together yn yr haf," meddai Rhys.
"Mae 'na string o bethau sydd trwy gydol y flwyddyn wedyn ar ddiwedd y flwyddyn ni'n recordio albym rhif dau."