Dyn ifanc yn cyfaddef lladd ei chwaer mewn parc gwyliau

  • Cyhoeddwyd
Amanda SelbyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Amanda Selby tra ar wyliau gyda'i theulu yn Nhywyn

Mae dyn 19 oed wedi pledio'n euog i ddynladdiad ei chwaer 15 oed mewn parc gwyliau yn Sir Conwy.

Roedd Matthew Selby, o Ashton-under-Lyne, Manceinion, yn gwadu cyhuddiad o lofruddio Amanda Selby ym mharc gwyliau Tŷ Mawr yn Nhywyn ar 31 Gorffennaf y llynedd.

Ond fore Llun fe wnaeth Matthew Selby gyfaddef cyhuddiad o ddynladdiad am nad oedd yn ei iawn bwyll ar y pryd.

Fe wnaeth yr erlyniad dderbyn ei ble, gan olygu na fydd yn wynebu achos llofruddiaeth.

Bydd Selby yn cael ei ddedfrydu ar 18 Mawrth, wedi i adroddiadau seiciatrig pellach gael eu gwneud.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Matthew Selby wedi gwadu cyhuddiad o lofruddio ei chwaer

Pynciau cysylltiedig