Nick Ramsay yn ymuno â'r Democratiaid Rhyddfrydol

  • Cyhoeddwyd
Nick RamsayFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nick Ramsay oedd AS Mynwy rhwng 2007-2021

Mae cyn aelod o'r senedd gyda'r Blaid Geidwadol wedi ymuno â'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Bydd Nick Ramsay yn sefyll dros y Democratiaid Rhyddfrydol yn etholiadau Cyngor Sir Fynwy fis Mai.

"Nid yw'r Blaid Geidwadol yr un blaid wnes i ymuno â hi ers talwm. Maen nhw wedi colli ymddiriedaeth y bobl, ac nid ydyn nhw'n gallu rheoli ein gwlad," meddai Mr Ramsay.

"Maen nhw wedi methu'r prawf sylfaenol o'u gallu. Galla i feddwl am ychydig iawn ohonyn nhw rwy'n cytuno â nhw."

Mr Ramsay oedd AS Mynwy rhwng 2007-2021, a bu'n Weinidog Cyllid Cysgodol y Ceidwadwyr.

Dywedodd ei fod wedi treulio amser hir yn craffu ar y Democratiaid Rhyddfrydol, a bod eu "gwerthoedd sylfaenol o degwch, cymuned, a rhyngwladoldeb yn cyd-fynd â'm rhai i."

Dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, yr AS Jane Dodds: "Mae siwrne Nick yn adlewyrchu profiad nifer o bleidleiswyr oes Ceidwadol drwy Gymru sydd wedi cael digon o'r boblyddiaeth di-feddwl mae Boris Johnson yn ei gynrychioli, a sy'n troi at y Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer polisïau difrifol fydd yn helpu i ddod i'r afael a'r problemau yn eu bywydau."