Is-ganghellor Prifysgol Bangor yn gadael ym Medi

  • Cyhoeddwyd
Iwan DaviesFfynhonnell y llun, Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr Athro Iwan Davies yn gadael ym mis Medi 2022

Mae'r Athro Iwan Davies wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi'r gorau i'w rôl fel Is-ganghellor Prifysgol Bangor ym mis Medi 2022.

Yr Athro Davies oedd wythfed is-ganghellor yn hanes 135 mlynedd y brifysgol ac fe wnaeth e olynu yr Athro John Hughes, wedi iddo gyhoeddi yn 2018 ei fod yn gadael ei swydd yn gynt na'r disgwyl.

Brynhawn Gwener dywedodd yr Athro Davies: "Mae fy amser ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn gyfnod cyffrous a boddhaus yn fy ngyrfa. Rwyf wedi cyflawni'r hyn y des i yma i'w gyflawni gan greu momentwm go iawn. Dyma'r amser i feddwl am drosglwyddo'r baton i'r Is-ganghellor nesaf.

"Mae gan y Brifysgol gymaint i'w gynnig fel Prifysgol gogledd Cymru a'r brifysgol ar gyfer gogledd Cymru.

"Wrth imi ymddeol o'r rôl hon a symud ymlaen rwy'n bwriadu parhau i ymwneud â datblygu polisi addysg uwch yng Nghymru ac yn hynny o beth, bydd gennyf ddiddordeb o hyd yn llwyddiant y Brifysgol yn y dyfodol."

Ffynhonnell y llun, David Stowell/Geograph

Wrth roi teyrnged i'r Athro Davies, dywedodd Cadeirydd Cyngor Prifysgol Bangor, Marian Wyn Jones: "Mae Iwan wedi dangos arweiniad aruthrol. Gydag eglurder gweledigaeth ac egni, mae wedi creu strategaeth uchelgeisiol ac wedi darparu llwyfan ariannol cadarn a fydd yn darparu sylfaen gref i'w olynydd ei siapio a'i datblygu wrth inni edrych y tu hwnt i'r pandemig.

"Rwyf wrth fy modd â'r cynnydd yr ydym wedi'i wneud o dan ei arweinyddiaeth. Bydd pawb yn gweld colled fawr ar ôl Iwan ond bydd ei gyfraniad enfawr yn parhau i hybu a gwella ein safle fel prifysgol gogledd Cymru a'r brifysgol ar gyfer gogledd Cymru, sy'n cael ei harwain gan ymchwil.

"Rydym nawr yn dechrau ar y broses gyffrous o benodi is-ganghellor newydd a fydd yn dod ag egni a brwdfrydedd i adeiladu ar lwyddiannau eithriadol y blynyddoedd diwethaf.

"Mae'r tîm gweithredu mewn sefyllfa dda i sicrhau cyfnod pontio sefydlog ar gyfer llwyddiant parhaus a chynaliadwy."

Pynciau cysylltiedig