Llyfrgell Pwllheli'n ailagor wedi adnewyddiad £900,000
- Cyhoeddwyd
Mae Llyfrgell Pwllheli wedi ailagor ei drysau ddydd Llun ar ôl adnewyddiad gwerth £900,000 ar Neuadd Dwyfor.
Mae'r gwaith i ddiweddaru ac uwchraddio'r llyfrgell a'r cyfleusterau theatr a sinema wedi cymryd bron i flwyddyn.
Mae'r gwelliannau gan y perchnogion - Cyngor Gwynedd - hefyd yn cynnwys cyfleuster toiled hygyrch ar y llawr gwaelod, yn ogystal â'r fynedfa - sydd wedi ei dylunio i fod yn ofod ar gyfer ymlacio a chymdeithasu.
Fe fydd defnyddwyr yn gallu cael mynediad at lyfrau llyfrgell a chyfrifiaduron hunanwasanaeth, a bydd y bar coffi yn weithredol yn ystod prynhawniau unwaith y bydd ffilmiau yn ailddechrau.
Bydd y theatr a'r sinema ar agor yn yr wythnosau nesaf, a'r llyfrgell yn symud i oriau agor estynedig.
Dywedodd Maer Pwllheli, Mici Plwm, fod yr ardal wedi cymryd mantais o'r pandemig i wneud gwelliannau i'r adeilad.
"Mae'r aflwydd 'ma wedi bod o gwmpas ers dwy flynedd, ond mae Pwllheli wedi manteisio arno fo drwy adnewyddu a gwneud gwelliannau enfawr yma," meddai.
"Ma' Neuadd Dwyfor bellach - fysa chi'n gallu ei galw hi'n theatr. Mae'r adnoddau yna i bob dim - ffilmiau, dawns, corau.
"Y gri fawr wrth gwrs i drigolion tref Pwllheli a Phen Llŷn gyfan ydy cefnogwch o - cefnogwch o i'r carn.
"O'i ddefnyddio fo, fydd o'n mynd o lwyddiant i lwyddiant."
Ychwanegodd y delynores Gwenan Gibbard, sydd wedi perfformio yn y neuadd sawl gwaith: "Mae gan bawb eu hatgofion am Neuadd Dwyfor, neu Neuadd y Dref fel oedd hi ers talwm.
"Mae'r neuadd wedi bod yn rhyw ganolbwynt i ddiwylliant a'r celfyddydau yn ardal Dwyfor ers degawdau erbyn hyn, ac mae 'na hen edrych 'mlaen am iddi ailagor.
"Mae pethau'n rhyw ddechrau ailgychwyn rŵan o ran perfformio ac yn y blaen, ac mae cael mynediad at y celfyddydau fel hyn ar ein stepen drws yn ysgogiad, ac mae'n braf iawn cael neuadd o safon."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2016
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2016