Aled Jones a'i ferch Emilia, seren y ffilm Oscar CODA

  • Cyhoeddwyd
Emilia Jones a'i thad, Aled JonesFfynhonnell y llun, Getty Images

Ers iddo ganu Walking in the Air pan yn hogyn ysgol, mae Aled Jones wedi hen arfer gydag enwogrwydd a chanmoliaeth, ond wrth i'w ferch droedio llwybr tebyg ym myd y ffilmiau mae fel unrhyw riant arall - yn llawn balchder.

Mae Emilia Jones, sy'n 19 oed, yn chwarae'r brif ran yn y ffilm CODA a gipiodd yr Oscar o dan drwyn ffilmiau'r arian mawr fel Power of the Dog, Don't Look Up a West Side Story am wobr y ffilm orau.

Yn ogystal â chael enwebiad am Bafta mae cylchgrawn Vogue wedi nodi'r actores fel y seren newydd i'w gwylio yn 2022 a'r Hollywood Reporter wedi rhoi'r teitl Next Big Thing iddi.

Mae Emilia wedi bod yn teithio nôl a blaen o America yn ddiweddar yn gweithio a mynd i seremonïau gwobrau ffilmiau, meddai ei thad.

Ffynhonnell y llun, APPLE TV+
Disgrifiad o’r llun,

Mae Emilia Jones yn chwarae rhan Ruby yn y ffilm CODA, a enillodd dair Oscar yng Ngwobrau'r Academy 2022

Yn CODA mae hi'n portreadu merch 17 oed, yr unig un yn ei theulu sy'n gallu clywed. Yn lle mynd i weithio ym musnes pysgota'r teulu wedi iddi adael ysgol mae hi'n penderfynu ceisio am le mewn coleg cerdd wedi i'w hathro sylweddoli bod ganddi lais canu gwych.

Ar gyfer y rhan roedd yn rhaid iddi dreulio naw mis yn dysgu sut i arwyddo, derbyn gwersi canu a dysgu sut i weithio cwch pysgota proffesiynol. Ac mae'n amlwg i'r holl waith ddwyn ffrwyth - gydag enwebiadau am wobrau iddi hi fel actores a'r ffilm, a neges o ganmoliaeth gan y gantores Joni Mitchell am ei pherfformiad o un o'i chaneuon.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Joni Mitchell

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Joni Mitchell

Fe wnaeth y ffilm, sydd yn cynnwys nifer o actorion byddar, ddenu sylw yn 2021 ar ôl ennill mwy o wobrau yng ngŵyl ffilm Sundance nag unrhyw ffilm arall yn hanes yr ŵyl, ac fe brynodd Apple TV+ yr hawliau am $25m.

Fe wnaeth hanes drwy fod y ffilm gwasanaeth ffrydio gyntaf i ennill Oscar â'r ffilm gyntaf â chast sydd yn bennaf yn fyddar i ennill y wobr am y ffilm orau.

Wrth siarad ar raglen Bore Cothi ar Radio Cymru ym mis Chwefror fe ddywedodd tad Emilia, y canwr a'r cyflwynydd Aled Jones, bod ei ferch wedi bod yn America a Chanada yn aml dros y ddwy flynedd diwethaf, yn cynnwys i ffilmio'r gyfres Netflix Locke and Key.

Meddai Aled, sydd o Langoed ar Ynys Môn yn wreiddiol ond wedi ymgartrefu yn Llundain ers blynyddoedd: "Mae'r ffilm diweddara sganddi hi allan - CODA - wedi gwneud yn ofnadwy o dda.

"Mae hi'n weithgar ofnadwy fel person ac mae hi'n mwynhau hefyd be' mae hi'n neud. Mae hi'n mynd i America wythnos nesa - mae 'na lot o seremonïau awards ac mae hi'n gorfod mynd iddyn nhw ac mae hi'n cael amser braf ofnadwy."

Ychwanegodd ei bod wrth ei bodd o fod wedi cael ei henwebu am Bafta.

Ffynhonnell y llun, Mark Hill/Apple TV+
Disgrifiad o’r llun,

Siân Heder, sy'n ferch i'r artist o'r Bari Mags Harries, yn cyfarwyddo Emilia Jones a'i chyd-actor Ferdia Walsh-Peelo ar set CODA

Mae'r teulu i gyd - yn cynnwys 'Nain a Taid Ynys Môn' - yn falch ohoni meddai Aled, sydd wedi gwerthu 10 miliwn o recordiau ers rhyddhau ei albwm cyntaf gyda Sain pan oedd yn 12 oed.

"Dwi mor prowd o be' mae hi'n neud. Mae hi'n cael amser braf ofnadwy ar y foment ac mae'n haeddu bob dim mae hi'n cael achos mae hi'n gweithio oriau mawr, bob awr bob dydd ar y set ffilm, ond mae hi'n grêt o actores," meddai.

Mae cysylltiad Cymreig arall i'r ffilm gyda'i hawdur a'i chyfarwyddwr, Sian Heder, yn ferch i'r artist o'r Bari, Mags Harries.

Fe rannodd ychydig o Gymraeg, dolen allanol ar y carped coch cyn iddi hithau ennill Oscar am ei sgript ar gyfer y ffilm.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 2 gan Newyddion S4C

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 2 gan Newyddion S4C

Roedd Aled, sy'n cyflwyno Songs of Praise a rhaglenni radio ar BBC Radio Wales a Classic FM, yn siarad ar y radio cyn mynd ar daith ar draws Prydain yn perfformio mewn 24 cadeirlan, gan gynnwys yr un lle ddechreuodd o ganu pan oedd yn blentyn - Bangor.

Ffynhonnell y llun, Avalon/Getty
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Aled Jones i lygad y cyhoedd am y tro cyntaf pan oedd yn 12 oed, ond daeth yn enwog iawn wedi iddo recordio Walking in the Air o'r ffilm The Snowman

Meddai: "Be' dwi'n licio am y daith ydi dwi'n canu yng nghadeirlan Lerpwl sy'n massive, mae o mor fawr, ond hefyd dwi mewn llefydd fel Bangor lle wnaeth fy ngyrfa ddechrau, St Asaph a Llandaf a St Davids ac yn yr Alban a Lloegr.

"Mae'r acoustics mor ffantastig - ti'n canu un nodyn ac mae o yna am tuag eiliad neu ddwy, mae o'n ffantastig o brofiad."

Yn ystod y cyngherddau bydd yn canu deuawd gydag aelod arall o'i deulu - ei fab Lucas. Gyda gwraig Aled, Charlotte, yn rhan o deulu syrcas adnabyddus Fossett, mae'n amlwg bod perfformio yng ngwaed y plant ar y ddwy ochr.

Ac mae Aled wedi gallu ymarfer ei lais yn ddiweddar ar raglen The Masked Singer, lle mae pobl enwog mewn gwisgoedd gwirion yn cystadlu yn erbyn ei gilydd heb ddatgelu pwy ydyn nhw - hyd yn oed i'r criw gefn llwyfan.

Ffynhonnell y llun, Kieron McCarron/ITV
Disgrifiad o’r llun,

Aled Jones yn datgelu pwy oedd y llais yn y côn traffig ar The Masked Singer

Meddai Aled, oedd wedi gorfod gwisgo fyny fel côn traffig ar y rhaglen: "Ti'm yn gweld neb ar y rhaglen o gwbl o'r munud ti'n cyrraedd i'r munud ti'n mynd adra. Cyn cyrraedd y stiwdio ti'n gorfod gwisgo balaclava, visor, menig, hoodie ac ar yr hoodie maen nhw wedi sgwennu 'don't speak to me'... ac wedyn ti'n mynd i dy dressing room ac yn aros yn fanno nes ti'n rhoi'r wisg ymlaen.

"Wedyn mae dau berson yn cerdded chdi i'r set ... ti'n canu dy gân ac mae'r judges yn deud eu pethau nhw, ti'n mynd nôl i'r dressing room ac os ti'n strêt i'r car ac adra - dyna pa mor gyfrinachol ydi o.

"Felly tra mae (Emilia) yn Hollywood, dwi mewn gwisg traffic cone!"

Addaswyd y stori hon o erthygl a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar Chwefror 17, 2022

Pynciau cysylltiedig