Cogyddion Cymreig y Great British Menu
- Cyhoeddwyd
Mae'r gyfres Great British Menu yn ôl a tro'r Cymry yw hi yr wythnos hon i geisio sicrhau eu lle i gael eu pryd yn rhan o'r wledd derfynol.
Dathlu darlledu yw thema'r Great British Menu eleni a hynny ar ganmlwyddiant y BBC.
Yn ystod y gyfres bydd prydau yn cael eu gweini wedi eu hysbrydoli gan bopeth o Fawlty Towers i Eastenders.
Ond pwy yw'r pedwar fydd yn cystadlu dros Gymru eleni?
Mark Threadgill
Prif gogydd Gwesty Portmeirion yw Mark Threadgill, swydd yr oedd yn benderfynol i'w gael ers iddo nodi'r peth mewn adroddiad ysgol pan oedd o'n 14. Deuddeg mlynedd yn ddiweddarach a daeth ei freuddwyd yn realiti.
Cyn cael ei swydd yng Ngwesty Portmeirion treuliodd gyfnodau yn gweithio yn Llundain a Ffrainc, ac ychydig agosach i adref ym Mhwllheli.
Mae'n angerddol am fwyd a chynhwysion Cymreig ac yn rhoi pwyslais ar gynnyrch lleol a chynaliadawy.
Y gyfres deledu Gavin and Stacey fydd yr ysbrydoliaeth i un o'i brydau - gan ganolbwyntio ar y bennod lle cafodd y bhuna dipyn o sylw.
Larkin Cen
Mae bwyd wedi diddori Larkin Cen ers yn blentyn wrth wylio ei rieni yn coginio yn eu têc-awe Tseiniaidd. Ond dim ond pum mlynedd yn ôl penderfynodd o roi'r gorau i'w waith fel cyfreithiwr a dilyn gyrfa fel cogydd.
Treuliodd gyfnod yn gweithio yn y Celtic Manor cyn agor ei fwyty ei hun ym Mryste - Woky Ko. Bellach mae ganddo bedwar bwyty ym Mryste a chegin ddatblygu yng Nghymru.
Mae ei fwyd wedi ei seilio ar flasau traddodiadol o China ac mae'n cyfaddef ei fod yn noodle obsessivea'i freuddwyd fyddai paratoi ramen traddodiadol ar y rhaglen.
Bydd ei fwydlen yn cynnwys pryd wedi ei seilio ar y clasur o gartŵn Cymraeg, Sam Tân yn ogystal â phryd Doctor Who sydd yn cael ei ffilmio yng Nghaerdydd.
Nathan Davies
Mae Nathan Davies yn dychwelyd i'r Great British Menu gyda'r gobaith o fynd gam ymhellach na llynedd. Yn anffodus ni gyrhaeddodd y wledd llynedd er iddo sgorio'r ail farc uchaf yn hanes y gystadleuaeth.
Roedd yn gweithio fel prif gogydd y bwyty seren Michelin Ynyshir ger Machynlleth am bedair blynedd cyn symud i agor SY23 yn Aberystwyth.
Mae fforio yn rhan annatod o'i ethos gwaith ac mae'n hoff o goginio bwyd da, lleol yn syml gan ddefnyddio tân.
Dim syndod felly bod y rhaglen Coast yn rhoi ysbrydoliaeth i un o brydau Nathan ar gyfer y gystadleuaeth eleni.
Tom Phillips
Dyma ail dro Tom Phillips, sy'n brif gogydd yn y bwyty dwy seren Michelin Restaurant Story i gystadlu.
Coginio cacennau cri gyda'i fam oedd gwreiddyn ei ddiddordeb mewn bwyd. Fe gychwynnodd ei yrfa gyda phrentisiaeth yn y Ritz yn Llundain, cyn symud i L'Enclume, bwyty Simon Rogan ac yna i Efrog Newydd i weithio yn Per Se, bwyty gyda thair seren Michelin.
Er iddo deithio ar draws y byd, Cymru yw adref dal i fod, a bydd Tom yn defnyddio un o gynyrchiadau mawr Cymru - Doctor Who - fel ysbrydoliaeth i'w fwydlen yn y gystadleuaeth.
Mae'r Great British Menu yn darlledu bob nos Fawrth, Fercher ac Iau am 8pm ar BBC Two.
Hefyd o ddiddordeb: