Chwyddiant: Mwy yn gorfod troi at fanciau bwyd

  • Cyhoeddwyd
Banc Bwyd Pontardawe
Disgrifiad o’r llun,

Mae banc bwyd Pontardawe wedi gweld cynnydd yn nifer y defnyddwyr ers y Nadolig

Mae'r cynnydd mewn costau byw yn taro teuluoedd a busnesau wrth i gyfradd chwyddiant barhau i gynyddu.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae cyfradd chwyddiant wedi cynyddu eto i 5.5% ar gyfartaledd yn y flwyddyn hyd at fis Ionawr, o'i gymharu â 5.4% ym mis Rhagfyr.

Dywedodd gwirfoddolwr ym manc bwyd Pontardawe bod nifer y defnyddwyr wedi cynyddu ers y Nadolig.

Ac mae busnes sy'n gwerthu deunydd adeiladu yn y dref yn dweud i rai prisiau gynyddu 80% oherwydd prinderau byd-eang o eitemau fel pren.

Gall gyrraedd 7% eleni

Mae prisiau yn cynyddu yn gyflymach nag ar unrhyw adeg arall yn y 30 mlynedd ddiwethaf.

Dydy cyflogau ddim yn cynyddu ar yr un raddfa, sy'n golygu bod y rhan fwyaf o bobl yn cael eu taro gan gostau byw uwch.

Mae Banc Lloegr wedi rhybuddio y gall chwyddiant gyrraedd 7% eleni.

Tra bod y ffigwr yn cynrychioli cyfartaledd y prisiau cynyddol, mae rhai meysydd wedi dioddef yn waeth nag eraill.

Ym Mhontardawe mae cwmni Lliw Building Supplies wedi elwa o'r galw gan bobl leol am ddeunydd adeiladu yn ystod y pandemig.

Ond maen nhw wedi gorfod ymdopi â phrisiau cynyddol ar gyfer rhai pethau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Geraint Llewelyn fod chwyddiant "llawer yn fwy" ar gyfer y diwydiant adeiladu

Dywedodd Geraint Llewelyn, rheolwr-gyfarwyddwr y cwmni, fod costau wedi codi 20% ar gyfartaledd rhwng Rhagfyr 2020 a Rhagfyr 2021, ac yn parhau i godi eleni.

"Y flwyddyn hon mor belled, mae wedi codi rhwng 7% a 12%," meddai.

"Mae pethau fel silicon wedi codi 47% yn y tri mis diwethaf. Ry'n ni wedi cael gwybodaeth bod PVC yn mynd i godi 15% yn y dyfodol."

'Chwyddiant llawer yn fwy'

Tra bod Banc Lloegr yn trafod chwyddiant fel ffigwr fydd yn cyrraedd 7% eleni, dywedodd Mr Llewelyn fod y realiti yn wahanol iawn ar lawr gwlad.

"Ar gyfer y pethau ry'n ni'n defnyddio yn y byd adeiladu, mae chwyddiant llawer yn fwy na hynny."

Dyw Mr Llewelyn ddim yn credu bydd prisiau erioed yn mynd 'nôl i'w lefelau blaenorol.

"Roedd coed wedi codi llynedd rhwng 55% ac 80%. Cwympodd hynny 'nôl yn yr hydref i ryw raddau, ond nawr mae'n dechrau codi eto," meddai.

"Tra bod galwad trwy'r byd i gyd, ry'n ni yn credu bydd pethau yn parhau i godi - dim mor gyflym a wnaethon nhw godi llynedd, ond awn nhw byth 'nôl i le o'n nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth prisiau pren godi "rhwng 55% ac 80%" yn 2021, meddai Mr Llewelyn

Ar y stryd fawr ym Mhontardawe mae prisiau cynyddol yn y siopau yn destun trafod.

I nifer o bobl mae'n hanfodol i ailfeddwl gwario ar rai pethau, ond i eraill mae'n argyfwng sy'n eu harwain i'r banc bwyd.

'Mwy a mwy o bobl yn dod'

Y Pantry ydy'r banc bwyd ym Mhontardawe, ac mae'n croesawu ymwelwyr ddwywaith yr wythnos i'r festri yng nghapel y Tabernacl.

Mae Brian Jones yn gwirfoddoli yno, ac yn trefnu pecynnau bwyd i bwy bynnag sy'n galw.

"Ers y Nadolig 'dan ni wedi gweld mwy a mwy o bobl yn dod," meddai.

"Wythnos ddiwethaf wnaethon ni rhoi bwyd i 30 o bobl ac efallai 20 o blant. Ry'n ni'n dref fach, ac mae hynny yn nifer eithaf mawr, fyddwn i yn dweud."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae popeth yn mynd i fyny ar hyn o bryd, oni bai am gyflogau," meddai Brian Jones

Pwy sy'n dod yma felly? Mae Mr Jones yn egluro bod rhai pobl sydd wedi colli swydd ar ôl i'r cyfnod ffyrlo ddod i ben yn defnyddio'r banc bwyd.

Ond mae prisiau ynni hefyd yn golygu bod pobl yn troi at yr elusen.

"Mae popeth yn mynd i fyny ar hyn o bryd, oni bai am gyflogau, ac os oes yna bobl a oedd gydag arian wrth gefn - mae e wedi mynd nawr."

Rhagweld mai cynyddu fydd y galw

Mae hi'n gyfnod ansicr i nifer, yn enwedig gyda'r cap ynni yn codi ym mis Ebrill a biliau yn debygol o saethu fyny i bron pawb.

Mae Mr Jones felly'n rhagweld y bydd y banc bwyd yn debygol o weld mwy o ddefnyddwyr.

"Rydyn ni'n credu bydd mwy a mwy o bobl yn defnyddio'r banc bwyd, yn anffodus," meddai.

"Rydyn ni wedi sôn am efallai cael sesiwn arall. Ar hyn o bryd rydyn ni ar agor ddwywaith yr wythnos - efallai bydd angen agor tair gwaith yr wythnos.

"O beth ry'n ni wedi clywed, ry'n ni yn disgwyl i fwy o bobl ddefnyddio'r banc bwyd ym Mhontardawe a, siŵr o fod, ym mhobman."

Pynciau cysylltiedig