Galw am ddatgarboneiddio tai Cymru i leihau biliau ynni

  • Cyhoeddwyd
Tai
Disgrifiad o’r llun,

Mae biliau ynni cartrefi hŷn ddwywaith yn fyw na rhai tai newydd

Mae cartrefi o ansawdd gwael yng Nghymru yn "pwmpio arian allan o'r drws" yn ôl un o ymgynghorwyr y llywodraeth.

Mae hen dai aneffeithiol Cymru ymhlith y gwaethaf yng ngorllewin Ewrop sy'n golygu fod pobl yn gwario mwy ar filiau na sydd angen - ac yn achosi mwy o niwed i'r blaned hefyd.

Gall newidiadau bach fel insiwleiddio waliau, atalyddion drafft a monitro'r defnydd o drydan arbed arian a lleihau allyriadau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod ganddynt raglen £150m sy'n helpu i ddatgarboneiddio cartrefi cymdeithasol a'u bod yn ymgynghori ar gynllun i gefnogi tai preifat i wella eu heffeithlonrwydd.

Disgrifiad o’r llun,

"Allai ddweud fy mod i â rhan mewn ceisio gwneud gwahaniaeth," medd Jayne Martin

Mae Jayne Martin, 49, yn byw ym Mhontardawe. Pan symudodd i'w chartref 18 mis yn ôl, roedd insiwleiddio a ffenestri newydd eisoes wedi'u gosod yn y tŷ.

"Ymhob man dwi wedi byw, dwi bob amser wedi cael rhyw fath o broblem gydag ynni'n gollwng," meddai.

"Ond mae'r tŷ yma'n gallu mynd yn rhy gynnes!"

Mae ei chymdeithas tai, Tai Tarian, yn cymryd rhan yn Rhaglen Ôl-osod Llywodraeth Cymru i wella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi.

Dywedodd fod biliau "bob amser wedi bod yn beth mawr" iddi, ond ei bod wedi sylwi ar "arbediad anferth" ers symud i'w chartref newydd.

"Mae'n gyffrous oherwydd dw i'n ei weld fel etifeddiaeth fach i adael i fy nheulu.

"Allai ddweud fy mod i wedi bod â mewn ceisio gwneud gwahaniaeth. Dechreuais i siwrne fy nheulu at wneud y newid yna er mwyn yr hinsawdd, er mwyn popeth, er mwyn i fi fy hun arbed arian."

Disgrifiad o’r llun,

Gall technoleg newydd helpu pobl i ddeall sut i wella effeithlonrwydd eu cartref, meddai Cerys Williams

Fel rhan o'r rhaglen, cafodd "system ynni deallus" ei gosod yng nghartref Jayne Martin. Cafodd ei datblygu gan gwmni technoleg Cymreig, Sero.

"Mae'n ein galluogi i edrych ar sut mae'r ynni'n cael ei ddefnyddio o fewn y cartref," meddai Cerys Williams, Rheolwr Arloesi Sero.

"Ydy e ar declynnau plygio i mewn? Ydy e ar wres? Neu ar ddŵr poeth? Byddwn ni'n gallu rhoi gwybod i'r preswylydd pa feysydd y gellid eu gwella, a rhoi gwybod sut mae'r cartref yn defnyddio'r ynni."

Biliau ynni yn uwch

Mae cartrefi Cymru ymhlith y lleiaf effeithlon yn Ewrop. Mae hyn yn golygu biliau ynni uwch a mwy o effaith ar yr hinsawdd.

Er mwyn mesur eu heffeithlonrwydd ynni, mae cartrefi yn cael eu profi am Dystysgrifau Perfformiad Ynni (EPCs), sydd yn golygu cyfrifo faint o wres sy'n cael ei golli trwy ddrysau, toeau a ffenestri.

Mae tai yn cael eu graddio o A i G - gyda'r mwyaf effeithlon yn ennill gradd A.

Disgrifiad o’r llun,

Byddai gwella effeithlonrwydd cartrefi yn lleihau biliau ynni, medd arbenigwyr

Mae mwy na 60% o gartrefi Cymru wedi ennill gradd D neu'n is. Mae hynny'n rhannol oherwydd bod y mwyafrif o dai Cymru wedi'u hadeiladu cyn 1982, ac un rhan o bump cyn 1900.

Mae gan 98% o dai gafodd eu hadeiladu yng Nghymru ar ôl 2012 sgôr EPC o C neu'n uwch.

Yn ôl data yn 2021, mae biliau ynni mewn cartrefi hŷn yng Nghymru yn £852 y flwyddyn ar gyfartaledd.

Ar gyfer tai sydd newydd eu hadeiladu, y ffigwr cyfartalog ydy £412 - hanner y gost oherwydd bod llai o wres yn cael ei golli.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gwresogi cartrefi Cymru yn achosi dros 20% o'r allyriadau nwyon tŷ gwydr blynyddol

Roedd y gwahaniaeth mwyaf rhwng cost gwresogi cartrefi sydd eisoes yn bodoli a chartrefi newydd yng Nghymru yng Ngwynedd, lle'r oedd biliau cyfartalog cartrefi hŷn £615 yn ddrytach.

Mae gan Wynedd rhai o'r cartrefi mwyaf aneffeithlon yng Nghymru a Lloegr. Roedd gan lai na chwarter o dai'r sir radd EPC o C neu'n uwch.

O ganlyniad, mae gan Wynedd y bil ynni cyfartalog pedwerydd uchaf yng Nghymru a Lloegr.

Mae'r felin drafod newid hinsawdd E3G wedi awgrymu y gallai gwneud cartrefi'n fwy effeithlon o un haen yn unig - o D i C - arbed tua £500 y flwyddyn i aelwydydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cartrefi newydd yn allyrru llai o CO2 bob blwyddyn na thai hŷn

Gan fod cartrefi hŷn yn defnyddio mwy o ynni i gadw'n gynnes, mae hefyd yn golygu bod ganddynt ôl troed carbon mwy.

Yng Nghymru, mae cartref newydd nodweddiadol yn allyrru 1.5 tunnell o CO2 bob blwyddyn ar gyfartaledd, o gymharu â phedair tunnell o dai hŷn.

Mae gwresogi cartrefi Cymru yn achosi dros 20% o'r allyriadau nwyon tŷ gwydr blynyddol.

Allyriadau 'enfawr'

Chris Jofeh sy'n arwain panel Llywodraeth Cymru ar dorri allyriadau carbon cartrefi.

"Oherwydd ein bod yn llosgi nwy i gynhesu'r rhan fwyaf o'n cartrefi, neu'n llosgi olew neu, mewn rhai achosion, yn llosgi glo - mae hynny'n allyrru symiau enfawr o nwyon tŷ gwydr," meddai.

Rhybuddiodd fod pobl yn "pwmpio arian allan o'r drws" i gadw rhai o'r cartrefi llai effeithlon yn gynnes, ac y byddai hynny'n cynyddu eto wrth i'r pris godi ym mis Ebrill.

Disgrifiad o’r llun,

Mae mwy o waith i'w wneud i annog cartrefi preifat i fod yn fwy effeithlon, medd Chris Jofeh

Mae Mr Jofeh wedi croesawu ymdrechion Llywodraeth Cymru i gynyddu effeithlonrwydd tai cymdeithasol, ond dywedodd fod "llawer o waith" i'w wneud gan "bob math o sefydliadau" er mwyn annog cartrefi preifat i wneud yr un peth.

"Mae angen gweithredu i leihau'r angen i bobl ddefnyddio ynni fel nad oes rhaid iddyn nhw wario arian a phetai hynny yn digwydd fyddai dim rhaid i'r llywodraeth roi benthyg arian iddyn nhw i'w helpu i dalu amdano.

"Mae yna gysylltiad gwirioneddol rhwng datgarboneiddio a'r cyfle i leihau biliau ynni pobl," meddai Jack Wilkinson-Dix, swyddog polisi yn yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.

Dywedodd fod lleihau'r defnydd o ynni yn "hollbwysig".

"Yn y cartref, mae hynny'n golygu gwella effeithlonrwydd ynni. Felly, ychwanegu at inswleiddio llofftydd a waliau a lloriau a gosod gwydr dwbl. Mae hefyd yn golygu, symud o wresogi tanwydd ffosil at wres carbon isel."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn mynd i'r afael â'r broblem "deunydd yn gyntaf" drwy ganolbwyntio ar insiwleiddio a gwella drysau a ffenestri i leihau drafftiau a cholli gwres.

"Mae ein Rhaglen Ôl-osod £150m yn asesu a gosod yr ynni adnewyddadwy a thechnolegau digidol mwyaf priodol i helpu i ddatgarboneiddio cartrefi cymdeithasol," meddai.

Ychwanegodd eu bod yn ymgynghori ar ran nesaf y Rhaglen Cartrefi Clyd - rhaglen sy'n cefnogi cartrefi preifat i wneud gwelliannau i'w heffeithlonrwydd.

Pynciau cysylltiedig