Bwriad 'ailgodi' CPD Dinas Bangor yn ôl ar ei draed

  • Cyhoeddwyd
NantporthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Symudodd CPD Dinas Bangor i stadiwm Nantporth yn 2012

Dywed perchennog CPD Dinas Bangor ei fod yn bwriadu "ailgodi'r clwb yn ôl ar ei draed" a denu "teuluoedd a chefnogwyr yn ôl".

Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, dywedodd Domenico Serafino fod dyledion a thrafferthion ariannol y clwb, a arweiniodd at y penderfyniad i dynnu yn ôl o Gynghrair y JD North, wedi bod yn anodd.

Gwaharddwyd CPD Dinas Bangor o unrhyw weithgaredd pêl-droed y llynedd, yn dilyn methiant i dalu dyledion gwerth bron i £53,000 i staff a chwaraewyr.

Cadarnhaodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) eu bod wedi derbyn penderfyniad y clwb i dynnu'n ôl o'r gynghrair.

Gyda'r clwb bellach wedi'i wahardd, dywedodd y perchennog mai'r flaenoriaeth erbyn hyn ydy talu'r dyledion.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd CPD Dinas Bangor yn arfer denu rhai o'r torfeydd gorau yn y pyramid Cymreig

"Rydym mewn trafodaethau gyda'n noddwyr, a gyda nhw rydym yn cydnabod cynlluniau talu er mwyn ailddechrau chwarae'r tymor nesaf, beth bynnag yw'r haen," meddai Mr Serafino, sydd wedi bod yn gyfarwyddwr gyda'r clwb ers 2019.

"'Da ni angen ail godi'r clwb o'r newydd a byddwn yn sefydlu canolfan ddatblygu ac ysgol bêl-droed i hyfforddi a dysgu egwyddorion pêl-droed a chwaraeon i bobl ifanc."

Dechrau o'r gwaelod?

Er mwyn ailddechrau chwarae yng nghynghrair JD North mae gofynion CBDC yn nodi y byddai'n rhaid talu'r holl ddyledion cyn gwneud cais o'r newydd.

Mae 'na ddarogan gan gefnogwyr hefyd o bosib y byddai'r clwb yn gorfod ailymuno yn y bedwaredd, os nad y bumed, haen lle na fyddai'r costau mor sylweddol.

Disgrifiad o’r llun,

Bangor 1876 sydd bellach yn mwynhau'r torfeydd uchaf yn y ddinas

Ond yn ôl Domenico Serafino mae'r clwb yn fodlon gwneud hynny.

"Er gwaethaf pa haen y mae CPD Bangor yn chwarae ynddi ar ddechrau'r tymor nesaf, mi fydd y clwb yn un hollol newydd fel roeddwn yn bwriadu," meddai.

"Pwy bynnag sy'n gwisgo lliwiau crysau Bangor, mi fydd yn rhaid iddyn nhw wneud hynny gyda balchder."

Ymysg cefnogwyr mae 'na gryn siom ac anniddigrwydd fod sefyllfa ariannol y clwb wedi cyrraedd y fath sefyllfa.

Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Hughes ydy ysgrifennydd Bangor 1876

O ganlyniad i drafferthion y clwb mae nifer o gefnogwyr erbyn hyn wedi troi at gefnogi clwb Bangor 1876, a gafodd ei sefydlu gan gefnogwyr.

Yn eu plith mae'r ysgrifennydd, Dafydd Hughes. "Mae 'na dipyn o ddryswch," meddai.

"'Da ni'n clywed fod y perchennog eisiau mynd yn ôl mewn i un o'r is-gynghreiriau.

"Dwi'n meddwl bod 'na ergyd wedi bod, does dim dwywaith fod rhan helaeth y cefnogwyr wedi symud atom ni erbyn hyn.

"Rhaid cofio mai chwaraewyr amatur y byddan nhw ac nid proffesiynol felly mae 'na newid mawr am fod yma."

Disgrifiad o’r llun,

Er fod trwch y gefnogaeth bellach yn gwylio Bangor 1876, gobaith y Parch Geraint Roberts yw adfer CPD Dinas Bangor

I gefnogwyr ffyddlon fel y Parchedig Geraint Roberts, cyn-gaplan a chyhoeddwr CPD Dinas Bangor, mae 'na awydd i weld y tîm hanesyddol yn dychwelyd i'r brig.

"Mae gweld y dirywiad yn naturiol siomedig," meddai.

"Yn sicr mae'n ergyd. Y peth dwytha' 'da ni eisiau clywed ydy bod y clwb yn mynd i orffen ond mae 'na obaith pan ddaw mis Awst.

"Mi fyddwn ni'n ôl mewn rhyw fath o gynghrair - mae angen codi'r clwb yn ôl ar ei draed ac yn ôl i le mae o fod yng nghynghrair Cymru."

Er mwyn gwneud hynny, bydd yn rhaid i'r clwb glirio'r dyledion a gwneud cais i CDBD cyn yr haf os am ail ymuno ar gyfer y tymor sydd i ddod.

Pynciau cysylltiedig