Gweithio adref ac yn y swyddfa 'yn orau o ddau fyd'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Admiral CEO Cristina Nestares
Disgrifiad o’r llun,

Rhaid i'r gweithle fod yn ddeniadol i staff, medd Cristina Nestares, pennaeth cwmni yswiriant Admiral

Mae swyddfeydd yng nghanol dinasoedd yn mynd i fod yn "bwysicach nag erioed" i gwmnïau sy'n cynnig hyblygrwydd i'w staff, yn ôl pennaeth cwmni yswiriant Admiral.

Mae'r cwmni sydd â'i bencadlys yng Nghaerdydd yn annog staff i weithio yn y swyddfa ac o adref.

Ond dywedodd y prif weithredwr Cristina Nestares fod rhaid i'r gweithle fod yn ddeniadol i staff os ydyn nhw'n mynd i "wneud ymdrech i deithio, a dod i'r swyddfa".

Tra bod nifer yn heidio nôl i'r swyddfa mae eraill yn hapus iawn i barhau i weithio adref.

Roedd gweithio adref yn ystod y cyfnod clo "yn anodd ac fe achosodd rai problemau" i'w chydweithwyr ifanc yn Admiral, meddai Cristina Nestares.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Admiral yn cyflogi 7,000 o staff yn ne Cymru ar ar hyn o bryd yn addasu'r swyddfa i ddenu gweithwyr yn ôl

Ers ei sefydlu yng Nghaerdydd ym 1993 mae Admiral wedi tyfu i gyflogi tua 7,000 o staff yn ne Cymru a 4,000 arall mewn lleoliadau eraill yn y DU, Ewrop ac America.

Mae'r cwmni yn cynnig cymysgedd o weithio adref ac amser yn y swyddfa i staff.

Dywedodd Ms Nestares fod cael swyddfa yng nghanol dinas "wastad wedi bod yn bwysig - lleoliad, lleoliad, lleoliad. Ond mae'n mynd i fod hyd yn oed yn bwysicach yn y dyfodol.

"Rydyn ni'n mynd i ofyn i'n staff ac mae llawer ohonyn nhw'n gyfforddus iawn yn gweithio gartref, rydyn ni'n mynd i ddweud 'Gwnewch ymdrech, teithiwch, dewch i'r swyddfa'," meddai.

Mae swyddfa'r pencadlys yng Nghaerdydd ar hyn o bryd yn cael ei hailgynllunio fel bod modd i staff archebu desgiau o flaen llaw - bydd ardaloedd cyfforddus newydd i gyfarfod ac mae'r lloriau yn cael eu hailgynllunio.

"Rydyn ni eisiau i'r profiad yn y gweithle i fod yn wych, yn y swyddfa a thu allan," dwedodd Ms Nestares.

Mae cwmni Admiral yn parhau i ddatblygu eu model newydd o weithio ac fe fyddant yn ymateb i adborth gan y gweithlu.

Mae cwmnïau eraill yn cyflwyno newidiadau tebyg tra bod rhai gweithwyr, sydd bellach yn hapus i weithio o adref, yn ystyried trefniadau gweithio'r dyfodol.

'Y gorau o ddau fyd'

Mae Branwen Llewelyn yn gweithio ym maes cyfathrebu ac wedi bod yn gweithio adref ers y cyfnod clo cyntaf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cael cyfle i dreulio mwy o amser gyda'i phlentyn ifanc yn rhan bwysig o ddiwrnod gwaith Branwen Llewelyn

"Mae naws y swyddfa yn bwysig ofnadwy wrth edrych ar morâl o bryd i'w gilydd. Mae rhywun yn colli y sgyrsiau yna," meddai Branwen.

Ond mae cael cyfle i dreulio mwy o amser gyda'i phlentyn ifanc bellach yn rhan bwysig o'r diwrnod gwaith.

"Y peryg ydy fod pobl wedi cael blas o be' sy'n bosib. Dw i efo plentyn bach, mae'n 18 mis rŵan, so mae'n grêt i fi mod i yn gallu dechrau gwaith yn syth am 9 o'r gloch pan dw i wedi mynd â fo i'r feithrinfa," meddai.

"Mi fuasai mynd yn ôl i'r swyddfa yn chwalu ychydig bach o'r routine yna, ond f'aswn i yn licio y gorau o ddau fyd, a dweud y gwir."

Er bod gweithwyr yn gwneud y gorau o'r opsiynau newydd, mae dyfodol swyddfeydd canol dinas yn ymddangos yn ddiogel.

Mae Admiral wedi lleihau nifer yr adeiladau sydd gan y cwmni yn ne Cymru o saith i bump, ond fel arall mae wedi ymrwymo i ddyfodol swyddfeydd.

Yng Nghaerdydd, mae llawer o'r adeiladau newydd o amgylch yr Orsaf Ganolog yn eiddo i'r gronfa bensiwn sy'n cael ei rheoli gan Legal and General.

"Mae'n rhaid i chi bob amser edrych ar y pethau hanfodol," meddai Tom Roberts, sy'n bennaeth buddsoddi strategol yn y cwmni.

"Ble mae'r cyfleoedd i ganolbwyntio arnyn nhw? Ble mae'r llefydd gorau i fuddsoddi ynddyn nhw? Ble mae pobl eisiau bod?

"Rwy'n meddwl, yn bendant ar gyfer y tymor hir, fod y cyfleusterau sydd yng nghanol dinasoedd a'r cysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus yn bethau pwysig iawn i'w hystyried.

"Dyna pam rydyn ni'n meddwl y bydd canol ein dinasoedd yn parhau i ffynnu," meddai.