Be' ddylwn i ddweud wrth fy mhlant am sefyllfa Wcráin?

  • Cyhoeddwyd
Plentyn ar ei ffonFfynhonnell y llun, Getty Images

Os yw'r sefyllfa yn Wcráin yn eich pryderu fwy a mwy mae'n rhaid cofio fod llawer iawn ar draws y byd yn yr un cwch ar hyn o bryd. Mae teimlo'n orbryderus ac yn aflonydd yn hollol gyffredin.

Ond wrth i ni wylio be sy'n mynd ymlaen ar y newyddion a'r cyfryngau cymdeithasol nid yw'n hawdd deall sut i ddelio gyda'r effaith ar ein teimladau ein hunain ac eraill.

Dyma gyngor gan y seicolegydd Dr Mair Edwards ar sut i edrych ar ôl eich hunain, eich plant, ac eraill.

Wedi dwy flynedd anodd yn ceisio lliniaru ofnau ein plant a'n pobl ifanc am Covid-19 rydym nawr angen eu cefnogi i ymdopi hefo erchyllterau'r hyn sydd yn digwydd yn Wcráin.

Heb os mae hi'n sefyllfa sy'n achosi pryder a phoen meddwl enbyd i'r rhan fwyaf ohonom. Mae hi'n bwysig i ni, fel oedolion, gydnabod a derbyn bod hi'n addas teimlo felly ac i roi amser i ofalu am ein hunain - yn enwedig felly os oes gennym ofal am blant a phobl ifanc.

Mae plant fel baromedr! Os ydach chi'n poeni fe fyddan nhw'n poeni. Felly yn y lle cyntaf gwnewch eich gorau i flaenoriaethu eich gofal personol. Cymerwch hoe o'r ffrydiau newyddion a gwefannau cymdeithasol.

'Ymbellhau'

Gwnewch rywbeth sy'n eich gwneud yn hapus, yn eich ymlacio, yn eich difyrru. Er mor bwysig ydi ymwneud â'r byd o'n cwmpas mai hefyd yn bwysig i ni wybod pryd i ymbellhau oddi wrth bethau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth a'n dylanwad uniongyrchol a chanolbwyntio ar yr hyn yr ydym yn gallu dylanwadu arno. Mae'n sgil ymdopi gwerthfawr - ac yn un sy'n werth ei ddysgu i'n plant a'n pobl ifanc.

Wrth gwrs mae sut i ymateb i'n plant yn mynd i ddibynnu ar eu hoedran a'u lefel dealltwriaeth - a chi sy'n nabod eich plentyn neu'ch plant orau. Chi sy'n gwybod sut i'w cysuro a gwneud nhw deimlo'n ddiogel. Chi, fel rhiant, yw eu hangor.

Gyda phlant dan tua saith oed cadwch at batrymau arferol bywyd. Os yw plentyn yn bryderus am y sefyllfa yna mae'n debyg bydd hi'n ddigonol dangos ar glôb neu fap lle mae'r Wcráin a Rwsia a phwysleisio'r pellter oddi wrthym yma yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Cysuro a chydnabod

Os ydi'ch plant bach yn poeni am blant bach yn Wcráin dyma'r amser i'w cysuro drwy ddweud bod llawer iawn o bobl yn helpu'r plant a bod rhieni ac oedolion yn gofalu amdanynt. Ond gofynnwch hefyd a fyddech plentyn yn hoffi llenwi bocs hefo teganau, pensiliau, papur, a dillad cynnes er mwyn eu gyrru i'r plant bach yn Wcráin fel eu bod yn teimlo eu bod wedi gwneud rhywbeth da.

Yn gyffredinol gyda'r oedran yma cadwch fywyd eich plentyn yn brysur hefo gweithgareddau normal. Y nod ydi eu cadw mor gyfforddus a dibryder â phosib. Cadwch at batrymau arferol bywyd gyda digon o weithgareddau, hwyl a chwerthin.

Mae plant hŷn (cyfnod allweddol 2 a 3) yn debygol iawn o fod yn gweld a deall mwy o'r newyddion ar deledu neu wefannau cymdeithasol ac mae ganddynt y gallu gwybyddol i ddeall bod pobl, gan gynnwys plant, yn marw neu yn cael niwed difrifol. Dyma'r amser i fod yn ffeithiol gywir - i gydnabod bod Rwsia, dan arweinyddiaeth Putin, yn ymddwyn yn gyfan gwbl afresymol a threisgar - a chydnabod bod y sefyllfa'n dorcalonnus.

Mae cydnabod yr erchylltra yn bwysig er mwyn dilysu'r teimladau yn hytrach na'u gwthio i ffwrdd. Gall hefyd fod o gymorth i drafod nad ydi'r rhan fwyaf o bobl Rwsia am weld rhyfel a'u bod nhw hefyd yn gwrthwynebu ac yn teimlo'n drist a blin.

Ond wedyn, mai'n hanfodol bwysig eich bod yn pwysleisio bod bron iawn pob gwlad dros y byd i gyd yn gweithio'n galed i rwystro Putin a Rwsia - a bod gwleidyddion ar draws y byd yn cydweithio â'i gilydd i gefnogi Wcráin. Medrwch drafod mor wych ydi gweld gwledydd yn sefyll yn gadarn yn erbyn rhyfel a thrais.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

'Gobaith'

Gallwch hefyd sôn bod rhyfeloedd eraill wedi bod yn gymharol ddiweddar lle na ddigwyddodd hynny. Gallwch dynnu sylw at ddewrder a dycnwch pobl Wcráin i amddiffyn eu gwlad - a thynnu sylw at eu caredigrwydd a'u gofal dros y milwyr ifanc o Rwsia sydd wedi cael eu dal mewn sefyllfa druenus.

Mae'n bwysig pwysleisio bod yna bobl dda a chyfiawn yn y byd a bod modd goresgyn trais a drygioni ond i bobl dda weithredu a chefnogi ei gilydd. Y nôd yma ydi rhoi gobaith a phwysleisio bod da yn gorchfygu drwg.

Os nad ydych yn teimlo eich bod yn gallu trafod y sefyllfa ar y pryd oherwydd eich bod chi'n teimlo'n rhy emosiynol yna mae'n hollol iawn dweud yn syml, "Gawn ni siarad am hyn nes mlaen" . Ac os nad yw'r amser byth yn iawn yna mae angen i chi feddwl pwy arall o fewn eich teulu neu'ch ffrindiau all siarad yn dawel a chytbwys gyda'ch plentyn am yr hyn sy'n digwydd.

Y peth pwysig ydi bod eich plentyn, beth bynnag eu hoed, yn cael cysur a sicrwydd y bydd pethau, yn y pen draw, yn dod i drefn.

Cadw at batrymau

Fel hefo plant iau, mae gwneud pethau i estyn cymorth i bobl Wcráin yn mynd i fod yn bwysig - felly mae casglu nwyddau addas a chodi arian i'w anfon i ffoaduriaid rhyfel yn gallu helpu plant i deimlo a gwybod eu bod yn gwneud rhywbeth o werth. Ond cofiwch hefyd ofalu bod eich plentyn yn cael amser i fod gyda ffrindiau a theulu ac i fwynhau gweithgareddau o bob math.

Mae cadw at batrymau arferol bywyd yn bwysig. Dylai cael hwyl, chwerthin, a bod yn wirion, fod yn rhan o fywyd pob person ifanc ac neith amddifadu eich plentyn chi rhag cael hwyl ddim gwella sefyllfa plant Wcráin.

Gwrandewch a thrafodwch

Mae gan ein pobl ifanc hŷn lawer iawn o wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd ac mae'n anodd iawn eu rhwystro nhw rhag gweld a chlywed am ddigwyddiadau'r byd. Gwrandewch arnynt, cywirwch gam argraffiadau a ffeithiau anghywir, a thrafodwch - gan gynnwys ffyrdd mae modd iddynt gyfrannu'n bositif.

Y boen emosiynol fwyaf ydi'r teimlad o fethu gwneud dim, y diffyg gobaith, a'r diffyg hunan effeithlonrwydd felly rhowch eich cefnogaeth iddyn nhw deimlo eu bod yn gallu gwneud gwahaniaeth positif i fywydau eraill.

Gall hynny fod yn eu cymuned leol neu dramor. Bydd rhai pobl ifanc hefyd yn dod yn fwy ymwybodol o ffactorau gwleidyddol ac yn yr oed yma mae'n gwbl addas eu cefnogi i feddwl am ddylanwad gwleidyddion a gwleidyddiaeth ar benderfyniadau sy'n effeithio ein bywydau.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig