Achos Mwangi: Mamgu wedi sylwi ar gleisiau ar ei wyneb
- Cyhoeddwyd
Fe sylwodd mamgu Logan Mwangi ar gleisiau ar wyneb ei hŵyr pan welodd ei gorff yn yr ysbyty, clywodd llys.
Mae Claire Williamson wedi bod yn rhoi tystiolaeth yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener wrth i achos llofruddiaeth y bachgen pum mlwydd oed barhau.
Dywedodd Ms Williamson ei bod wedi gyrru i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar ôl i'r heddlu ddweud wrthi bod ei hŵyr, Logan, wedi marw.
Cafwyd hyd i Logan yn farw yn yr afon ym Mharc Pandy, ar gyrion Pen-y-bont ar Ogwr yn gynnar ar fore 31 Gorffennaf y llynedd.
Mae ei fam, Angharad Williamson, 30, ei lystad, John Cole, 40 - y ddau o Sarn yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr - a bachgen 14 oed na ellir ei enwi, yn gwadu llofruddiaeth.
Fe ffoniodd Angharad Williamson ei mam o'r ysbyty a chwrdd â hi yn yr ystafell adfywio.
Clywodd y llys ei bod hi'n "arferol" iddi ffonio ei mam "mewn adegau o argyfwng".
Pan ofynnwyd i Claire Williamson gan yr erlyniad, Caroline Rees QC, sut oedd ymddygiad ei merch yn yr ysbyty, dywedodd ei bod "wedi ei dychryn yn llwyr, roedd ni'n bownsio oddi ar y waliau, doedd hi jyst ddim yn gwybod sut fyddai'n ymdopi".
Gofynnodd Caroline Rees QC beth ddigwyddodd yn yr ysbyty.
Dywedodd Claire Williamson: "Wnes i ei ffeindio'n rhyfedd, oherwydd roedden nhw'n cadw ei rwymo mewn blancedi a dweud ei fod e'n oer ond hefyd yn siarad am ei angladd. Roedd hi mewn stad o sioc."
Fe ofynnwyd i Ms Williamson gan yr erlyniad wedyn a oedd marciau ar wyneb Logan.
Atebodd Ms Williamson: "Oedd, roedd 'na gleisiau."
'Dweud y byddai'n gweld eisiau ei gosbi'
Yn ddiweddarach ddydd Gwener, fe ymddangosodd Daniel O'Brien, partner ymarfer John Cole yn y gampfa, yn y llys.
Dywedodd wrth y rheithgor bod Angharad Williamson wedi dweud wrtho ddiwrnod ar ôl marwolaeth Logan y byddai hi'n gweld eisiau cosbi Logan.
Pan aeth Mr O'Brien i gydymdeimlo â'r teulu y diwrnod hwnnw, disgrifiodd ymddygiad Angharad Williamson fel "rhyfedd, nerfus ac fel petai rhywbeth ddim yn iawn".
Dywedodd Mr O'Brien wrth y rheithgor bod Angharad Williamson wedi dweud: "Bydda i'n gweld eisiau cosbi Logan a bydda i'n gweld eisiau ei roi yn y gornel."
Pan ofynnwyd i Mr O'Brien a ddywedodd John Cole unrhyw beth am ei berthynas â Logan, atebodd: "Dywedodd wrtha i nad oedd e'n hoffi Logan.
"Ddywedais i wrtho y byddai'n rhaid iddo orffen gyda hi [Angharad] os nad oedd e'n hoffi ei mab."
Mae Angharad Williamson, John Cole a bachgen 14 oed na ellir ei enwi, yn gwadu llofruddiaeth.
Mae Angharad Williamson a'r llanc 14 oed hefyd yn gwadu cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder, gan gynnwys symud corff Logan i'r afon ger Parc Pandy, tynnu ei ddillad, golchi dillad gwely â gwaed arnynt, a gwneud adroddiad person coll ffug i'r heddlu.
Mae John Cole wedi cyfaddef cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae'r ddau oedolyn hefyd wedi'u cyhuddo o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, ac mae'r ddau yn gwadu hynny.
Mae'r achos yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2022