Diddymu gofynion cyfreithiol Covid o 28 Mawrth yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Menyw'n gwisgo mwgwd

Bydd yr holl gyfyngiadau Covid-19 sy'n dal mewn grym yng Nghymru yn cael eu diddymu ar 28 Mawrth, oni bai bod yna ddatblygiad newydd sylweddol yn hynt y pandemig.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford fod "ein perthynas â'r feirws yn newid diolch i'r cyfraddau uchel iawn o frechu".

Pwysleisiodd, wrth gadarnhau y bydd cyfyngiadau Lefel Rhybudd 0 yn parhau am y tro: "Nid yw hyn yn golygu bod y pandemig drosodd ond mae'n golygu bod y ffordd yr ydym yn rheoli coronafeirws yn newid."

Cymru fydd gwlad olaf y DU i ddiddymu'r holl gyfyngiadau.

O 28 Mawrth, "os yw sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau i fod yn ffafriol", bydd:

  • Dim gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb, ond y cyngor swyddogol yw y dylid eu defnyddio o hyd mewn lleoedd gorlawn;

  • Gofyniad cyfreithiol i hunan-ynysu yn dod i ben - bydd cyngor, ond nid gorfodaeth, i bobl hunan-ynysu os ydyn nhw'n sâl;

  • Dim gofyniad cyfreithiol i fusnesau gynnal asesiad risg Covid penodol a chymryd camau rhesymol;

  • Bydd y defnydd arferol o brofion PCR ar gyfer y cyhoedd yn dod i ben - profion llif unffordd ar gael ar-lein am ddim yn lle hynny;

  • Profion PCR yn cael eu targedu ar grwpiau penodol, megis pobl mewn cartrefi gofal, pobl sy'n mynd i'r ysbyty a staff iechyd a gofal, ymhlith eraill.

'Gallwn edrych i'r dyfodol gyda hyder'

"Wrth i ni agosáu at ail ben-blwydd y pandemig, gallwn edrych i'r dyfodol gyda hyder cynyddol y bydd y flwyddyn nesaf yn un lle bydd gennym berthynas wahanol iawn â'r feirws," meddai Mr Drakeford yn dilyn yr 198fed adolygiad Llywodraeth Cymru o'r rheolau.

Dywedodd fod cyfradd achosion Covid-19 yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol ers brig ton Omicron dros y Nadolig.

Mae'r gyfradd ar hyn o bryd tua 160 i bob 100,000 o bobl yma ar sail profion PCR.

Yn yr arolwg diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), meddai, roedd y canlyniadau'n awgrymu bod tua un o bob 30 o bobl wedi'u heintio.

"Roedd lefelau haint yn is yng Nghymru nag mewn mannau eraill yn y DU," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Drakeford yn annog pobl i wisgo mwgwd ar ôl 28 Mawrth er na fydd hynny'n orfodol

Gofynnwyd wrth Mr Drakeford mewn cynhadledd newyddion: "Ai dyma'r amser y mae Cymru'n dechrau byw gyda'r feirws?"

Atebodd y Prif Weinidog: "Dwi'n credu bod ni wedi bod yn byw gyda'r feirws ers sbel erbyn hyn.

"Ni nawr yn dechrau trin Covid fel pethau eraill fel y frech goch ac ati... ni'n gwybod sut mae delio gyda pethau felly, a ni'n gwybod nawr beth ni angen neud i ddelio gyda Covid.

"Ry'n ni ar y rhan yna o'r daith, gobeithio, le gallwn ni reoli Covid yn ein bywydau bob dydd, ond dyw rheoli fe ddim yn golygu ei anwybyddu.

"Mae'n golygu cymryd camau synhwyrol o'r math yr ry'n ni wedi disgrifio heddiw."

'Bydd pobl yn parhau i ddiogelu eraill'

Dywedodd Mr Drakeford wedyn ei fod yn hyderus y bydd pobl yn parhau i wisgo mygydau ac yn cymryd camau eraill i gadw'r rhai mwyaf agored i niwed yn ddiogel rhag Covid.

"Rwy'n meddwl bod pobl yng Nghymru wedi gweithredu trwy gydol y pandemig mewn ffordd sy'n cydnabod nid yn unig bod y gweithredoedd hynny o gymorth iddynt, ond eu bod yn awyddus i sicrhau bod pobl eraill yn cael eu cadw'n ddiogel hefyd."

Y sicrwydd gorau i'r rhai sy'n poeni am leddfu cyfyngiadau, meddai, oedd "os bydd pawb arall yn parhau i wneud y pethau hynny a all ein cadw'n ddiogel i'r dyfodol".

Bydd yna "ochenaid o ryddhad" o allu "dychwelyd i ryw fath o normalrwydd", yn ôl Richard Pugh o elusen canser Macmillan yng Nghymru, "ond rhaid i ni gofio na fydd pawb yn medru rhannu hynny".

Dywedodd: "I bobl gyda salwch sy'n effeithio ar eu system imiwnedd, mae'r cyfnod clo a ddechreuodd yn Mawrth 2020 yn debyg o barhau."

Mae'r elusen yn croesawu parhau gyda phrofion wedi'u targedu "ac yn gobeithio y bydd hyn yn cynnwys pobl gyda chanser sy'n fregus".

"Drwy'r newid yma, rhaid i Gymru adnabod grwpiau bregus a chyfathrebu'n glir gyda nhw am yr hyn y mae'r newidiadau yn ei olygu iddyn nhw."

Beth petai yna amrywiolyn newydd?

Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies dylid codi'r cyfyngiadau'n syth yn hytrach nag aros tan ddiwedd y mis.

"Doedd y prif weinidog ddim yn gallu cyflwyno dadl wyddonol dros gadw'r cyfyngiadau yng Nghymru," meddai.

Mae'n dadlau bod yna berygl, o'u "cadw yn hirach nag sydd angen", na fyddai pobl yn fodlon dilyn rheolau o'u hailgyflwyno yn y dyfodol petai angen hynny mewn ymateb i amrywiolyn newydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae arbenigwyr iechyd ac eraill yn pwysleisio bod amrywiolion newydd yn debygol

Mae hi'n bwysig gwybod sut y byddai Llywodraeth Cymru'n ymateb os fydd pethau'n "cymryd tro gwael", yn ôl llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Gofynnodd: "Pa mor barod yw'r llywodraeth i weithredu'n gyflym, a beth fyddai hynny'n ei olygu?

Ychwanegodd fod "digon o gwestiynau i'w gofyn o hyd" am y dull o ddelio gyda coronafeirws.

"Er ein bod yn falch ein bod mewn lle gwell, dydyn ni ddim wedi cyrraedd diwedd y daith chwaith," meddai.

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton wedi pwysleisio pwysigrwydd cadw'r gallu i brofi am Covid er mwyn delio gydag unrhyw amrywiolion newydd sy'n debyg o ymddangos.

Mewn datganiad ysgrifenedig, fe nododd bod y grwpiau ymgynghorol SAGE a NERVTAG "o'r farn fod amrywiolion newydd yn debygol iawn o ymddangos, ac fe allan nhw arwain at lefelau mwy sylweddol o niwed uniongyrchol nag y gwelsom gydag amrywiolyn Omicron".

Beth ydy ymateb y bobl?

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y newid yn achosi pryder i Don Jones a'i ferch oherwydd eu cyflyrau iechyd

Dywedodd Don Jones, o'r Ffôr ger Pwllheli, bod o "ddim yn hapus" ynghylch diddymu'r rheolau'n gyfan gwbl.

"Genna'i COPD a dwi'm yn anadlu'n dda iawn," meddai, "ond alla'i wisgo masg. Mae genna ni hogan anabl, does ganddi hi ddim immunity o gwbl, felly 'dan ni methu mynd â hi allan.

"Fydd gennai'm dewis [ond mynd i siop efo pobl heb fasgiau]."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bryd dychwelyd i'r drefn arferol, medd Owen Maclean

"Mae'r cyfyngiadau 'di mynd mlaen rhy hir," medd Owen Maclean, 30, o Fangor.

"Dwi'n meddwl mae o'n amser i adael ni fyw bywyd ni fel arfer a chael pethau 'nol i normalrwydd.

"Dewisiadau personol pawb ydi o os tisho risgio dy hun. [Cyn] bellach bod pobl dal yn testio eu hunain a cymryd extra caution, mae'n iawn i fynd yn ôl i normal."

Disgrifiad o’r llun,

Croeso gofalus sydd gan Siwan Llynor i gyhoeddiad ddydd Gwener

"Mae'n un anodd," meddai Siwan Llynor o Borthaethwy. "Fues i'n Llundain dros hanner tymor efo'r teulu, a byw 'chydig o ddyddiau di-fasg, a theimlo'n eitha' normal eto, ac mae 'di bod yn anodd dod yn ôl adre a mynd yn ôl i'r arfer o wisgo masg.

"Os ydi o'n saff i neud dwi'n meddwl bod o'n amser i ni gael gwared o'r masgiau, ond dwi'n gobeithio bod ni mewn gofal diogel efo Llywodraeth Cymru, ac os bod y ffigyrau'n codi neu bod amrywiolyn newydd yn dŵad, bod ni'n ffyddiog bod nhw'n mynd i ofalu amdanon ni."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Mair Jones yn parhau i wisgo mwgwd am gyfnod, meddai

Dywedodd Mair Jones, perchennog siop Esgidiau Cic yng Nghaerfyrddin: "Dwi'n meddwl wna i barhau i wisgo mwgwd am damed ta beth.

"Dwi'n mynd yn eitha' agos at y plant i jecio ydy'r ffit yn gywir… Dwi fy hun heb gael Covid."

Ychwanegodd Tina Wilson o siop Trysor yn y dref: "Bydd e'n braf dod nôl i fyw fath o normaldeb.

"Fyddwn ni'n dal i edrych ar ôl pobl fregus sy'n dod i'r siop - does dim llawer o bobl yn tueddu i ddod yma 'run pryd."