Euro 2025 i arwain at 'fwy o fuddsoddiad ar lawr gwlad'

Cefnogwyr CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gymdeithas bêl-droed yn gobeithio y bydd y bencampwriaeth yn hwb i chwaraewyr y dyfodol

  • Cyhoeddwyd

Bydd rhagor o ffocws a buddsoddiad mewn pêl-droed llawr gwlad merched wedi pencampwriaeth Euro 2025, yn ôl Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Daw sylwadau arweinydd strategaeth pêl-droed menywod a merched y gymdeithas, Bethan Woolley wrth i ffigyrau ddangos cynnydd enfawr mewn diddordeb yn y gamp.

Yn ôl ffigyrau'r gymdeithas, mae nifer y merched sy'n cymryd rhan mewn pêl-droed yng Nghymru wedi cynyddu 52% dros y pedair blynedd ddiwethaf.

Y tîm cenedlaethol sydd wedi bod yn hawlio sylw CBDC pan ddaw hi at strategaeth gêm y merched dros y blynyddoedd diwethaf.

Lowri RobertsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lowri Roberts bod ffocws y gymdeithas wedi bod ar y tîm cenedlaethol hyd yma, ond bod hynny'n newid

Yn ôl Lowri Roberts, cyn-bennaeth pêl-droed merched gyda'r gymdeithas, mae'r buddsoddiad hwnnw wedi dwyn ffrwyth, gyda'r merched yn chwarae mewn prif gystadleuaeth am y tro cyntaf yn eu hanes yr haf hwn.

"Gyda'r FAW (CBDC), dy'n nhw ddim yn federation anferth, ac felly does 'na ddim bottomless pit o arian yna fel sydd gyda'r rhai mwy," meddai.

"Felly roedd rhaid i ni fod yn rili, rili glir gyda lle roedden ni'n mynd i 'neud y buddsoddiad mawr yn y blynyddoedd cyntaf yna.

"Dy'ch chi ddim yn gallu rhoi buddsoddiad mewn i bob dim ar yr un amser achos doedd y pres just ddim yna.

"Felly dwi'n credu oedd hi'n iawn i roi'r ffocws ar y tîm cenedlaethol ar yr adeg yna, yn gwybod nawr bod y tîm yn gallu mynd i first major tournament, a hwnna yw'r step change ar gyfer gweddill y gêm."

'Lot mwy o ferched eisiau chwarae'

Ond mae'n bryd newid lle mae'r arian yn cael ei fuddsoddi, meddai.

"Dwi'n credu be' fyddwn ni'n gweld gan yr FAW ar ôl yr Ewros yw y ripple effect o'r tîm, gyda lot mwy o ferched eisiau chwarae, sy'n meddwl bydd angen lot mwy o ffocws ar y clybiau a'r strwythurau o fewn Cymru."

Dros y pedair blynedd ddiwethaf mae pêl-droed merched wedi tyfu'n sylweddol yng Nghymru.

Mae ystadegau'r gymdeithas bêl-droed yn dangos 52% o gynnydd yn nifer y merched sydd wedi cofrestru yn y cyfnod hwnnw - o 12,742 yn 2021/22 i 19,345 yn 2024/25.

Bethan WoolleyFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Bethan Woolley mai ffocws y gymdeithas fydd gwella pêl-droed merched ar lawr gwld

Cymryd mantais o'r twf gyda rhagor o fuddsoddiad yw'r nod nawr, yn ôl Bethan Woolley - arweinydd strategaeth pêl-droed menywod a merched y gymdeithas.

"Dy'n ni wir eisiau rhoi'r ffocws ar y gêm ar lawr gwlad, gwneud yn siŵr bod 'na ddigon o gyfleoedd i ferched chwarae yn yr ysgol, ar ôl yr ysgol, yn y gymuned, i neud yn siŵr bod y facilities yn addas i ferched ar draws y wlad.

"Doedd y facilities ddim wedi cael y female friendly stamp yn y gorffennol oherwydd roedden nhw'n cael eu hadeiladu ar gyfer dynion.

"Ry'n ni hefyd yn rhoi mwy o arian mewn i'r clybiau i ddatblygu, er mwyn gallu cael mwy o ferched yn chwarae wrth gyrraedd y tymor nesa'."

Llun o Iwan Rhys ones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Iwan Rhys Jones fod cyrsiau hyfforddi a chyrsiau dyfarnu i ferched yn cael eu cefnogi hefyd

Iwan Rhys Jones ydy hyfforddwr tîm dan naw oed merched Ogwen Tigers yn ardal Bethesda, Gwynedd.

Dywedodd fod CBDC yn rhoi "mwy o flaenoriaeth i glybiau sydd efo timau merched".

"Ma' nhw yn pwsio cyrsiau hyfforddi a cyrsiau dyfarnu i ferched hefyd.

"Ella ar yr un llaw bysa rhai yn gallu dadlau dydyn nhw ddim cweit yn gwario digon ond ma' nhw yn cynnig pethau am ddim i hybu'r gêm."

Llun o Cara
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Cara, dyw merched ddim yn cael chwarae teg o'i gymharu â'r dynion

Dywedodd Cara, sy'n chwarae i dîm merched dan-14 Ogwen Tigers, nad yw "genod yn cael y cyfle i ddangos eu talent, ac i gymharu efo'r dynion dydyn nhw ddim yn cael chwara' teg".

"Dwi'n credu bod gan [ferched a menywod] lawer o dalent sydd ddim yn cael ei ddangos."

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn dweud bod y Cymru Football Foundation wedi buddsoddi £4m i ddatblygu cyfleusterau sydd yn gynhwysol i fenywod a merched ers 2022.

Ychwanegon nhw fod £4.5m yn rhagor wedi cael ei wario ar gaeau artiffisial sydd wedi eu clustnodi ar gyfer mynediad wythnosol i fenywod a merched.