Tal-y-bont: Cais newydd i godi dwy sied ieir yn hollti barn

  • Cyhoeddwyd
llun stoc o sied ieirFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r ddwy sied sy'n rhan o'r cynllun yn cynhyrchu dros 1,500 tunnell o gig y flwyddyn

Mae cynllun dadleuol ar gyfer uned ddofednod newydd ger pentref Tal-y-bont yng Ngheredigion yn parhau i rannu barn yn y gymuned leol.

Yn wreiddiol fe gyflwynwyd cais am ddwy sied ieir newydd ar fferm Tŷ Nant i Gyngor Ceredigion ym mis Tachwedd 2019.

Cafodd ei wrthod yn 2021 oherwydd diffyg gwybodaeth yn y cais, ond mae cynnig diwygiedig wedi'i gyflwyno i'r cyngor.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys dwy sied fawr, seilos porthiant a gwaith cysylltiedig.

Byddai'r siediau'n gallu cadw cyfanswm o 110,000 o ieir a fyddai'n cael eu magu i gynhyrchu cig.

Mae rhai aelodau o'r gymuned leol - yn enwedig teuluoedd fferm - a'r cyngor cymuned yn cefnogi'r cais, yn rhannol ar sail y Gymraeg.

Ond mae nifer o bobl leol eraill yn gwrthwynebu am nifer o resymau gan gynnwys pryderon lles anifeiliaid, effaith amgylcheddol a chynnydd mewn lorïau trwm ar ffyrdd cul.

'Popeth yn cael ei fewnforio'

Mae John Morgan, o Dal-y-bont, yn gwrthwynebu'r cynllun yn bennaf am resymau amgylcheddol.

"Y sefyllfa yw bod y cais hwn yn fy marn i yn brosiect diwydiannol," meddai.

"Does dim amheuaeth bod y tirlun yng Nghwm Tŷ Nant yn bwysig achos mae Cynllun Dyfodol Ceredigion yn ei ddynodi fel Ardal Tirlun Arbennig.

"Mae popeth ar gyfer y prosiect yn gorfod cael ei fewnforio.

"Mae'r cywion bach sy'n dod mewn yn cael eu mewnforio, y bwyd, y sglodion pren sy'n mynd o dan yr ieir, yr olew yn gorfod cael ei fewnforio.

"Popeth yn cael ei fewnforio o Loegr neu wledydd tramor, dwi ddim yn gwybod. Ac wedyn bydd popeth yn cael ei allforio i Loegr i brosesu'r cig. Felly gallai hyn gael ei sefydlu yn unrhywle, mewn lle mwy addas na Chwm Tŷ Nant."

Disgrifiad o’r llun,

John Morgan: 'Dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n afresymol i wrthwynebu rhywbeth fel hyn'

Yn ôl dogfennau'r cais byddai'r uned ddofednod yn cynhyrchu 1,578 tunnell o gig y flwyddyn, gyda'r ieir yn cael eu cadw mewn dwy sied 113 x 25 medr.

Ni fyddai'r tail yn cael ei wasgaru ar gaeau'r fferm ond yn hytrach yn cael ei gludo i dreuliwr anaerobig ger Aberteifi.

Mae'r teulu Evans o Dŷ Nant - sydd y tu ôl i'r cynllun - wedi ffermio yn yr ardal ers cenedlaethau.

Maen nhw eisoes yn magu tyrcwn a gwyddau adeg y Nadolig ac wedi ennill nifer o wobrau am eu dofednod yn y ffair aeaf yn Llanelwedd.

Doedd y teulu ddim eisiau gwneud sylw tra bod y cais yn cael ei ystyried.

Maen nhw'n cael eu cefnogi gan undeb ffermio NFU Cymru a ddywedodd yn ei gyflwyniad i'r cyngor fod teuluoedd ffermio Cymru, sydd yn draddodiadol wedi dibynnu ar gynhyrchu cig oen ac eidion, yn wynebu dyfodol ansicr "wrth ystyried goblygiadau masnach ar ôl Brexit yn enwedig gyda chytundebau wedi'u llofnodi gydag Awstralia a Seland Newydd".

Mae'r undeb hefyd yn dweud y byddai caniatáu'r cynllun yn "cynnig cyfle i ddiogelu'r busnes ar gyfer y genhedlaeth nesaf".

Mae Enoc Jenkins, ffermwr lleol, hefyd yn gefnogol i'r cais ac yn dweud ei bod yn hollbwysig bod y teulu'n gallu arallgyfeirio.

"Mae'n bwysig i gefnogi'r cais hwn - mae tri theulu i gyd ar y fferm, ac mae plant ganddyn nhw sy'n mynychu'r ysgol leol, sy'n helpu i gynnal yr ysgol a chynnal yr iaith.

"Maen nhw'n weithgar iawn yn y pentref, ac mae'n rhaid i ni gefnogi y math yma o gynllun i'r teuluoedd gael aros yng nghefn gwlad.

"Mae'r teulu yma ers cenedlaethau, mae eu gwreiddiau nhw yn ddwfn yn y ddaear."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Enoc Jenkins fod yn rhaid cymryd y Gymraeg i ystyriaeth

Mae'r cyngor cymuned hefyd wedi cefnogi'r cais.

Dywedodd Bleddyn Huws, un o aelodau'r cyngor: "Mae'r diwydiant amaeth a'r ffermydd teuluol yn asgwrn cefn yr economi yn lleol, ond hefyd yn asgwrn cefn yr iaith Gymraeg a'r diwylliant.

"Mae 'na batrwm pendant yn Nhal-y-bont - mae 'na nifer o ffermwyr ifanc sydd â theuluoedd ifanc a'r rheiny yn mynychu yr ysgol gynradd leol.

"Mae hon yn ddadl ynglŷn â dyfodol cymunedau cefn gwlad yn y pen draw, ac ynglŷn â gallu busnesau amaethyddol i oroesi.

"Wrth gwrs mae 'na fygythiadau o'r tu allan, mae cytundebau masnach yn cael eu gwneud â gwledydd fel Awstralia a Seland Newydd a bydd y farchnad yn cael ei boddi gan gig rhad."

Miloedd yn arwyddo deisebau

Ond mae llawer o drigolion lleol ac eraill o ymhellach i ffwrdd yn gwrthwynebu'r cais.

Denodd deiseb ar-lein yn galw ar Gyngor Ceredigion i wrthod y cais fwy na 6,000 o lofnodion, tra bod gan PETA - sefydliad hawliau anifeiliaid rhyngwladol - fwy na 23,000 o gefnogwyr i'w deiseb.

Mae Cyngor Ceredigion hefyd wedi derbyn mwy na 200 o lythyrau yn gwrthwynebu'r cynlluniau gyda rhai gwrthwynebwyr yn poeni fwyaf am les anifeiliaid, gan ddweud bod ffermio ar raddfa fawr yn greulon.

Mae llawer hefyd yn pryderu am effaith amgylcheddol yr uned ddofednod o ran y risg y gallai dŵr ohoni gyrraedd nentydd ac afonydd.

Mae rhai hefyd yn ofni effaith mwy o loriau trwm ar y ffyrdd lleol cul.

'Cydymdeimlo, ond nid dyma'r ateb'

Mae Dr Naomi Salmon - cyn-gyfreithwraig academaidd ac aelod o'r Blaid Werdd - yn byw yn Y Borth bum milltir o Dal-y-bont.

"Mae fy rhesymau [dros wrthwynebu] yn ymwneud ag effeithiau amgylcheddol unedau dofednod ar raddfa fawr, sydd mewn gwirionedd yn debycach i ffatrïoedd nag unedau fferm.

"Rwy'n pryderu am y risgiau i les anifeiliaid a'r risgiau o ran iechyd anifeiliaid ac iechyd pobl, yn enwedig y risg o gynyddu'r problemau sy'n ymwneud ag ymwrthedd i wrthfiotigau.

"Er fy mod yn gwrthwynebu'r cais yn gryf iawn, ar yr un pryd mae gen i lawer o gydymdeimlad â ffermwyr sydd mewn sefyllfa anodd iawn rhwng Brexit, Covid-19 a nawr wrth gwrs, yr argyfwng yn Wcráin.

"Mae gen i lawer o gydymdeimlad â nhw, ond dwi wir ddim yn meddwl mai'r unedau ffatri mawr hyn yw'r ateb.

"Rwy'n meddwl yr hyn sydd ei angen yw ymdrech ar y cyd gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i gefnogi ffermwyr i arallgyfeirio mewn ffordd ecolegol gadarn a chynaliadwy."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Naomi Salmon yn cydnabod bod ffermwyr yn wynebu heriau newydd

Gan y byddai uned ddofednod Tŷ Nant yn gallu cadw mwy na 40,000 o ieir, mae angen trwydded amgylcheddol gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Ar hyn o bryd, mae CNC yn dweud bod "pryderon gyda'r cais fel y'i cyflwynwyd oherwydd bod gwybodaeth annigonol wedi'i darparu i gefnogi'r cynnig".

Mae CNC yn cynghori Cyngor Ceredigion i gael rhagor o wybodaeth gan yr ymgeiswyr am atal llygredd a rheoli tail.

Mae'r cyfnod ymgynghori statudol ar gyfer y cais bellach wedi'i gau.

Ond dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion bod posibilrwydd y byddan nhw'n gofyn am fwy o wybodaeth am y cynllun.