Dyn byddar yn cyhuddo'r DVSA o 'wahaniaethu'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

"Esgusodion" profion gyrru i'r byddar "ddim digon da"

Mae dyn byddar o Wynedd wedi cyhuddo'r corff sy'n gofalu am brofion gyrru o'i drin yn wahanol oherwydd ei anabledd.

Yn ôl David Pool, o Nefyn, mae'r DVSA wedi methu â sicrhau cyfleoedd teg na chwaith archebu cyfieithydd ar y pryd ar sawl achlysur wrth iddo geisio sefyll ei brawf theori i yrru lorïau.

Mae'r achos wedi arwain at un Aelod Seneddol i alw am wella mynediad at wasanaethau cyhoeddus i bobl fyddar.

Dywed yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau Llywodraeth Prydain (DVSA) y bydd achos Mr Pool yn destun ymchwiliad brys.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi isho bod yn yrrwr lori, dwi isho gweithio a darparu ar gyfer fy nheulu," meddai David Pool

Fe gollodd Mr Pool ei waith yn ystod y pandemig, ac mae'n dweud ei fod am yrru lorïau gan ei fod am ennill cyflog teg i'w deulu.

Ond pan aeth i sefyll ei brawf theori ym mis Chwefror y llynedd yn Y Rhyl, fe ddywedodd yr asiantaeth nad oedd yr ystafell yn ddigon mawr i Mr Pool a'r cyfieithydd oherwydd cyfyngiadau Covid.

Yr eilwaith fe fethodd ei brawf. Y trydydd tro ym mis Tachwedd 2021, fe gysylltodd y ganolfan ar fyr rybudd i ganslo ei brawf heb esboniad.

Ar y pedwerydd cynnig ym mis Rhagfyr fe aeth Mr Pool i sefyll ei brawf ond nid oedd cyfieithydd iddo - ac unwaith eto cafodd ei anfon adref.

Disgrifiad o’r llun,

"Dwi'n teimlo eu bod nhw wedi gwahaniaethu yn fy erbyn oherwydd fy mod yn wahanol," medd Mr Pool

Yn ôl David Pool mae'r asiantaeth hefyd wedi gwrthod rhoi ad-daliad ffi archebu'r prawf na chwaith costau teithio, er i'r anawsterau a brofodd fod tu hwnt i'w reolaeth.

"Mae'r DVSA… dwi'n teimlo eu bod nhw wedi gwahaniaethu yn fy erbyn oherwydd fy mod yn wahanol," meddai.

"Dwi'n meddwl bod angen iddyn nhw wella eu hymwybyddiaeth am anghenion pobl fyddar ac mae angen iddyn nhw wybod mwy am yr hyn 'da ni angen - a sut ellith nhw gyfathrebu'n well.

"'Da ni'n wynebu lot o heriau."

Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith i'r dde: Ffion Môn Roberts o elusen COS, Bethan a David Pool, a'r cyfieithydd Nicky Williams

Yn ôl Mr Pool fe dderbyniodd un e-bost yn gofyn iddo ffonio'r ganolfan i drefnu, er iddyn nhw wybod nad oedd yn gallu cyfathrebu drwy iaith lafar.

Mae hefyd yn dweud fod ieithoedd eraill fel Ffrangeg a Saesneg yn derbyn mwy o gefnogaeth a chyfleoedd tra bod y rhwystrau i bobl sy'n cyfathrebu drwy iaith arwyddo yn brin iawn.

Mae Mr Pool wedi bod yn derbyn cefnogaeth gan elusen COS - Y Ganolfan Arwyddo-Golwg-Sain.

Maen nhw hefyd yn dweud eu bod wedi methu â chael rhagor o wybodaeth gan y DVSA.

"Mae hyn yn wir i lot o bobl fyddar sydd adref ac sydd eisiau gweithio ond dydyn nhw methu oherwydd dydy'r access ddim yna iddyn nhw," meddai Ffion Môn Roberts o COS.

"Mae hynny yn anffodus iawn iawn.

"Mae 'na gymaint o heriau fel cael cyfieithydd yna i helpu nhw, dwi'n deall bod 'na ddiffyg cyfieithwyr o gwmpas ond dwi 'di gweld agweddau pobl... wel ma' 'na esgusodion."

Disgrifiad o’r llun,

"'Di o ddim yn deg nag yn iawn," medd Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd

Mewn anobaith llwyr fe gysylltodd Mr Pool â'i Aelod Seneddol lleol, Liz Saville Roberts, sy'n dweud bod angen i gyrff cyhoeddus wneud mwy i sicrhau fod pawb yn cael tegwch.

"Mae'n rhwystredig iawn," meddai.

"Mae rhywun yn teimlo eu bod nhw'n taro eu pen yn erbyn wal oherwydd 'di o'm ots pa bynnag gais mae 'na wastad rhyw reswm pam na ellith nhw ei gefnogi na chwaith ei ddigolledu o.

"Mae o isho bod yn yrrwr lori a 'da ni'n gwybod bod 'na brinder - 'di o ddim yn deg nag yn iawn.

"'Da ni wedi clywed Llywodraeth San Steffan yn dweud bod mwy o gyfleoedd i bobl hyfforddi fel gyrrwr lori.

"Mae gynnon ni rhywun gwbl addas fan hyn ond ma' 'na rwystrau yn cael eu codi achos bod y drefn iddo wneud ei brawf jyst ddim yn galluogi iddo fo 'neud hynny gyda'r gefnogaeth mae o angen."

'Darparu ar gyfer fy nheulu'

Yn ôl y DVSA maen nhw wedi ymrwymo i sicrhau gwasanaeth o safon uchel a'u bod yn ymddiheuro am unrhyw loes.

Ond gyda chyfleoedd yn brin mae Mr Pool yn dweud bod y sefyllfa yn parhau yn anodd ag yntau heb swydd.

"Dwi isho bod yn yrrwr lori, dwi isho gweithio a darparu ar gyfer fy nheulu ond dwi adre yn gwneud dim," meddai.

"Mae gennai blant dwisho prynu pethau iddyn nhw, ond mae 'na gymaint o heriau."

Pynciau cysylltiedig