Criw yn 'symud at ddyfodol gwyrdd' lleol yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd
Yn y prosiect fwyaf o'i fath hyd yma yng Nghymru mae cyfres o gynulliadau cymunedol ar newid hinsawdd yn cael eu sefydlu yng Ngwynedd.
Y nod yw dod â phobl ynghyd i benderfynu ar ffyrdd o symud tuag at ddyfodol gwyrdd yn lleol.
Mae gan y cyhoedd tan 4 Ebrill i wirfoddoli ac yna bydd 50 o bobl yn cael eu dewis ym mhob ardal i gymryd rhan.
Cafodd BBC Cymru wahoddiad i ymuno â threfnwyr cynulliad Bro Ffestiniog wrth iddyn nhw fynd ati i recriwtio.
Nina Bentley o fudiad GwyrddNi sy'n ein croesawu wrth iddi sgwrsio â phobl leol ar y stryd fawr a chnocio ar ddrws ambell i unigolyn hefyd.
Ffurfiwyd GwyrddNi ar ôl i chwech o fentrau cymdeithasol Gwynedd wneud cais ar y cyd am arian loteri i drefnu'r cynulliadau dros gyfnod o ddwy flynedd.
Yn ogystal â chynulliad Bro Ffestiniog, bydd cyfle gan bobl Pen Llŷn, Dyffryn Ogwen, Dyffryn Nantlle a Dyffryn Peris gymryd rhan hefyd.
"Da ni isie i gymaint o bobl â phosib fynegi diddordeb ar y wefan a llenwi ffurflen fydd yn cymryd dwy funud," eglurodd Nina.
"Mae'r cynulliadau yma i bawb - does dim angen i chi wybod dim am newid hinsawdd. Yr unig beth ydyn ni'n ei ofyn yw eich bod chi'n barod i wrando a rhannu a gweithio fel tîm i ddatblygu dyfodol newydd."
Ymysg y cyntaf i fynegi diddordeb mae Amy Karamian, a fu'n siarad â ni o garreg ei drws tra'n cydio yn ei merch fach, Anri.
Mae Amy'n rhedeg busnes bocsys llysiau ac yn gweld effeithiau newid hinsawdd yn barod.
"Dwi'n cael fy niweddaru'n gyson gan ffermwyr a thyfwyr ynglyn ag effaith stormydd, sychder, glaw ar y cnydau - mae'n teimlo fel llif cyson ar hyn o bryd," meddai.
Mae'n credu y dylai fod cyfleoedd yn lleol i ddysgu sgiliau tyfu llysiau a darparu mwy o le ar gyfer hynny rhag ofn bod argaeledd bwyd yn cael ei effeithio yn y tymor hir.
Wrth i ni sgwrsio mae sŵn gwaith adeiladu i'w glywed o dŷ cyfagos gollodd ei do yn ystod un o'r stormydd pwerus darodd ym mis Chwefror.
Mae goblygiadau tywydd mwy eithafol ar stoc tai'r ardal yn rhywbeth sy'n poeni'r cynghorydd tref Rory Francis.
Mae Blaenau Ffestiniog ymysg y trefi gwlypaf o ran glaw yng Nghymru a Lloegr, gyda rhan helaeth yr adeiladau yn hen, meddai.
"Un her yw'r lleithder, a ma' cadw tai yn gynnes ac yn sych mewn awyrgylch fel hyn yn sialens hefyd".
Ond fe ychwanegodd bod trigolion yr ardal yn ffodus iawn i gael byw mewn amgylchedd naturiol mor hardd.
"Oedd o'n wych yn ystod y cyfnodau clo i fyw yn fama tra roedd y mab yn sownd mewn fflat (yn y ddinas)."
'Agoriad llygad'
Dywedodd bod y cyngor tref wedi datgan argyfwng hinsawdd a natur yn ddiweddar, a'i fod yn obeithiol y gallai'r cynulliad cymunedol helpu'r cynghorwyr i lunio polisïau amgylcheddol.
"Dwi'n meddwl bod hyn yn ffordd wych o esbonio i bobl be ydy'r heriau, be ydy'r cyfleoedd a chaniatáu iddyn nhw drafod hyn a gofyn am gymorth arbenigwyr."
"Dwi'n gobeithio bydd llawer o bobl yn gwirfoddoli a dwi'n siŵr y bydd e'n agoriad llygad iddyn nhw," meddai.
Ymhellach i lawr y stryd fawr, dyma Nina'n dwyn perswad ar nifer o bobl ifanc i lenwi ffurflen yn mynegi diddordeb.
"Dwi'n meddwl mae'n syniad da, yn rhoi rhywbeth i bobl wneud," meddai Mared Huws, 17.
"Dwi'n poeni lot am y peth am fod gen i hogyn bach," meddai ei ffrind Chantalle Atkinson, 20.
"Pan mae'r tywydd yn wael mae'r trenau wastad yn cancelled a mae'n anodd mynd allan."
Dywedodd Luke Mason, 19 ei fod yn "bryderus iawn faint o newid sy'n digwydd i'n planed ni - mae ar raddfa enfawr".
Fe hoffai e weld mwy o drafnidiaeth gyhoeddus i helpu pobl allan o'u ceir ond hefyd "am ei bod hi'n eithaf ynysig yma os nad ydych chi'n gyrru".
Dywedodd Sophie Lewis, 19 ei bod hi am weld mwy o barciau yn cael eu creu, a gweithgareddau i bobl ifanc yn gyffredinol.
Ychwanegodd y prentis mewn bwyty ei bod yn gobeithio gweld ffocws ar sut i helpu pobl a'r cynnydd mewn costau byw hefyd.
"Mae trydan a nwy yn mynd yn uchel iawn, mae'n mynd yn anoddach talu rhent," dywedodd.
Mae'n bwynt y clywsom ni'n cael ei ail-adrodd y tu allan i swyddfeydd Cwmni Cymunedol Bro Ffestiniog sy'n cydlynu gwaith nifer o fentrau cymdeithasol yn lleol.
Yma mae yna wasanaeth galw heibio sy'n cynnig cyngor a chymorth i bobl gyda'u biliau neu wrth chwilio am waith.
"Mae pobl yn dod i mewn a'u biliau ynni nhw'n £60 y mis ar hyn o bryd ond erbyn mis Ebrill fyddan nhw'n £250," meddai'r swyddog datblygu Ceri Cunnington.
"Mae hynna'n anghynaladwy a mae pobl yn dioddef go iawn ar lawr gwlad."
Ei obaith ef yw y bydd y cynulliadau hinsawdd yn helpu arwain at "gyfiawnder cymdeithasol" mewn cymuned sy'n gyfoethog o ran adnoddau naturiol a'r potensial i greu ynni glan.
"Beth sy'n rhwystredig yw da ni'n gweld y dŵr yn llifo lawr y mynyddoedd yma a mae pwerdai hydro bach yn lleol yn cynhyrchu 133% o'n hanghenion ynni ni," eglurodd.
"Ond eto fama 'di'r lle efo'r tlodi tanwydd ucha' yng Nghymru. Ma' hynny'n sgandal."
"Y mwya' o leisiau sydd gyda ni yn amlygu yr heriau yma ac yn cydweithio i geisio eu datrys nhw y gorau."
Er nad yw cynulliadau ar yr hinsawdd yn syniad newydd, maen nhw'n dal i fod yn ffordd "arbrofol" o geisio cynnwys dinasyddion yn y gwaith aruthrol sy'n gorfod digwydd i ddatgarboneiddio cymdeithas, yn ôl Dr Stuart Capstick o Brifysgol Caerdydd.
Fe yw dirprwy gyfarwyddwr canolfan newid hinsawdd a thrawsnewidiadau cymdeithasol y brifysgol ac mae wedi bod yn gwerthuso cynulliadau o'r fath mewn llefydd eraill.
Eisoes mae yna gynlluniad cenedlaethol ar gyfer y Deyrnas Unedig wedi'i gynnal tra bod rhai lleol wedi'u trefnu mewn amryw o lefydd gan gynnwys Blaenau Gwent.
'Newid hinsawdd yn aml yn bwnc enfawr a chymhleth'
Yn ôl Dr Capstick mae ymchwil yn awgrymu bod pobl sy'n cymryd rhan yn teimlo'n bositif iawn am y profiad ac wedi'u "symbylu i weithredu".
"Maen nhw'n mynd o fod chwilfrydig i ddeall mwy am newid hinsawdd ac yna'n eithaf gweithgar a llafar am y peth o ganlyniad," meddai.
"Ry'n ni'n gwybod o'n hymchwil ni hefyd bod y cyhoedd yn gyffredinol yn pryderu'n fawr am newid hinsawdd ond yn aml ddim yn siwr lle maen nhw'n ffitio i mewn."
"Yn aml mae'r peth yn cael ei gyflwyno fel pwnc enfawr, cymhleth, ryngwladol neu yn cael ei leihau i lefel unigolyn."
"Felly gwerth y math yma o brosesau yw y gallan nhw helpu pontio'r bwlch yna a roi peth cyd-destun ar lefel leol i'r math o fesurau polisi sydd eu hangen".
Tra bod cynulliadau eraill wedi tueddu i arwain at adroddiad neu gyfres o argymhellion ar gyfer gwleidyddion lleol neu'r llywodraeth, bwriad GwyrddNi yw ceisio canolbwyntio ar weithredoedd y gall y gymuned eu harwain.
Gallai hyn olygu dod o hyd i syniadau ac yna gwneud cais am grantiau a nawdd pellach i'w gweithredu nhw.
"Rhaid i ni ddechrau wrth ein traed," meddai Ceri Cunnington - "fel ddwedodd Dewi Sant - gwneud y pethau bychain."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2021