Gwasanaethau tân 'dan bwysau mawr' gan danau gwair
- Cyhoeddwyd
Mae cynnydd yn nifer y tanau gwair yn golygu bod adnoddau'r gwasanaethau tân "dan bwysau mawr" yng Nghymru.
Yn ôl Gwasanaeth Tân y Canolbarth a'r Gorllewin, mae dros 200 o danau wedi bod yn yr ardal yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Mae llawer ohonyn nhw wedi bod yn danau bwriadol ond cyfreithlon. Mae 'na ganiatâd i dirfeddianwyr losgi eu tir tan ddiwedd mis Mawrth, yn ystod yr hyn sy'n cael ei alw'n "dymor llosgi", i reoli tyfiant.
Ond mae diffoddwyr tân yn annog pobl i roi gwybod iddyn nhw os ydyn nhw'n llosgi tir, fel nad yw eu hadnoddau'n cael eu gwastraffu ac nad yw tanau'n mynd allan o reolaeth.
"Mae wedi bod yn broblem sylweddol yn ddiweddar," meddai Neil Evans, dirprwy bennaeth diogelwch cymunedol Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru.
"Mae'r holl dywydd sych hyfryd hwn rydyn ni i gyd yn ei fwynhau, wedi golygu bod gennym ni dirfeddianwyr a ffermwyr sydd angen defnyddio tân fel rhan o'u rheolaeth tir.
"Rydym o fewn y tymor llosgi sy'n dod i ben ddiwedd y mis hwn. Ond os na chawn wybod amdanyn nhw, yna mae pobl yn ffonio 999, yn ffonio'r gwasanaeth tân. Mae adnoddau sylweddol yn cael eu rhoi i'r tanau hyn.
"Byddai dim rhaid i ni fod yno os bydden ni'n cael gwybod bod y llosgi dan reolaeth."
Mae'n siarad wrth droed y Mynydd Du yn Nyffryn Aman, lle mae un tân wedi achosi difrod sylweddol i dir comin ar ôl lledaenu'n gyflym o dan amodau gwyntog.
Mae Neil Evans a'i dîm llosgi bwriadol yn yr ardal i asesu'r difrod y diwrnod ar ôl i sawl criw lwyddo o'r diwedd i ddiffodd y fflamau yn dilyn ymgyrch chwe awr.
"Mae pobl yn anghyfrifol wrth gynnau'r tanau a ddim yn ei wneud mewn modd controlled," meddai.
Mae cael galwad i dân gwair bwriadol yn golygu bod peiriannau tân yn cael eu tynnu o gymunedau a gall hynny fod yn beryglus os oes angen brys yn rhywle arall, yn ôl y gwasanaeth.
"Byddai'n rhaid i ni ddyblu'r adnoddau i wneud yn siŵr y byddai injan dân gyda phob cymuned," meddai Mr Evans.
"Felly pe bai 'na wrthdrawiad neu dân mewn eiddo, yna byddai'r injan yn cymryd mwy o amser na'r hyn fyddai ar gael yn lleol."
"Mae (adnoddau) dan bwysau mawr ar hyn o bryd. Rydym yn deall pam ei fod yn digwydd, mae yn y tymor llosgi, mae'r tywydd yn berffaith ar gyfer gwneud y gweithgareddau mae pobl am wneud ar eu tir.
"Ydy mae'n gyfreithiol ond mae angen iddyn nhw sicrhau eu bod yn rhoi gwybod i ni."
Tanau ar draws y wlad
Ddydd Iau bu'n rhaid i griwiau tân ddefnyddio hofrennydd i ddiffodd tân oedd yn gorchuddio ardal o 100,000 metr sgwâr ar un adeg.
Hwn oedd yr ail dân o'i faint i dorri allan yng Ngwynedd dros y dyddiau diwethaf.
Dywedodd y gwasanaeth tân fod Mynydd Mawr wedi cael ei "ddinistrio'n fawr" gan y tân.
Roedd criwiau o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin a De Cymru hefyd yn taclo nifer o danau mewn ardaloedd gan gynnwys Brynaman Uchaf yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, a ger Crucywel, Powys.
Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o danau ers cyfnod o dywydd cynnes a sych y penwythnos diwethaf.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru brynhawn Sadwrn bod tân yn ardal Rhyduchaf, ger Y Bala yn dod dan reolaeth wedi i griwiau fod yn yr ardal am dros 24 awr.
Cafodd wyth injan dân, uned tanau gwyllt a hofrennydd eu danfon i'r ardal.
Dywedodd llefarydd bod y tân wedi lledu ar draws 180 o erwau gan achosi "niwed sylweddol i'r tir".
"Dylai unrhyw un sy'n ystyried llosgi dan reolaeth bod â chynllun llosgi yn ei le a rhoi gwybod i'r gwasanaeth tân perthnasol beth ydi amser, dyddiad a lleoliad y llosgi," dywedodd y rheolwr rhanbarthol Paul Scott.
"Mae hefyd angen ystyried a yw'r llosgi'n hollol angenrheidiol oherwydd mae yna risgiau sylweddol, yn enwedig pan mae'r tywydd yn sych neu'n boeth."
Ychwanegodd bod digwyddiadau fel y ddau dân tir mawr yng Ngwynedd yn y dyddiau diwethaf "yn rhoi straen enfawr ar ein hadnoddau ac yn hollol bosib i'w hosgoi o ddilyn y cynlluniau diogelwch cywir o flaen llaw".
Mae criwiau hefyd wedi bod yn ymateb i danau eraill yng Ngwynedd - yn Rhiw, ger Llanbedr, Clynnog Fawr, Penygroes a Phant Glas - ac yn Wrecsam.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2022