'Dylid cael 90 o aelodau yn Senedd Cymru erbyn 2026'
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Plaid Cymru'n dweud y dylid cael o leiaf 30 yn rhagor o Aelodau o'r Senedd ym Mae Caerdydd erbyn yr etholiad nesaf yn 2026.
Daeth sylwadau Adam Price wrth i'w blaid gynnal pleidlais yn ei chynhadledd wanwyn ynghylch trywydd trafodaethau gyda'r blaid Lafur dros dyfodol Senedd Cymru.
Mae'r ddwy blaid yn dymuno Senedd fwy gyda mwy o aelodau ond maen nhw eto i gytuno ar y manylion.
Dywedodd Mr Price y bydd angen i'r ddwy ochr ddod o hyn i'n hyn fedran nhw gytuno arno.
Mae'r pleidiau yn y Senedd yn trafod cynllun i ddiwygio'r sefydliad a chynyddu nifer y gwleidyddion.
Yng nghynhadledd y Blaid Lafur ym mis Mawrth, roedd yna gymeradwyaeth i gynnig bod angen i'r Senedd gael rhwng 80 a 100 o Aelodau.
Ond doedd dim cynnig ynghylch sut y dylid ethol yr ASau ychwanegol, gyda dadl o fewn y blaid a ddylai cefnogi system fwy cyfrannol.
Mae AS Caerffili, Hefin David wedi cwestiynu hefyd a fyddai'n bosib cwblhau'r broses erbyn yr etholiad nesaf.
Mae'r Ceidwadwyr wedi gwrthwynebu cynyddu maint y Senedd.
Yn hanesyddol, mae Plaid Cymru wedi bod yn fwy cefnogol o gael system gyfrannol, gan gymeradwyo Bleidlais Unigol Drosglwyddadwy (STV).
Ar hyn o bryd mae Aelodau'r Senedd yn cael eu hethol drwy gyfuniad o seddi cyntaf heibio'r postyn, a system rhestrau rhanbarthol sy'n ceisio adlewyrchu patrymau pleidleisio'r ardal.
Dywedodd Adam Price wrth BBC Cymru bod angen i'r system fod "yn gyfan gwbl gyfrannol", gan ddileu'r drefn cyntaf heibio'r postyn.
Mae hefyd yn galw am Senedd â mwy o gynrychiolwyr benywaidd neu o gefndiroedd amrywiol, ac i'r system newydd fod yn ei lle erbyn yr etholiad nesaf.
'Ni allwn fforddio aros am 10 mlynedd arall'
"Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn cael y Senedd a allai wneud y job mae angen iddo'i wneud, sef gwella bywydau pobl Cymru," meddai.
"Does gyda ni mo hynny ar y foment."
"Ni allwn fforddio aros am 10 mlynedd arall. Rhaid i ni gael y newid yna nawr erbyn yr etholiad nesaf.
"Mae'n rhaid i ni gael Senedd sydd yn wirioneddol gynhwysol ac amrywiol.
"Mae hynny'n golygu gweithredu yn nhermau cydbwysedd rhwng y rhywiau ac amrywiaeth yn fwy cyffredinol.
"Mae'n rhaid iddo fod yn system gwbl gyfrannol."
'Rhaid canfod tir cyffredin'
Dywedodd y byddai'r blaid yn dymuno gweld Senedd â 100 o aelodau ond fe awgrymodd y byddai'n fodlon cyfaddawdu.
"Dyw unrhyw beth llai na 90... yn syml ddim yn mynd i allu wneud y job y mae pobl yng Nghymru yn gofyn i ni ei wneud."
Fe wnaeth Mr Price gydnabod y bydd angen cyfaddawdu fodd bynnag. "Mae'n hanfodol yn unrhyw gyd-destun ble ry'ch chi ceisio cael dau blaid i gydweithio... rhaid i chi ganfod ble mae'r tir cyffredin."
Mae BBC Cymru'n deall y bydd cynadleddwyr Plaid yn pleidleisio nes ymlaen ddydd Sadwrn, sy'n awgrymu y gallai'r blaid gefnogi model dau gymal os oes yna broblemau o ran cynnal adolygiad ffiniau llawn erbyn 2026.
Mae'r cynnig yn gwrthod system cyntaf heibio'r postyn, gan ddweud os nad yw Pleidlais Unigol Drosglwyddadwy'n bosib yna'r system gyfrannol aml-aelod (MMPS) yw'r opsiwn gorau nesaf.
Mae'r drefn MMPS, gan amlaf, yn cyfuno system cyntaf heibio'r postyn yn achos seddi etholaethol gyda system fwy cyfrannol ar gyfer seddi eraill.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mai 2021
- Cyhoeddwyd19 Mai 2021
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2022