'Mwy i fynd i ddyled' wrth i brisiau ynni gynyddu
- Cyhoeddwyd
Gyda phrisiau ynni'n codi i filiynau o bobl ar draws Prydain, mae rhybudd gan un elusen blaenllaw mai'r canlyniad fydd mwy o bobol yn mynd i ddyled.
Daw'r rhybudd i Newyddion S4C gan Sefydliad Bevan, sy'n edrych ar effaith tlodi ar gymunedau Cymru.
Fe all pris nwy a thrydan godi 54% o 1 Ebrill.
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad yw Llywodraeth y DU wedi gwneud digon i gefnogi pobl sydd mewn angen.
Ar gyfartaledd fydd hynny'n golygu cynnydd o £693 yn y bil blynyddol, a chwsmeriaid yn talu cyfanswm o £1,971 y flwyddyn.
Bydd cynnydd arall yn fwy na thebyg ym mis Hydref.
Ac nid yn unig pris ynni sy'n codi ar hyn o bryd, gyda graddfa chwyddiant - sy'n mesur y cynnydd yng nghostau byw - bellach yn 6.2%.
'Pwysau pellach ar deuluoedd'
"Y cyfuniad o'r costau' ma i gyd yn cynyddu sy'n rhoi pwysau ar deuluoedd," meddai Dr Steffan Evans, pennaeth polisi Sefydliad Bevan.
"'Da ni'n amau y bydd 'na gynnydd yn nifer y bobl sy'n gorfod torri nôl ar eu defnydd o'r eitemau hanfodol.
"Ond hefyd mae 'na ofid bod pobl yn mynd i syrthio mewn i ddyled efo rhai o'r costau 'ma hefyd, sy'n mynd i roi pwysau pellach ar deuluoedd i'r haf a'r hydref nesa wrth bod ni'n poeni falle y bydd costau'n cynyddu hyd yn oed yn bellach yr amser hynny."
Un o'r rheini sydd braidd yn bryderus am y cynnydd yn y pris ydy Lois Jones Hughes, merch 21 oed sy'n byw yng Nghaernarfon ac yn fam i ferch fach tair oed.
"Dwi'n obviously poeni fydd budget fi ddim yn gwneud am y mis achos fel 'na dwi'n neud trydan fi am y mis, ond be o'n i'n neud mis diwetha'... wneith hynna ddim 'neud am y mis pan fydd y cynnydd yn digwydd.
"Wna'i ista'n twllwch, falla gwneud lamp ohoni i neud y lle edrych yn neis, jyst ista efo cannwyll oherwydd di cannwyll ddim yn costio'm byd."
Mae Zack James Robinson yn 20 oed ac yn byw ar ei ben ei hun yn ei fflat yn y dre.
"Dwi methu rîli iwsio'r hîtars gan bod nhw mor expensive yn barod felly fydd y cap ma'n gwneud petha' hyd yn oed yn waeth .... gorfod prynu hîtars bach i gadw fy hun yn gynnes.
"Ti'n gorfod prynu mwy o flancedi... petha ti ddim i fod i boeni am ond ti yn.
"Dwi wedi budgetio amdano fo ond ddylsan ni ddim rhaid... ddylswn i ddim gorfod poeni am budgetio i fedru cael lectrig yn fy fflat fy hun."
'Cytundeb gorau'r farchnad'
Does dim osgoi'r ffaith fod y pris yn codi, ond mae modd chwilio o hyd am y cytundeb gorau ar y farchnad.
Mae Ffion Hughes yn ymgynghorydd sy'n rhoi cyngor i gwsmeriaid ynni.
"Ni'n go lwcus ni yn mynd i mewn i'r haf felly mae'r defnydd yn mynd i fod yn llai," meddai.
"I'r rheiny sydd ar ddêl ac mae'n fixed ar hyn o bryd chi'n go lwcus, i aros yna fyddai'r cyngor gorau.
"I'r rheiny sydd ychydig bach yn fwy anffodus gyda'r contracts sy'n dod i ben, mae lot yn holi ar hyn o bryd beth yw'r peth gorau i neud naill a'i variable neu fixed, ac i fod yn onest does na ddim ateb cywir, mae i gyd yn dibynnu sut chi isio byw.
"Rheiny sydd ar fixed, oes mae o yn ddrytach ar hyn o bryd ond chi yn talu am ddiogelwch, os y chi yn fodlon cymryd mwy o risg mae variable yn ddêl gwell ar hyn o bryd ond yn amlwg y risg fanna yw os bydd na gyhoeddiad neu'r farchnad yn mynd lan fydd y prisiau yn amlwg yn mynd lan hefyd."
Fe fydd rhyw faint o gymorth - gan ddibynnu ar faint o dreth y Cyngor mae pobol yn ei dalu, benthyciad gan Lywodraeth Prydain yn yr hydref a chymorth ychwanegol i'r rheiny ar incwm isel.
Ond i bobol ar hyd a lled y wlad, fe fydd na filiau uwch.
Angen gwneud mwy
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi gweithredu'n gadarn i gefnogi pobl gyda thrafferthion costau byw.
"Ers mis Tachwedd rydym wedi gwneud £380m ar gael i gefnogi pobl ar draws Cymru, sydd yn uwch na'r gefnogaeth gyfatebol sydd ar gael yn Lloegr.
"Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidol ddweud y bydd 2022-23 yn gweld y cwymp mwyaf mewn safonau byw yn y DU ers i gofnodion ddechrau.
"Yn anffodus mae ymateb llywodraeth y DU i'r argyfwng wedi bod yn brin o'r gweithredu brys y mae pobl angen i weinidogion y DU ei wneud.
"Dylai llywodraeth y DU ymuno gyda ni i ddarparu ymateb argyfwng llawn i gynorthwyo pobl sy'n wynebu biliau a phrisiau uwch."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2022