Côrdydd yn fuddugol yng nghystadleuaeth Côr Cymru 2022

  • Cyhoeddwyd
CordyddFfynhonnell y llun, Côr Cymru / S4C / Rondo
Disgrifiad o’r llun,

Côrdydd yw côr buddugol cystadleuaeth Côr Cymru 2022

Côrdydd yw pencampwyr cystadleuaeth Côr Cymru 2022.

Dan arweiniad Huw Foulkes, mae'r côr yn derbyn tlws a gwobr ariannol o £4,000.

Dyma'r degfed tro i'r gystadleuaeth gael ei chynnal ers cael ei sefydlu yn 2003 - a chael ei gohirio oherwydd Covid-19 y llynedd.

Roedd pump côr yn cystadlu yn y rownd derfynol nos Sul yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.

CF1, Côr Ieuenctid Môn, Johns' Boys, Côr Heol y March a Côrdydd oedd wedi hawlio eu lle ar ôl mynd drwodd o'r rowndiau cynderfynol.

'Ysbrydoledig'

Yn ôl Wyn Davies, un o'r beirniaid, cafodd y panel eu "hysbrydoli" gan y gystadleuaeth ac un o'r uchafbwyntiau oedd "teimlo'r parch rhwng y corau".

Wrth gyhoeddi mai Côrdydd oedd y côr buddugol, dywedodd fod y beirniaid yn "hollol gytûn" ar eu penderfyniad.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Côrdydd yn derbyn tlws a gwobr ariannol o £4,000

Dywedodd y beirniad answyddogol, Catrin Hughes, fod y pump côr wedi "rhoi ias a gwefr a gwledd" ar y noson.

"Mae dyfodol canu corawl Cymru yn hollol, hollol ddiogel," dywedodd.

Rhoddwyd gwobr arall hefyd am yr arweinydd gorau i Rachel Blair, arweinydd Côr Ysgol Penglais, am "ei gwaith ysbrydoledig".

Ffynhonnell y llun, Côr Cymru / S4C / Rondo
Disgrifiad o’r llun,

Fe ganodd Amelia Anisovych, merch 7 oed o Wcráin, yn ystod y gystadleuaeth

Yn ogystal â pherfformiadau'r corau o Gymru, cafwyd perfformiad arbennig gan ferch fach 7 oed o Wcráin.

Cafodd fideo o Amelia Anisovych yn canu mewn lloches yn Wcráin ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol ar draws y byd.

Fe deithiodd i Aberystwyth er mwyn canu cân 'Let it Go' a'r anthem genedlaethol ar lwyfan Côr Cymru ac ar S4C.