Llystad a bachgen laddodd Logan Mwangi, medd ei fam
- Cyhoeddwyd
Mae mam sydd wedi ei chyhuddo o lofruddio ei mab wedi dweud wrth lys iddo gael ei ladd gan ei lystad a bachgen yn ei arddegau.
Mae Angharad Williamson, 31, John Cole, 40, a'r bachgen, 14, i gyd wedi'u cyhuddo o lofruddio Logan Mwangi, 5.
Cafwyd hyd i gorff Logan yn Afon Ogwr yn Sarn, Pen-y-bont ar Ogwr, ar 31 Gorffennaf 2021.
Pan holwyd hi gan Caroline Rees QC ar ran yr erlyniad, pwy laddodd Logan, dywedodd Ms Williamson wrth Lys y Goron Caerdydd: "John Cole a [y bachgen]."
Pan ofynnwyd iddi a oedd hi wedi gweld neu glywed yr ymosodiad, dywedodd Ms Williamson na wnaeth oherwydd ei bod yn cysgu.
'Ofn Covid'
Yn Llys y Goron Caerdydd, fe apeliodd Ms Williamson hefyd ar ei chyn-bartner i "ddweud y gwir".
Tra'n cael ei chroesholi gan yr erlyniad am anafiadau Logan, fe edrychodd Ms Williamson i gyfeiriad y doc gan ddweud: "Rwy'n erfyn arnat Jay [John Cole] i ddweud y gwir plîs."
Gan gyfeirio at John Cole, ychwanegodd: "Dylwn i fod wedi ei adael e fisoedd yn ôl a dylwn fod wedi magu asgwrn cefn."
Fe ddisgrifiodd hi ystafell wely Logan lle y treuliodd 10 diwrnod olaf ei fywyd am ei fod yn hunan-ynysu yn sgil Covid fel "dwnsiwn (dungeon)".
"Roedd e fel dwnsiwn am ei bod mor dywyll yno," meddai, ond gwadodd ei fod fel carchar gyda gât babi yn atal mynediad.
"Ry'ch chi'n 'neud yr ystafell i swnio yn llawer gwaeth nag yr oedd hi," meddai wrth Caroline Rees QC.
"Pam na fyddech wedi caniatáu iddo [Logan] fynd i'r ardd i gael awyr iach?" gofynnodd yr erlyniad.
"Dwi ddim am ateb hynna... doedd Jay [John Cole] ddim am iddo fynd. Rwy' wedi bod yn fam ofnadwy. Dwi ddim yn teimlo fel mam bellach.
"Roeddwn i ofn Covid - yn ofn i'm plant gael Covid a marw," ychwanegodd.
Yn gynharach dywedodd Ms Williamson wrth gael ei holi gan yr erlyniad mai John Cole a'r llanc 14 oed, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, oedd wedi lladd Logan.
Dywedodd hefyd nad oedd wedi gweld na chlywed yr ymosodiad gan ei bod yn cysgu.
Wrth iddi gael ei chroesholi gan fargyfreithiwr y llanc ifanc, John Hipkin QC, dywedodd Ms Williamson na "feddyliodd hi erioed y byddai'r llanc yn lladd Logan".
Wrth gael ei holi am ymosodiad honedig Cole a'r llanc 14 oed ar Logan ddeuddydd cyn ei farwolaeth dywedodd Ms Williamson bod y llanc 14 oed wedi "gwneud yr hyn a ddywedodd John Cole wrtho".
Fe wnaeth Ms Williamson hefyd gyfaddef iddi ddweud celwydd wrth yr heddlu am anaf difrifol i fraich Logan gan ddweud ei bod wedi gwneud hynny er mwyn amddiffyn ei phartner.
"Doedd y modd y cafodd fy mab ei guro i farwolaeth ddim i'w wneud â'r ffaith bod ei fraich wedi symud o'i lle fisoedd ynghynt," meddai.
Mae John Cole, Angharad Williamson a llanc 14 oed yn gwadu llofruddiaeth.
Mae Mr Cole wedi cyfaddef cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder, cyhuddiad y mae Ms Williamson a'r bachgen 14 oed yn ei wadu.
Mae'r ddau oedolyn hefyd wedi'u cyhuddo o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, ac mae'r ddau yn gwadu hynny.
Mae'r achos yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2022