Marwolaeth brathiadau ci: Ymchwiliad heddlu yn dod i ben

  • Cyhoeddwyd
Brynhyfryd
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw William Jones wedi i gŵn ei frathu yn ei gartref yn ardal Brynhyfryd, Llanbed

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dweud nad ydyn nhw'n ymchwilio bellach i farwolaeth dyn a gafodd ei frathu gan gŵn yng Ngheredigion.

Bu farw William Jones, 68, ar ôl cael ei ganfod gydag anafiadau "a achoswyd gan gŵn" yn ei gartref yn Llanbedr Pont Steffan ar 10 Ionawr.

Dywedodd yr heddlu ar y pryd mai'r anafiadau gan y brathiadau oedd achos ei farwolaeth.

Cafodd dynes ei harestio ar amheuaeth o fod â chi oedd yn beryglus ac allan o reolaeth, a'i rhyddhau yn ddiweddarach.

Gan gadarnhau bod eu rhan nhw yn yr achos wedi dod i ben, dywedodd llefarydd o Heddlu Dyfed-Powys: "Yn dilyn ymholiadau trylwyr gan swyddogion yr heddlu, mae'r ymchwiliad wedi dod i ben.

"Rydyn ni wedi bod mewn cyswllt gyda phawb sy'n gysylltiedig â'r achos i'w hysbysu o'r datblygiad yma.

"Roedd hwn yn ddigwyddiad trasig ac mae ein cydymdeimladau gyda William a'i deulu."

Fe wnaeth ymchwiliad post mortem cychwynnol wedi ei farwolaeth awgrymu fod pob anaf wedi "eu achosi gan gi ac i hynny arwain at y farwolaeth".

Cadarnhaodd yr heddlu fod tri chi, oedd ddim ar restr y cŵn sydd wedi'u gwahardd, wedi'u cymryd o'r safle yn ardal Brynhyfryd ar ôl cael cyffur i'w llonyddu.

Bu farw un o'r cŵn, oedd wedi ei lonyddu, o achosion naturiol tra yng ngofal milfeddyg.