Logan Mwangi: Galwadau am gefnogaeth i reithwyr

  • Cyhoeddwyd
Logan MwangiFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Logan Mwangi ei ddisgrifio fel bachgen "annwyl a hapus" gan gymydog

Mae dau academydd blaenllaw wedi dweud y dylai fod cefnogaeth ar gael i aelodau rheithgorau sy'n gorfod gweld a gwrando ar dystiolaeth anodd mewn achosion llys.

Daw'r sylwadau ar ôl i fam, llystad a llanc 14 oed eu cael yn euog o lofruddio'r bachgen pump oed, Logan Mwangi.

Cafodd yr achos yn Llys y Goron Caerdydd ei ohirio sawl gwaith gan fod rheithwyr wedi ei chael yn anodd i wylio a gwrando ar rai o'r manylion ynghylch marwolaeth Logan.

Cafodd deunydd fideo o'r foment y cafodd ei gorff ei ddarganfod ei ddangos i'r rheithwyr hefyd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl leol yn parhau i osod teganau er cof am Logan ger y fan y cafwyd hyd i'w gorff

Ar ôl i'r tri gael eu dyfarnu'n euog, fe wnaeth Mrs Justice Jefford ddiolch i'r rheithgor am eu "gwasanaeth cyhoeddus arbennig" gan gydnabod eu bod wedi gweld a chlywed "tystiolaeth emosiynol a hynod amhleserus".

Fe gyhoeddodd na fyddai'n rhaid i'r aelodau fod yn rhan o reithgor eto.

Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi (HMCTS) wedi dweud eu bod yn cydnabod pwysigrwydd lles rheithwyr.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Logan wedi ei gadw yn ei ystafell gyda giât ar y drws yn y dyddiau cyn iddo farw

Cafodd corff Logan ei ddarganfod yn Afon Ogwr yn Sarn ger Pen-y-bont fis Gorffennaf y llynedd. Roedd ganddo 56 o anafiadau allanol.

Ddydd Iau, cafodd mam Logan Mwangi, ei lystad John Cole, a llanc 14 oed yn euog o'i ladd.

Roedd Cole, yn wahanol i'r ddau ddiffynnydd arall, wedi pledio'n euog i gyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder trwy roi corff Logan mewn bag a'i adael ar bwys yr afon.

Cafwyd Williamson a'r llanc hefyd yn euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Yn ôl yr Artho Noelle Robertson, arbenigwr mewn seicoleg clinigol ym Mhrifysgol Caerlŷr, mae achosion llys "anodd" yn debygol o arwain at effaith emosiynol ar reithwyr.

"Yn ystod treialon anodd ni fyddai'n anarferol i bobl fod yn profi rhywfaint o aflonyddwch emosiynol, teimlo'n drist, efallai y byddwch yn teimlo'n fflat, efallai y byddwch yn sylwi bod eich cwsg wedi'i aflonyddu, efallai y byddwch yn teimlo tensiwn corfforol.

"Efallai y byddan nhw [y rheithwyr] yn cael ôl-fflachiau, efallai y byddan nhw'n ail-ddychmygu delweddau y maent wedi'u gweld a gweld bod y rheiny'n parhau i effeithio ar eu bywydau," dywedodd.

Yn Yr Alban, os yw'r barnwr yn credu bod rheithiwr yn profi straen seicolegol o ganlyniad i'w rôl, mae'n nhw'n gallu eu cyfeirio at gwnselydd. Ond dyw gwasanaeth o'r fath ddim ar gael yng Nghymru na Lloegr.

Pa dystiolaeth welodd y rheithgor?

Cafodd y rheithgor seibiant ar ôl iddynt wrando ar restr o'r 56 o anafiadau oedd gan Logan.

Fe ddangoswyd deunydd fideo o gamera diogelwch tŷ arall tua 50 metr i ffwrdd pan cafodd Logan ei ladd.

Roedd modd gweld llystad Logan yn cario'i gorff mewn bag.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd symudiadau y tu mewn i'r fflat ganol nos eu recordio gan gamera cymydog

Yn ystod yr achos fe ddaeth y rheithgor i ymweld â'r ardal hefyd a'r fflat lle'r oedd y teulu'n byw.

Fe glywon bod Logan yn arfer glychu ei hun, yn hunan-niweidio a wedi cael ei "gadw fel carcharor yn ei ystafell wely fach" heb fwyd.

Ychwanegodd yr Athro Robertson bod "wir angen darpariaeth ar gyfer cyfeirio'r rheiny sydd wedi cael eu heffeithio" at gymorth iechyd meddwl.

Dywedodd y byddai hefyd yn hoffi gweld "paratoad gwell ar gyfer rôl" y rheithiwr yn gyffredinol.

'Cefnogaeth heb ddatblygu'

Yn ôl Pennaeth Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Glyndwr, Dylan Rhys Jones, dyw'r gefnogaeth sy'n cael ei gynnig i unigolion wedi achosion llys "ddim wedi datblygu" fel y byddai wedi dymuno.

"Mae 'na gyfarwyddyd yn cael ei roi i'r rheithgor... a llefydd lle gallan nhw fynd i gael cymorth ond does 'na ddim cymorth awtomatig yn cael ei roi i unigolion sydd wedi bod trwy brofiadau cignoeth, arbennig o anodd," dywedodd wrth siarad ar raglen Dros Frecwast.

"Mae hynny'n wir am y rheithgor, y cyfreithwyr, am yr heddlu. Mae angen i bawb gael cefnogaeth.

"Yn anffodus, bydd y rheithgor yn yr achos yma wedi gorfod gweld darluniau, wedi gweld fideo o'r lleoliad lle gafodd y corff ei adael, mi fyddan nhw wedi gweld a chlywed disgrifiadau anghyfforddus iawn am y niweidiau y mae'r plentyn bach wedi'i ddioddef.

"Does na ddim amheuaeth bod na waddol yn cael ei adael ar ôl achos fel hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cannoedd o deganau a blodau eu gadael ym Mharc Pandy ar ool i gorff Logan gael ei ddarganfod yn haf y llynedd

Mewn ymateb i'r galwadau am wella cefnogaeth, dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi: "Gwasanaeth rheithgor yw un o'r dyletswyddau dinesig pwysicaf y gall unrhyw un ei gyflawni ac rydym yn cydnabod pwysigrwydd llesiant drwy gydol y broses.

"Ym mhob achos, bydd barnwr yr achos yn ceisio bodloni buddiannau cyfiawnder heb achosi pryder diangen i unrhyw reithiwr.

"Gall hyn gynnwys rhybuddion am dystiolaeth ofidus yn ogystal â chynnig ystod o gefnogaeth fel cwnsela gan feddygon teulu a chyngor gan y Samariaid."

Ychwanegodd bod taflen yn cynnig cyngor pellach i reithwyr ar gael yn y llysoedd.

Pynciau cysylltiedig