AS 'eisiau bod yn drawsryweddol ac wedi cael fy nhreisio'
- Cyhoeddwyd
Mae AS wedi dweud wrth Twitter ei fod wedi cael diagnosis o ddysfforia rhywedd, wedi dioddef trais rhywiol a blacmel, ac wedi ffoi o leoliad damwain car fis Tachwedd diwethaf.
Dywedodd y Ceidwadwr Jamie Wallis ei fod yn drawsryweddol, "neu i fod yn fwy cywir, rydw i eisiau bod".
Dywedodd AS Pen-y-bont ar Ogwr iddo gael ei flacmelio ym mis Ebrill 2020 gan ddyn anfonodd luniau at ei deulu, a'i dreisio gan ddyn fis Medi'r llynedd.
"Ers hynny mae pethau wedi cymryd cwymp. Nid wyf yn iawn", ysgrifennodd.
Cafodd Mr Wallis ei arestio'r llynedd ar amheuaeth o yrru pan nad oedd mewn cyflwr i wneud hynny.
Cafodd yr heddlu eu galw i "wrthdrawiad un cerbyd" ar Heol yr Eglwys ym mhentref Llanfleiddan, ger Y Bont-faen ychydig ar ôl 01:00 ddydd Sul 28 Tachwedd.
Dywedodd Mr Wallis ei fod wedi cael ei oresgyn gan ymdeimlad o ofn "llethol" a bod ganddo anhwylder straen wedi trawma (PTSD).
"Mae'n ddrwg gen i ei bod yn ymddangos fy mod wedi 'rhedeg i ffwrdd' ond nid fel hyn y digwyddodd ar y pryd," ysgrifennodd.
"Pan ges i ddamwain car ar 28 Tachwedd fe wnes i ffoi o'r lleoliad. Fe wnes i hynny oherwydd roeddwn i'n ofnus.
"Mae gen i PTSD ac a dweud y gwir does gen i ddim syniad beth oeddwn i'n ei wneud ond cefais fy ngorchfygu gan ymdeimlad llethol o ofn."
Yn y datganiad dywedodd ei fod yn drawsryweddol, "neu i fod yn fwy cywir, rydw i eisiau bod".
"Rydw i wedi cael diagnosis o ddysfforia rhywedd," ysgrifennodd, "ac rydw i wedi teimlo fel hyn ers i mi fod yn blentyn ifanc iawn.
"Doedd gen i ddim bwriad i rannu hwn gyda chi erioed. Roeddwn bob amser yn dychmygu y byddwn yn gadael gwleidyddiaeth ymhell cyn i mi ddweud hyn yn uchel.
"Cafwyd achos ym mis Ebrill 2020 pan wnaeth rhywun fy flacmelio, datgelu'r gyfrinach i fy nhad ac anfon lluniau at aelodau eraill o'r teulu.
"Roedd eisiau £50,000 i gadw'n dawel. Roedd yr heddlu mor gefnogol, mor ddeallus a'r tro hwn fe weithiodd y system."
Dywedodd Mr Wallis fod y dyn wedi pledio'n euog a chafodd ddedfryd o ddwy flynedd a naw mis o garchar.
'Fe ddewisodd fy nhreisio'
Dywedodd: "Am ychydig roedd fel pe bawn i'n gallu bwrw ymlaen â phethau a symud ymlaen.
"Roedd bod yn AS a chuddio rhywbeth fel hyn bob amser yn mynd i fod yn anodd, ond fe wnes i gymryd yn drahaus fy mod yn medru gwneud hynny. Wel, dydw i ddim."
Dywedodd Mr Wallis ei fod ym mis Medi wedi cael perthynas â rhywun y cyfarfu ag ef ar-lein.
"Pan ddewisais i ddweud 'na' ar y sail na fyddai'n gwisgo condom fe ddewisodd fy nhreisio.
"Nid wyf wedi bod yn fi fy hun ers y digwyddiad hwn a dydw i ddim yn meddwl y byddaf byth yn gwella.
"Nid yw'n rhywbeth yr ydych chi'n ei anghofio byth, ac nid yw'n rhywbeth y byddwch byth yn symud ymlaen ohono."
Canmolodd Mr Wallis chwipiaid ei blaid, a dywedodd eu bod yn "ceisio eu gorau i gefnogi a helpu ASau sy'n cael amser anodd.
Dywedodd fod cinio gydag ASau Torïaidd wedi ei atgoffa "o'r gefnogaeth anhygoel y gall y rhai rydych chi'n gweithio gyda nhw ei ddarparu".
"Cefais fy atgoffa pa mor bwysig yw hi i fod yn chi'ch hun. Nid wyf erioed wedi byw fy ngwir a dydw i ddim yn siŵr sut.
"Efallai ei fod yn dechrau gyda dweud wrth bawb."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2020