Pryder am brinder cyffuriau i drin symptomau'r menopos

  • Cyhoeddwyd
Rhian JonesFfynhonnell y llun, Rhian Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhian Jones o'r Bontfaen ym Mro Morgannwg wedi byw gyda symptomau'r menopos ers deng mlynedd

Mae Rhian Jones o'r Bontfaen yn un o'r nifer cynyddol o fenywod sy'n poeni o ble ddaw'r cyflenwad nesaf o'u cyffur HRT sy'n eu galluogi i fyw bywyd â llai o bryder a phoen.

Ers rhai wythnosau, mae'r galw am rai o'r cyffuriau sy'n lleddfu symptomau sy'n gysylltiedig â'r menopos wedi cynyddu yn gynt na gallu'r cynhyrchwyr i'w cyflenwi.

Mae cyffur HRT ar gael ar sawl ffurf gan gynnwys tabledi, hylif neu batsys i'r croen.

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth raglen Newyddion S4C bod y nifer sy'n derbyn presgripsiwn am y cyffur wedi cynyddu dros 40% yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Ychwanegodd mai llywodraeth y DU sydd â chyfrifoldeb dros gyflenwadau meddyginiaeth. Maen nhw'n dweud y bydd swydd benodol yn cael ei chreu i fynd i'r afael â'r broblem.

"Mae'n creu pryder mawr," meddai Rhian Jones sydd wedi byw ag effeithiau'r menopos ers deng mlynedd.

"Un o'r symptomau gwaetha' i fi yw gorbryder - wi'n aml yn deffro am 03:00 neu 04:00 y bore ac yn methu mynd 'nôl i gysgu, a ma fe jest yn hala'r symptomau yn waeth.

"Dwi ddim yn gwybod pryd ga' i beth eto, ma genna' i ryw hanner potel ar ôl sy'n mynd i bara wythnos arall, ac yn ôl ffrindiau i mi sy'n byw yng Nghaerdydd does dim i gael yn unman."

Ffynhonnell y llun, Rhian Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae bod yn y môr yn helpu Rhian gyda'i symptomau

Cymaint yw pryder Rhian Jones nes ei bod yn torri 'nôl ar yr hyn mae ei meddyg teulu yn credu sydd angen arni i gynnal bywyd heb boen.

"'Wi 'di torri'n ôl ws'os hyn yn trio safio be' sy gyda fi a 'wi 'di sylwi bo' fi 'di blino yn ofnadw'. 'Wi'n deffro yn gynt a methu mynd nôl i gysgu.

"Ma'r brain fog 'di dod nôl a 'wi'n teimlo lot mwy isel na fydden i fel arfer. Do's dim egni genna' i.

"Falle os fydde' ambell i ddyn yn dioddef bydde' hyn yn cael ei sortio lawer ynghynt."

'Meddyginiaeth bwysig iawn'

Mae tua miliwn o fenywod ar draws gwledydd y DU yn defnyddio math o gyffur HRT i ddygymod â'r symptomau sy'n gysylltiedig â chyfnod y menopos.

Mae cyflenwadau o'r cyffur Oestrogel a rhai patsys yn arbennig o brin ac mae meddygon teulu yn gweld effaith y prinder ar safon byw menywod.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Llinos Roberts yn feddyg teulu ac yn poeni am effaith prinder y cyffuriau ar safon byw menywod

"Ma' hwn yn broblem enfawr a 'dyn ni'n gobeithio na fydd yn para yn hir iawn," meddai Dr Llinos Roberts, sy'n feddyg teulu yng Nghwm Gwendraeth.

"Ma' nifer fawr yn ddibynnol ar gyffuriau HRT. Ma'n lliniaru nifer o symptomau a mi all y rhain fod yn tinitws neu boen yn y cymalau a 'dyn ni yn gwybod fod y menopos yn gallu cael effaith fawr ar safon byw.

"Mae'r HRT yn helpu ac yn lleihau risg o ddatblygu cyflyrau tymor hir fel osteoporosis, dementia a chlefyd y galon. Mae HRT yn feddyginiaeth bwysig iawn."

Ers i'r prinder o rai meddyginiaethau HRT ddwysáu mae nifer o fenywod wedi troi at y we i geisio prynu cyflenwad dros dro o'u cyffuriau.

Ond does 'na ddim modd sicrhau fod y moddion yn rhai cywir nac yn gyfreithlon.

£60 am botel ar y we

"Mi wnes i edrych ddoe, jest i weld be sy' ar gael," meddai Rhian Jones, sydd wedi bod yn mynd drwy'r menopos ers rhyw ddeng mlynedd. Mae'n dibynnu ar gyflenwad o Oestrogel.

"Ar [wefan] eBay mae'r cyffur ar gael am £60 y botel, ond wrth gwrs chi ddim yn gwybod os chi'n cael y stwff cywir, a ddim pawb sydd â'r arian."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Julie Richards yn ymgyrchu dros driniaeth deg i fenywod yng Nghymru

Yn ôl y mudiad Triniaeth Deg i Fenywod yng Nghymru, dyw'r argyfwng ddim wedi datblygu dros nos, mae'n amlwg iddyn nhw fod y broblem yn gwaethygu ers cryn amser.

"Mae hwn yn rywbeth 'dyn ni eisiau i lywodraeth yng Nghymru yn arbennig i geisio cael gafael ynddi," meddai Julie Richards, un o ymddiriedolwyr y mudiad.

"Rhaid i'r llywodraeth ddechrau ffeindio allan am y cyflenwad a sicrhau fod na gyflenwad nid yn unig am nawr ond bod hyn ddim yn digwydd eto."

Mae'r mudiad hefyd yn gwrthod yr honiad mai cynnydd yn nifer y bobl sy'n cael presgripsiwn sydd ar fai am y diffyg.

"'Dyn ni ddim yn derbyn hwnna, ma 'na wedi bod problemau gyda'r cyflenwad ers blynydde," meddai Ms Richards.

"'Di o ddim yn ddirgelwch fod menywod yn cael y menopos, so ddylen ni byth fod wedi cyrraedd y pwynt yma."

Ond mae'n ffaith erbyn hyn fod mwy o fenywod yn cael presgripsiwn am gyffur HRT nawr, yn bennaf ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu.

Pryder

Dywedodd llefarydd ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "pryderu bod rhai menywod yn cael trafferth i gael eu cyffuriau HRT.

"Yng Nghymru mae nifer y presgripsiynau wedi cynyddu fwy na 40% dros y 5 mlynedd diwethaf, [ond] yn anffodus dyw cynhyrchwyr heb ymateb yn llawn i'r cynnydd.

"Llywodraeth y DU sydd â'r cyfrifoldeb am gynnal cyflenwadau meddyginiaethau i'r DU ac rydyn ni yn falch fod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi ymrwymo i gynyddu'r cyflenwadau."

Mewn ymateb dywedodd y gweinidog o lywodraeth y DU sy'n gyfrifol am Iechyd Menywod, Maria Caulfield, y bydd yna swydd benodol yn cael ei chreu i sicrhau fod y cyflenwad o gyffuriau yn medru ateb y galw.

"Mae 'na dros 70 o gyffuriau HRT ar gael," meddai, "ac mae 'na gyflenwad da o'r rhan fwyaf o'r rheiny.

"Dylai unrhyw sy'n cael trafferth gysylltu â'u meddyg teulu i drafod pa opsiynau amgen sydd ar gael."

Yn ôl Dr Llinos Roberts mae'n bwysig fod menywod yn chwilio am opsiwn arall os nad yw eu cyffur arferol ar gael.

"Mae 'na opsiynau eraill, ond mae'n bwysig fod rhywun ddim yn stopio."