Etholiadau lleol: Beth sy'n poeni pobl tref fwya'r gogledd?
- Cyhoeddwyd
Ar 5 Mai fe fydd pobl Cymru yn pleidleisio yn yr etholiadau lleol.
Wrth nesáu at y diwrnod mae Newyddion S4C yn ymweld â gwahanol siroedd ar draws Cymru i glywed gan yr etholwyr ynglŷn â'r hyn sy'n bwysig yn eu hardaloedd nhw.
Mae Dafydd Evans wedi bod yn clywed gan bobl ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam am eu blaenoriaethau nhw.
Wrecsam ydy tref fwyaf y gogledd. Tref farchnad yn wreiddiol a dyfodd wrth i'r diwydiannau trymion dyfu yn y pentrefi o'i chwmpas; Brymbo, Y Bers, Gresffordd a Rhosllannerchrugog.
Mae'r mannau ôl-ddiwydiannol yna wedi eu huno ag ardaloedd gwledig fel Maelor a Dyffryn Ceiriog i greu Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam heddiw.
Fel mewn rhannau eraill o Gymru, mae'r hanes diwydiannol wedi llywio gwleidyddiaeth yr ardal am genedlaethau, gyda'r Rhyddfrydwyr ac yna'r Blaid Lafur yn brif bleidiau.
Ond mewn gwleidyddiaeth leol, ers i'r awdurdod gael ei ffurfio, eithriad ydy i un blaid reoli Cyngor Wrecsam.
Yn etholiad cyffredinol 2019, roedd 'na ddaeargryn bychan pan gipiodd y Ceidwadwyr dref Wrecsam am y tro cyntaf erioed, wrth i'r blaid honno dorri tir newydd a dymchwel "wal goch" honedig y Blaid Lafur yng ngogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr.
Chawson nhw ddim yr un llwyddiant yn etholiad Senedd Cymru y llynedd wrth i Lafur ddal eu tir.
Mae'n bosib y bydd ambell un yn cadw golwg ar yr ardal hon ar 5 Mai felly i ddarllen teimladau'r etholwyr am faterion gwleidyddol ehangach.
Er hynny, falle na ddylen nhw ddisgwyl llawer o oleuni, gan mai materion lleol oedd flaenaf ym meddwl y pleidleiswyr y buom ni'n siarad â nhw.
Yng nghysgod Eglwys San Silyn yng nghanol Wrecsam, roedd criw o ffrindiau'n cwrdd am ginio.
Yn ôl Helen Davies, am faterion lleol y bydd hi'n meddwl wrth fwrw pleidlais.
"Dwi'n meddwl am fy ardal, mae'n rhaid i mi gyfaddef," meddai.
"Y ffordd mae'r cynghorwyr yn gweithio, be' maen nhw'n wneud i ni, sut maen nhw'n gwneud efo'r gymuned."
Ac ydy, mae'r materion lleol yn aml yn golygu yn llythrennol yr hyn sy'n effeithio pobl ar eu stepen drws.
"Dwi'n teimlo bod y stadau lle dwi'n byw, mae'r chwyn sy'n tyfu ar y pafin yn gwneud yn well na'r blodau yn fy ngardd i achos does neb yn gwneud dim byd efo nhw," medd Heulwen Harris.
"Mi oedd 'na foi'n dod efo peiriant lladd chwyn, ond 'den ni byth yn gweld neb rŵan 'de."
Mae datblygiad y dref hefyd o bwys, yn ôl Einir Jones.
"Dwi'n teimlo bod 'na lot o adeiladau wedi cael eu dymchwel yn Wrecsam a bod hynna yn biti ofnadwy bod nhw'n colli hanes y dref," meddai.
O'r 56 sedd fydd ar y cyngor newydd, dydy Llafur a'r Ceidwadwyr ond yn mynd benben mewn 17.
Yr Annibynwyr sydd â'r nifer fwyaf o ymgeiswyr eto'r tro yma, yna Llafur, y Ceidwadwyr, Plaid Cymru ac yna'r Democratiaid Rhyddfrydol - oedd am gyfnod ddechrau'r ganrif hon yn arwain y cyngor.
Tref ynteu dinas?
O ran y dref, mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ddau gais gwahanol ar hyn o bryd.
Mae'r cyntaf - am statws dinesig - yn ddadleuol, wedi ei gefnogi gan yr Annibynwyr, y Ceidwadwyr a Llafur ar y cyngor diwethaf, ond yn cael ei wrthwynebu gan Blaid Cymru.
Etholiadau Lleol 2022
Mae'r ail gais am statws dinas diwylliant yn llai dadleuol, ac mae Wrecsam bellach ar y rhestr fer gyda Bradford, Durham a Southampton.
Ymhlith y dreftadaeth ddiwylliannol mae Eisteddfod Powys, a gafodd ei chynnal gyntaf yn Wrecsam 200 mlynedd yn ôl. I nodi hynny, mae'r Eisteddfod yn dychwelyd i'r ardal eleni.
Roedd gan y pwyllgor ddigon i'w drafod felly pan fuon nhw'n cwrdd yn Y Stiwt yn Rhosllannerchrugog yr wythnos hon.
Yn ôl Aled Lewis Evans, mae'r cais dinas diwylliant wedi rhoi "hwb i'r dref".
"Mae'n fuddiol iawn, dros y celfyddydau i gyd, yn Gymraeg ac yn Saesneg," meddai.
Mae Marian Jones yn cytuno: "Dwi'n croesawu'r fenter yn fawr iawn. Dwi'n gobeithio fedrith yr Eisteddfod wneud cais am gymorth ariannol posib."
Ond fel yn nhref Wrecsam, wrth drafod yr etholiad lleol roedd y sylw'n troi at faterion sydd o bwys i bobl o ddydd i ddydd.
"Mae busnes y baw ci 'ma yn dipyn o broblem o gwmpas y pentref," medd Marian Jones. "Hefyd sbwriel yn cael ei adael ar ochr y ffyrdd."
Yn ôl Rhys Davies, mae ffyrdd yn bwnc llosg i lawer.
"Mae'r ffyrdd mewn cyflwr ofnadwy, dwi'n siŵr bod lot o bobl isio clywed mwy am hynny," meddai.
"Hefyd siopau gwag sydd yn y dref - yn Wrecsam ei hun.
"Mae'r lle'n edrych yn ofnadwy pan 'den ni'n crwydro o gwmpas y dref ar b'nawn Sadwrn a s'ne ddim lot o siopau ar agor o gwbl."
Yn dilyn adolygiad gan y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol, bydd nifer y wardiau ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynyddu o 47 i 49 eleni, a nifer y cynghorwyr yn codi o 52 i 56.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2022