Falklands 40: Y rhyfel drwy lens Tim Rees
- Cyhoeddwyd

Cyfle prin i ymlacio tra ar Ynysoedd y Falklands
Wrth i gyn filwyr a theuluoedd gofio rhyfel y Falklands 40 mlynedd yn ôl, mae cyn ffotograffydd y Gwarchodlu Cymreig wedi rhannu lluniau a dynnodd ar yr ynysoedd yn Ne'r Iwerydd.
Wedi'u tynnu yn 1982 yn ystod y rhyfel 10 wythnos, dyw rhai erioed wedi'u gweld yn gyhoeddus.
Ar ôl y rhyfel, aeth Tim Rees yn ei flaen i ysgrifennu nifer o lyfrau a chynhyrchu drama deledu am gyfraniad y Cymry yn ystod yr ymdrech i adfeddiannu'r ynysoedd.
Bellach yn byw ym Mhencader, Sir Gaerfyrddin mae'n dweud bod y gallu i fynegi ei hun yn greadigol wedi ei helpu i ddelio â sgil effeithiau meddyliol y rhyfel.

Mam Tim yn ffarwelio wrth iddo fynd i'r Falklands

Aelodau o'r Gwarchodlu Cymreig yn palu beddau i filwyr o'r Ariannin. Doedd marwolaeth byth yn bell i ffwrdd yn ystod y rhyfel.

Ffrind Tim, Tony Manning
Yn y llun yma mae Tony Manning. Mae Tim yn cofio pan gafodd y ddau eu dal ar faes ffrwydron gyda'r Archentwyr yn eu bomio.
Cymerodd y llun yn fuan wedi'r digwyddiad. "Wrth i'r mortar ddisgyn, mae'n chwibanu. Felly chi'n clywed y chwibanu yma a chi'n meddwl bod y nesa am ddisgyn ar eich pen," meddai.
Dywedodd ei fod yn cofio troi at Tony a dweud, "ma'r nesa' am lanio arnom ni. Dw i'n meddwl ein bod ni yn llythrennol wedi dweud 'dyma hi'.
"Chi'n llythrennol yn gorwedd gyda'ch wyneb i'r tir yma sydd wedi rhewi ac yn meddwl 'dydw i ddim eisiau marw'n fan hyn'."

Mwg yn y pellter wedi bomio'r Sir Galahad a'r Sir Tristram
Er nad oes llawer i'w weld yn y llun hwn ar yr olwg gyntaf - wrth edrych yn fwy craff mae modd gweld cynffon o fwg yn y pellter. Daw'r mwg o'r llongau Syr Galahad a Syr Tristram.
Bu farw 48 o ddynion - 32 ohonynt o'r Gwarchodlu Cymreig. Yn eu plith, ar fwrdd y Syr Galahad, oedd ffrind gorau Tim, Mark.
"Y peth cyntaf feddylies i oedd, 'Duw, Mark, gobeithio nad oeddet ti arni [y llong], mêt.'
"Mi oedd o. Mi oedd hwnna'n anodd"

Arfau wedi'u gadael ar ôl
Wedi diwedd y rhyfel fe gafodd rhai o'r gwarchodlu hyd i offer sgïo a mwynhau 'diwrnod Nadolig' ar 25 Mehefin.

"Dydd Nadolig" ar 25 Mehefin wedi i'r ymladd ddod i ben

Fe aeth Tim Rees ar gwrs ffotograffiaeth gyda'r lluoedd milwrol
Mae Tim yn parhau i ddelio a sgil effeithiau'r rhyfel. Bu'n rhan o gynhyrchiad 'Mimosa Boys' yn fuan ar ôl y rhyfel.
Mae wedi ysgrifennu nofelau a hunangofiant. Mae'r broses greadigol wedi bod yn ganolog i'w helpu i ddelio â'r golled a sgil effeithiau'r rhyfel.
"Un broblem dwi'n meddwl gyda llawer o'r bois sydd â PTSD yw nad ydyn nhw'n siarad amdano.
"Efallai nad ydyn nhw wedi cael y cyfle i siarad amdano, efallai nad ydyn nhw'n gwybod sut i siarad amdano."

Milwyr mewn 'camouflage'

Gweithio yn yr awyr agored tra ar yr ynysoedd

Awyrennau wedi'i parcio ym Mhorth Stanley
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2022