Ergydion i'r pen oedd achos dementia cyn bêl-droediwr
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed y bu farw cyn bêl-droediwr rhyngwladol o ddementia a achoswyd gan ergydion cyson i'r pen.
Chwaraeodd Keith Pontin o Bontyclun, Rhondda Cynon Taf, i Gaerdydd o 1976 i 1983, ac enillodd ddau gap i Gymru cyn mynd ymlaen i chwarae i'r Barri a Merthyr.
Bu farw yn 64 oed yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar 2 Awst 2020.
Cafodd ddiagnosis o ddementia yn 2015 pan oedd yn 59 oed, yn dilyn pryderon am ei ddirywiad meddyliol.
Clywodd Llys Crwner Pontypridd fod archwiliad post mortem yn dangos mai'r cyflwr Enceffalopathi Trawmatig Cronig (Chronic Traumatic Encephalopathy neu CTE) oedd achos ei farwolaeth.
Mae CTE yn gyflwr lle mae'r ymennydd yn dirywio'n raddol, a chredir ei fod yn cael ei achosi gan ergydion cyson i'r pen ac achosion o gyfergyd.
Mae'r cyflwr yn effeithio ar y ffordd y mae'r ymennydd yn gweithio, ac yn y pendraw yn arwain at ddementia.
Dywedodd cyn-chwaraewr Abertawe, Paul Burrows, a chwaraeodd gyda Mr Pontin yn Y Barri, wrth y cwest ei fod yn amddiffynnwr canol hen-ffasiwn, a oedd yn gryf iawn yn yr awyr.
"Roedd o'n amddiffynnwr mawr, cryf a chaled, ac roedd pobl yn ei edmygu am y nodweddion hynny," meddai.
Dywedodd fod pêl-droed yn gêm fwy corfforol yn y 1980au, ac y byddai chwaraewyr yn aml yn parhau i chwarae er gwaethaf anafiadau.
"Doedd hi ddim yn anghyffredin i bennau chwaraewyr daro yn erbyn ei gilydd," meddai.
"Dwi'n credu bod chwaraewyr yn cael bod yn fwy corfforol a chystadlu am beli yn yr awyr."
Clywodd y cwest gan ysgrifennydd Clwb Pêl-droed Caerdydd, Michelle McDonald, a ddywedodd nad oedd ganddynt unrhyw gofnodion o gyfnod Mr Pontin gyda'r Adar Gleision.
"Rydym ond yn cadw cofnodion yn mynd yn ôl saith neu wyth mlynedd," meddai.
'Cawr addfwyn oddi ar y cae'
"Ymosodol" oedd y gair ddefnyddiodd David Cole, ar ran clwb Y Barri, i ddisgrifio'r ffordd yr oedd Mr Pontin yn chwarae'r gêm, ond ei fod yn "gawr addfwyn" oddi ar y cae.
Yn yr 1980au pan oedd Keith yn chwarae, "os oeddech chi'n brifo, roeddech chi'n codi a chario 'mlaen," meddai.
Dywedodd nad oedd y clwb presennol, a sefydlwyd yn 2013, yn cadw unrhyw gofnodion o'r clwb blaenorol, Barry Town AFC.
Clywodd y crwner nad oedd Cymdeithas Bêl-Droed Cymru yn dal cofnodion Mr Pontin ychwaith.
Chwaraewyr pêl-droed a rygbi'n fwy tebygol
Bu i Dr William Stewart, niwropatholegydd diagnostig, archwilio ymennydd Mr Pontin yn dilyn yr archwiliad post-mortem.
Dywedodd iddo ddod o hyd i dystiolaeth helaeth ledled yr ymennydd o broteinau 'Tau' a oedd, meddai, mewn "patrwm abnormal yn gyfan gwbl ystrydebol o CTE".
"Mae cysylltiad unigryw rhwng y dosbarthiad hwn ac anaf i'r pen," ychwanegodd Dr Stewart.
Dywedodd wrth y cwest fod pêl-droedwyr proffesiynol a chwaraewyr rygbi deirgwaith a hanner yn fwy tebygol o ddatblygu dementia na'r boblogaeth yn gyffredinol.
Gofynnwyd iddo a fu farw Mr Pontin o glefyd Alzheimer neu ddementia.
"Mae'n derm anfanwl iawn," meddai.
"CTE yw ei union ffurf o ddementia. Nid oedd ganddo glefyd Alzheimer."
Dywedodd fod nifer o ffactorau risg gan gynnwys clefyd y galon, ysmygu a diffyg ymarfer corff ar gyfer datblygu dementia.
"Felly dylai pêl-droedwyr fod ar ben isaf y raddfa risg ond maen nhw'n parhau'n uwch, dipyn yn uwch," meddai.
Wrth gofnodi casgliad naratif nododd y Crwner, David Regan, yr achos marwolaeth fel Enseffalopathi Trawmatig Cronig, wedi'i achosi gan anaf ailadroddus i'r pen a ddioddefwyd fel pêl-droediwr proffesiynol.
"Does gen i ddim amheuaeth bod Mr Pontin wedi penio'r bêl nifer sylweddol o weithiau yn ystod ei yrfa chwarae," dywedodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2018
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2020