Wrecsam yn un o bedwar lle ar restr fer Dinas Diwylliant y DU

  • Cyhoeddwyd
Cae Ras a Thraphont PontcysyllteFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cae Ras a Thraphont Pontcysyllte ymysg atyniadau mwyaf adnabyddus ardal Wrecsam

Mae Wrecsam wedi cyrraedd rhestr fer Dinas Diwylliant y DU 2025.

Mae'n un o bedwar lleoliad ar y rhestr - a'r unig un o Gymru.

Bradford, Durham a Southampton yw'r tri arall sydd wedi eu dewis gan banel o arbenigwyr a'u cymeradwyo gan Ysgrifennydd Diwylliant y DU, Nadine Dorries.

Roedd yn rhaid i'r lleoliadau ddangos "sut y bydden nhw'n defnyddio diwylliant i dyfu a chryfhau eu hardal leol" yn ogystal â'u cynlluniau i adfer o effaith pandemig Covid-19.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai.

Mae Wrecsam wedi cael cryn gyhoeddusrwydd yn y wasg yn ddiweddar ar ôl i ddau seren Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney brynu'r clwb pêl-droed.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae tîm pêl-droed Wrecsam wedi cael sylw eithriadol yn y wasg yn ddiweddar ar ôl i sêr Hollywood ddod yn berchnogion ar y clwb

Ond mae llu o draddodiadau diwylliannol eraill gan yr ardal i'w cynnig, gan gynnwys Theatr Stiwt a Thraphont Pontcysyllte ymysg rhai o'r atyniadau poblogaidd.

Yn fwy diweddar, fe ddaeth cymuned Wrecsam ynghyd i gasglu nwyddau i ffoaduriaid Wcráin, gyda chonfoi o ugain lori yn gadael y sir.

'Lot mwy i Wrecsam na phêl-droed'

Mewn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd un o aelodau ar fwrdd Theatr Stiwt Rhosllannerchrugog, Llinos Ann Cleary, ei fod yn "newyddion arbennig, arbennig iawn".

"Dw i mor falch. Dan ni di cael blynyddoedd anodd - a 'chydig bach o bad reputation yn y gorffennol efallai - ond ma hyn yn dangos be sy' gan Wrecsam i'w gynnig," dywedodd.

"Ma'r pêl-droed gynnon ni wrth gwrs, ond ma 'na lot mwy i Wrecsam 'na hynna - hanes, y celfyddydau, yr iaith.

Ffynhonnell y llun, Stiwt
Disgrifiad o’r llun,

Mae Theatr Stiwt yn Rhosllannerchrugog fel "hwb" i'r celfyddydau yn yr ardal yn ôl un o aelodau'r bwrdd, Llinos Ann Cleary

Ychwanegodd: "Y gobaith hefyd ydy bod twristiaeth yn dod ag arian i gael ei wario ar stryd fawr Wrecsam. Ma angen dod â hynny 'nôl yn fyw.

"Siopau annibynnol gobeithio, ma' rhai o adeiladau Wrecsam mor brydferth, ond mae'r Stryd Fawr mor wahanol i ganol Gaer, er enghraifft."

'Y Gymraeg yn iaith fyw'

Ychwanegodd Llinos Ann Cleary ei bod yn gobeithio y bydd hyn yn rhoi hwb i'r Gymraeg yn yr ardal.

"Dw i'n gobeithio y bydd hyn yn rhoi'r Gymraeg ar y map, yn dangos bod modd ei dysgu hefyd, ei bod hi'n iaith fyw."

Dywedodd Llinos y byddai'r diweddar Aled Roberts, a oedd yn gomisiynydd y Gymraeg ac yn dod o'r ardal, yn "falch iawn" fod Wrecsam wedi cyrraedd y rhestr fer.

"Fe gollon ni Aled Roberts yn ddiweddar wrth gwrs. Mae hyn fel teyrnged iddo fo mewn ffordd.

"Mi fyddai wedi bod yn falch iawn o hyn."

Unwaith bob pedair blynedd mae ardal yn derbyn y statws, gyda'r cais llwyddiannus ar gyfer 2025 yn olynu Coventry fel Dinas Diwylliant 2021.

Yn ôl Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU, mae ardal Coventry wedi derbyn buddsoddiad o £172 miliwn i gyngherddau cerddoriaeth, arddangosfeydd celf cyhoeddus, ardal chwarae i blant a gwelliannau i drafnidiaeth cyhoeddus - a hynny ers dod yn Ddinas Diwylliant 2021.

'Cyfleoedd trwy ddiwylliant'

Dywedodd Gweinidog y Celfyddydau, yr Arglwydd Parkinson bod y gystadleuaeth yn cynnig "cyfleoedd i bobl o bob oed a chefndir".

"Mae cystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU yn dangos y rôl bwysig y gall diwylliant ei chwarae i lefelu ein trefi, ein dinasoedd a'n cymunedau gwledig - gan ddod â buddsoddiad, digwyddiadau gwych, miloedd o dwristiaid a chyfleoedd i bobl o bob oed a chefndir," meddai.

"Ma' eleni wedi gweld y nifer uchaf erioed o gynigion, sy'n wych i'w weld. Llongyfarchiadau i'r pedwar lleoliad ar y rhestr fer - dymunaf bob lwc iddynt i gyd."

Dywedodd Syr Phil Redmond, Cadeirydd Panel Cynghori Arbenigol Dinas Diwylliant bod y broses o ddewis rhestr fer wedi bod yn "anodd" ond ei fod yn edrych ymlaen i ymweld â'r lleoliadau i "brofi effaith gatalytig diwylliant ar waith".

Bydd y panel o arbenigwyr yn ymweld â Wrecsam a'r tair ardal arall cyn gwneud eu hargymhelliad terfynol i lywodraeth y DU ym mis Mai.