Clwb Pêl-droed Wrecsam i brynu tir stadiwm y Cae Ras

  • Cyhoeddwyd
Rob McElhenney a Ryan ReynoldsFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Daw'r cyhoeddiad flwyddyn yn union ers i Rob McElhenney and Ryan Reynolds brynu'r clwb

Mae perchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi cyhoeddi eu bod yn y broses o brynu tir stadiwm y Cae Ras.

Prifysgol Glyndŵr sydd wedi bod yn berchen ar y tir (y freehold) ers 2011, wedi cyfnod o ansicrwydd o ran perchnogaeth.

Mae gan y clwb berthynas dda gyda'r brifysgol, a'r clwb sydd eisoes yn gyfrifol am reoli'r stadiwm wedi iddo arwyddo les 99 mlynedd yn 2016.

Ond dywedodd y perchnogion, y sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney, y bydd cael bod yn berchen ar y Cae Ras yn eu rhoi "â rheolaeth dros ein tynged ein hunan".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Prifysgol Glyndŵr sydd wedi bod yn berchen ar dir y Cae Ras ers 2011

Daw'r cyhoeddiad flwyddyn yn union ers i Reynolds a McElhenney ddod yn berchnogion swyddogol ar y clwb.

Dywedodd y perchnogion eu bod wedi bod yn trafod y pryniant gyda Phrifysgol Glyndŵr, a'u bod yn disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd Mawrth.

"Roedd hi'n amlwg hyd yn oed cyn i ni brynu Wrecsam fod dod â pherchnogaeth dros y Cae Ras yn ôl i'r clwb yn bwysig dros ben i'r cefnogwyr," meddai Reynolds a McElhenney mewn datganiad.

"Does 'na ddim yn fwy symbolaidd na bod yn berchen ar eich cartref ei hun, a thra bod Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wastad wedi cefnogi ein gweledigaeth, rydyn ni wrth ein boddau i fod â rheolaeth dros ein tynged ein hunan."