'Pwy fyddai'n agor ffatri mewn pandemig?...'
- Cyhoeddwyd
Roedd 2020 yn ddiwedd cyfnod yn y canolbarth wrth i ffatri olaf Laura Ashley gau. Mewn rhaglen arbennig ar Radio Cymru, Siân Sutton fu'n cwrdd â rhai o'r cyn-weithwyr sy'n cadw'r diwydiant dillad yn fyw…
Pan aeth prif weithredwr cwmni ffasiwn o Lundain ar ymweliad â'r Drenewydd yn 2020 cafodd ei hysbrydoli i fuddsoddi yn y diwydiant dillad yng Nghymru.
Roedd penderfyniad Jenny Holloway o gwmni Fashion-Enter yn cadw'r cysylltiad lleol â'r diwydiant ar ôl i ffatri olaf cwmni Laura Ashley gau.
Ym mis Mawrth 2020 aeth y cwmni, a gafodd ei sefydlu yng Ngharno yn y 1960au, i ddwylo'r gweinyddwyr ac roedd dros 57 o bobol ar fin colli eu gwaith.
"Roedd yn drist ac yn galed gweld pobol yn gadael a byth yn dod nôl wedyn," meddai rheolwr ffatri Texplan yn y Drenewydd, Eddie Bebb, a fu'n gweithio i Laura Ashley am 38 o flynyddoedd.
Ymunodd â'r cwmni yng Ngharno yn 1983 pan oedd menter Laura a Bernard Ashley ar fin ehangu o gynhyrchu tywelion sychu llestri, ffedogau a menig i fod yn arweinydd yn y byd ffasiwn gyda'r dillad blodeuog a'r defnydd ar gyfer celfi a llenni yn cael eu gwerthu yn siopau'r cwmni dros y byd.
Daeth tro ar fyd ar ôl marwolaeth Laura Ashley yn 1985 ac erbyn y 1990au cafodd siariau eu gwerthu yn y cwmni. Ar un adeg roedd ffatrïoedd Carno a'r Drenewydd yn cyflogi dros 800 o bobol ond yn wyneb colledion ariannol trodd y cwmni dramor i gynhyrchu'r dillad yn rhatach.
Mae sôn am benderfyniad y cwmni fynd i ddwylo'r gweinyddwyr ddwy flynedd yn ôl yn dal yn anodd i Eddie Bebb.
"Roedd yn anodd … am wythnos dim ond fi oedd yn gweithio yn y ffatri, 'last man standing', ac roedd yn galed mynd drwy'r giât ar y diwrnod olaf. Roedd braidd yn drist."
Colli sgiliau yn 'trasiedi'
Pan oedd y gweithwyr olaf yn cynhyrchu sgrybs i'r NHS, galwodd arweinydd ym myd ffasiwn o Lundain yn y ffatri yn y Drenewydd.
"Wrth i gwmni fynd i ddwylo gweinyddwyr mae tueddiad i gael peiriannau yn rhatach," meddai Jenny Holloway, prif weithredwr cwmni Fashion -Enter. "Ond do'n ni ddim yn barod i gwrdd â thîm bach o fenywod, ac un yn arbennig, oedd wedi mynd i'r ymdrech i wneud cacennau.
"Rwy'n cofio eistedd o gwmpas y bwrdd gyda'r rheolwr a chyfarwyddwyr a gweld y cacennau a meddwl ei fod yn beth mor garedig a hyfryd i wneud o feddwl nad oedd ganddi swydd a bod ei dyfodol mor ansicr. Roedd yn toddi fy nghalon."
Er nad oedd ganddi gynllun busnes ar gyfer y fenter, roedd yn teimlo'n gryf bod yn rhaid achub swyddi'r menywod. Ond dyw'r ddwy flynedd gyntaf, drwy gyfnod clo'r pandemig, ddim wedi bod yn hawdd.
"Fel mae fy ngŵr yn dweud "Pwy fyddai'n agor ffatri mewn pandemig?" sy'n bwynt da iawn. Ond roedd gwastraffu'r sgiliau sydd gan y bobol yma yn drasiedi."
Agorodd y ffatri newydd yn cyflogi rhai o 77 o gyn-weithwyr Laura Ashley, ym mis Hydref 2020, gyda chymhorthdal o £300,000 gan lywodraeth Cymru at beiriannau ac i greu swyddi ar ben buddsoddiad Fashion-Enter.
Ers hynny mae'r uned yn adeilad enwog, Warws Pryce-Jones, yn y Drenewydd wedi ymateb i archebion gan gwmnïau ar-lein yn cynnwys ASOS.
Gobaith "am fywyd ar ôl Laura Ashley"
Bu Rachel Bufton yn gweithio i Laura Ashley am 40 mlynedd gan ddechrau ar y peiriannau gwnïo i fod yn arolygydd ac yn y diwedd yn un o'r rheolwyr.
"Roedd yn drist iawn ar ôl yr holl flynyddoedd," meddai, "ond yna daeth Jenny a'i gwneud yn haws derbyn ein bod yn gadael ac y gallai'r tîm fod nôl gyda'i gilydd yn adeilad Pryce Jones.
"Rhoddodd lot o obaith i ni fod bywyd ar ôl Laura Ashley… a'n bod yn gallu parhau gyda'r gwnïo a'r diwydiant dillad."
Gwnïo ffrogiau priodas oedd y dechrau i Sheena Pugh ym Machynlleth cyn symud i Garno ac yna'r Drenewydd. Ar ôl gweithio am "mis yn llai na 29 mlynedd" a chyfnod byr ar ffyrlo mae nôl wrth ei gwaith yn y diwydiant dillad yn y Drenewydd ac yn falch o benderfyniad Jenny Holloway i fentro.
"Roedd hi'n gwybod bod ganddi'r merched iawn i wneud iddo weithio. 'Da ni gyd fel teulu ac yn agos at ein gilydd ac yn nabod ein gilydd ers blynyddoedd."
Yn ogystal ag archebion gan gwmnïau Prydeinig, mae'r ffatri wedi creu brand unigryw Spyce Jones yn ffedogau, menig, tywelion llestri. Ac mae wedi sefydlu Academi yn y ffatri i hyfforddi a chynnig cymhwyster pwytho i fyfyrwyr Coleg y Drenewydd.
Troi nôl at brynu'n lleol
Cwmni nid er elw yw Fashion-Enter a gafodd ei sefydlu yn Llundain 16 mlynedd yn ôl er mwyn sicrhau dyfodol i'r diwydiant dillad ym Mhrydain. Mae Jenny Holloway yn ymgyrchydd blaenllaw dros wella hyfforddiant ac amodau gwaith ac yn annog cwmnïau i brynu dillad wedi'u cynhyrchu yn lleol.
Mae ffatri'r Drenewydd yn chwilio am 20 o bwythwyr ychwanegol at y 45 sydd yno eisoes er mwyn cwrdd â'r archebion newydd eleni ac yn cynnig prentisiaethau i barhau â thraddodiad sgiliau'r diwydiant dillad yn y canolbarth.
"Dy'ch chi ddim yn dod o hyd i weithwyr sydd â'r sgiliau gwnïo arbennig yn aml iawn," meddai Jenny Holloway wrth fwrw golwg yn ôl ar ei phenderfyniad ddwy flynedd yn ôl. "Mae'n drueni nad yw manwerthwyr yn deall pa mor bwysig yw prynu yn lleol …
"Pam ar y ddaear mae angen mewnforio dillad o China gyda'r holl broblemau cludo nwyddau a Covid? Pam ddim prynu'n lleol, diogelu swyddi a gweithio gyda chymunedau?
"Dw i ddim yn siŵr a allwn droi'r cloc yn ôl ond ry'n ni'n mynd i roi cynnig da ar greu canolfan o arbenigedd mewn sgiliau pwytho unwaith eto yn y Drenewydd."
Hefyd o ddiddordeb: