Wrecsam yn croesawu beirniaid cystadleuaeth Dinas Diwylliant

  • Cyhoeddwyd
Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Wrecsam fyddai'r ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws Dinas Diwylliant y DU

Mae beirniad cystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU 2025 yn ymweld â Wrecsam ddydd Mercher i ystyried cais yr ardal am y statws.

Fe fydd y panel yn cael blas o weithgarwch celfyddydol y dref a'r sir, ac yn ymweld â'r Cae Ras a Thraphont Pontcysyllte.

Pe bai'r cais yn llwyddiannus, dyma fyddai tro cyntaf i ardal yng Nghymru ennill y gydnabyddiaeth - a byddai'n dod â manteision economaidd hefyd.

Yn ôl Llywodraeth y DU, mae Coventry - dinas ddiwylliant 2021-22 - wedi cael buddsoddiad o £172m.

Bradford, Durham a Southampton yw'r ardaloedd eraill yn y ras.

Cadeirydd y panel beirniadu ydy Syr Phil Redmond, dyfeisiwr y rhaglenni teledu Grange Hill a Hollyoaks.

Ceisio gwerthu stori'r ardal - o bensaernïaeth a threftadaeth, i gelf fodern a phêl-droed - mae'r trefnwyr.

"Yn y bôn, maen nhw isio gweld bod ni'n dref sydd efo lot o bositifrwydd, lot o weithgareddau, lot o bobl a'r gymuned yn gwneud pethau efo'i gilydd i wella bywyd pawb yn dref - a dyna sy'n bwysig," meddai Stephen Jones, sy'n rhan o griw Wrecsam 2025.

'Rhoi cynnig da arni'

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Côr Meibion Orffiws y Rhos yn canu i'r beirniaid ddydd Mercher

Byddai nifer o grwpiau cymunedol yn elwa pe bai Wrecsam yn llwyddo i hawlio'r teitl, ac mae sawl un yn rhan o'r gweithgareddau lu sydd wedi eu trefnu dros y misoedd a'r wythnosau diwethaf i gefnogi'r cais.

Un o'r sefydliadau hynny ydy Côr Meibion Orffiws y Rhos, sydd yn canu i'r beirniaid ddydd Mercher.

Eisiau "cadw'r traddodiad i fynd" drwy ganu mae Marc Williams, un o'r aelodau, ond mae'n dweud bod mwy i gerddoriaeth yn lleol na chanu corawl yn unig.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Wrecsam arlwy amrywiol o gerddoriaeth, medd Marc Williams

"Mae 'na bob math o gerddoriaeth yn Wrecsam ei hun - bandiau ifanc, a bob math o bobl yn canu a gwneud pethau eraill hefyd," meddai.

"Dwi'n siŵr, os wneith pawb dynnu at ei gilydd, mi wneith Wrecsam roi cynnig da arni."

Mae gwaith yr artist lleol Paul Eastwood i'w weld mewn arddangosfa sy'n ymateb i hanes y diwydiant clai yn lleol ar hyn o bryd.

Yng nghanolfan gelfyddydol Tŷ Pawb mae'r sioe honno - canolfan sydd, fel mae'n digwydd, newydd gyrraedd rhestr fer Amgueddfa'r Flwyddyn Art Fund 2022., dolen allanol

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bryd i godi statws diwylliannol Wrecsam, medd Paul Eastwood

Yn ôl Paul, byddai statws dinas diwylliant yn gyfle i greu sefydliad diwylliannol "uchelgeisiol" newydd yn Wrecsam o bwys rhanbarthol a chenedlaethol.

"Os 'dach chi'n edrych ar lefydd fel Hull neu Coventry neu Lerpwl, mae pobl gyfoethog sydd wedi gwneud arian allan o ddiwydiant… wedi rhoi rhywbeth 'nôl mewn i'r ddinas.

"Dwi'n meddwl be' sy'n drist am Wrecsam yw bod deunyddiau wedi bod yma, fel clai, glo, haearn, plwm... [ond] mae'r arian hefyd wedi cael ei dynnu allan o Wrecsam, felly does neb wedi adeiladu'r amgueddfa fawr i ogledd Cymru.

"Felly dyma'r amser i ni ddod yn ôl i hynna, a meddwl am… ail-ddeall hanes llefydd fel Wrecsam."

'Codi'n llais'

Ochr yn ochr â hanes a thraddodiad - mae cais Dinas Diwylliant 2025 Wrecsam yn ceisio adlewyrchu'r cymunedau amrywiol sydd wedi ymgartrefu yn y cylch yn fwy diweddar, o'r Pwyliaid i'r Portiwgeaid.

Mae Omo Idegun wedi sefydlu cymdeithas Affricanaidd yn y dref, a thrwy gefnogaeth y cais, yn dyrchafu llais ei chymuned mewn digwyddiadau fel carnifal y penwythnos hwn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Omo Idegun wedi sefydlu cymdeithas Affricanaidd yn y dref

"Dydyn ni ddim wedi bod yn adnabyddus achos doedd gennym ni fyth sefydliad fel hwn, ond fel Cymuned Affricanaidd Wrecsam rydym ni'n codi llais," meddai.

Beth bynnag fo'r canlyniad terfynol, mae'r broses o ymgeisio am statws dinas diwylliant wedi rhoi llwyfan newydd i sawl un yn Wrecsam.

Gobeithio am lwyfan llawer ehangach i'r dref gyfan mae trefnwyr y cais, fydd yn disgwyl yn eiddgar am benderfyniad y beirniaid, fydd yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach ym mis Mai.

Pynciau cysylltiedig