Ddylai gemau pêl-droed Cymru ddychwelyd i'r Cae Ras?

  • Cyhoeddwyd
Cae RasFfynhonnell y llun, Alex Livesey
Disgrifiad o’r llun,

Cae Ras, Wrecsam - stadiwm bêl-droed rhyngwladol hynaf y byd

Mae hi'n bwnc trafod ymhlith cefnogwyr Cymru erioed, yn enwedig i'r rhai sy'n byw i'r gogledd o Rheadr. Rŵan, yng nghanol llwyddiant clwb pêl-droed Wrecsam a'r cynnydd yn y niferoedd sy'n mynd i wylio Cymru, oes angen dod a gemau nôl i'r gogledd?

Wrth i Glwb Pêl-droed Wrecsam fynd o nerth i nerth mae cyngor y dref wedi gwneud cais i adfywio'r Cae Ras a chreu eisteddle 5,500 sedd ar y KOP, cyfleusterau cyfryngau gwell, maes parcio a gwesty drwy gronfa Codi'r Gwastad.

Yn ogystal mae deiseb gan grŵp Stadiwm i'r Gogledd yn galw am gefnogaeth cefnogwyr i gael Cymru i ddychwelyd i'r stadiwm fuodd unwaith yn dyst i nifer o gemau rhyngwladol arbennig gan gynnwys trechu Lloegr dwywaith yn 1980 a '84 a 3-0 yn erbyn Sbaen yn '85.

Dychwelodd pêl-droed rhyngwladol i'r Cae Ras am y tro cyntaf mewn degawd pan enillwyd 1-0 yn erbyn Trinidad a Tobago yn 2019 wnaeth sicrhau fod ei berchnogaeth o'r teitl breintiedig fel 'Cae Rhyngwladol hynaf y byd' yn dal yn fyw.

I lawer iawn o gefnogwyr y gogledd mae gwylio eu tîm rhyngwladol yng Nghaerdydd yn golygu oriau o deithio, diwrnodau i ffwrdd o'r gwaith, a thalu trwy eu trwynau am betrol a llety.

Felly oes 'na gyfiawnhad dros gael mwy o bêl-droed rhyngwladol ar y Cae Ras? Mae Cymru Fyw wedi holi cefnogwyr o leoliadau ar draws y wlad.

Siân Thomas - Nefyn, Penrhyn Llŷn

Ffynhonnell y llun, Siân Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Siân Thomas a'i phlant yn gwylio Cymru v Seland Newydd yng Nghae Ras, 2007

Mae'n syniad gwych cael Cymru nôl yn y stadiwm rhyngwladol hynaf yn y byd, Cae Ras. Dwi'n cofio ers talwm mynd i gemau yno ag yn ôl yr un noson.

Rŵan wrth fynd lawr i Gaerdydd mae pawb gorfod defnyddio dau neu dri diwrnod i ffwrdd o'r gwaith ac mae o'n gostus iawn o ran petrol a gwesty bob tro, heb sôn am yr A470!

Fyswn i wrth fy modd cael mynd ag fy wyres a gŵyr i Wrecsam i wylio Cymru. Dwi'n cofio mynd a fy mhlant yno i weld gêm Cymru v Seland Newydd pan gafodd Wayne Hennessey ei gap cyntaf yn 2007.

Gora po' gyntaf y gallwn gael y Cae Ras i gynnal gemau rhyngwladol yn ôl fel y mai i fod, hir yw pob ymaros ond o mi fydd o werth o. Ac mi fyddai yn un o'r rhai cyntaf yno.

Gruff John - Y Felinheli, Gwynedd

Ffynhonnell y llun, Gruff John
Disgrifiad o’r llun,

Gruff John a'i fab Deio yn gwylio Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd

Mae'n cymryd dros bedair awr i mi deithio i Gaerdydd mewn car neu drên a gyda chostau petrol a thocynnau trên mor uchel, mae'n gallu bod yn drip mor ddrud â thrip oddi-gartref!

Mae hefyd y benbleth o orfod dewis rhwng gyrru adref ar ôl y gêm a chyrraedd adra tua 3 y bore neu dalu mwy o bres eto i aros mewn gwesty yng Nghaerdydd.

Mi fysa cynnal gemau ar y Cae Ras dal yn galluogi i mi adael ar ôl gwaith a chyrraedd adra ar amser call. Byddai hefyd yn galluogi fy mab sydd hefyd yn mwynhau mynd i'r gemau i ddod hefo fi ar ôl ysgol i'r gemau canol wythnos.

Sw' ni wrth fy modd yn gweld o leiaf cwpwl o gemau'r flwyddyn yn cael eu cynnal yn y Cae Ras, a dwi'n teimlo y bydd hyn yn ffordd o dalu cefnogwyr brwd y Gogledd yn ôl am yr holl amser ac arian sydd wedi ei fuddsoddi dros y blynyddoedd.

Disgrifiad o’r llun,

Y capten Kevin Radcliffe a'r tîm cyn trechu Lloegr 1-0 yn 1984. Sgoriodd yr hogyn lleol Mark Hughes (cefn dde) yn ei gêm gyntaf i Gymru

Dafydd Jones - Machynlleth

Fel cefnogwr Wrecsam, bydde gweld Cymru'n chwarae yn y Cae Ras yn fwy aml yn ffantastig. Mae'r newyddion fod y KOP yn debygol o gael ei ail-agor yn gyffrous iawn ac yn sicr am wneud yr atmosffer hyd yn oed yn well.

Dwi'n cofio gwylio Cymru yn erbyn Trinidad a Tobago yn y Cae Ras yn 2019 ac roedd o'n brofiad sbesial i weld y tîm rhyngwladol yn chwarae ar gae'r clwb dwi'n cefnogi.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cymru 1-0 Trinidad & Tobago, 2019. Mae Cymru wedi chwarae 94 o gemau yng Nghaer Ras sy'n fwy nag unrhyw stadiwm arall

Mae tîm rhyngwladol y menywod wedi datblygu gymaint dros y degawd diwethaf hefyd felly bydde gallu croesawu nhw i'r Cae Ras yn brofiad grêt fel cefnogwr Wrecsam yn enwedig.

Elin Thomas - Caerdydd

Dwi di cael llond bol o bobl yn dweud dyle mwy fod yn y gogledd ar ôl bob cyhoeddiad gêm oherwydd dydi'r cyfleusterau ddim yno. Dydi o ddim yn gymwys i wneud hynny ar hyn o bryd felly dydi o ddim yn ddadl.

Mae'n diddorol sut mae UEFA a FIFA yn gwneud y penderfyniadau hefyd. Dwi di bod mewn llefydd yn gwylio Cymru'n chwarae dramor fel Albania - doedd na ddim toiledau i'r menywod a dim lle i bobl gael yfed, dim hyd'noed dŵr. Ond mae o i gyd i wneud gyda'r cyfleusterau i'r cyfryngau a'r dignitaries.

Es i a ffrindiau i'r gêm yn erbyn Trinidad yn 2019. Gaethon ni fws i fyny o Gaerdydd a dwi'n siŵr bysa rhanfwyaf o rhain yn barod i wneud hynna eto.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mark Hughes yn cael modd i fyw yng Nghae Ras... sgoriodd foli anhygoel pan enillodd Cymru 3-0 yn erbyn Sbaen yn 1985

Ond fyswn i ddim yn disgwyl i'r gemau mawr fynd i Wrecsam. Dwi'n meddwl mai dim ond gemau cyfeillgar a gemau llai achos mae'n rhaid meddwl am capasiti.

Dwi'n meddwl bydde na lot o ifs and buts ond faswn i ddim yn gweld dim newid yn y blynyddoedd agos, mae o am gymryd dipyn o flynyddoedd i gael y pres a wneith lot dibynnu ar be mae'r tîm yn gwneud a be ydi'r sefyllfa yna.

Tomos Morris - Abertawe

Ffynhonnell y llun, Tomos Morris
Disgrifiad o’r llun,

Tomos Morris a'i ffrindiau yn Stadiwm Dinas Caerdydd

Dwi'n meddwl mae'n ddigon teg. Mae hanner y cefnogwyr yn gorfod dod o'r gogledd a chi'n clywed yr holl sôn am y teithiau buses a'r trenau yn llawn ac ati.

Mae hi mond yn deg bod rhai yn Wrecsam os gallen nhw wella'r cyfleusterau a dod a mwy o bobl mewn i'r stadiwm a'r dref. Falle wneith e annog pobl yn yr ardal i chwarae pêl-droed hefyd.

Dyle Stadiwm Liberty (Abertawe) gael gemau hefyd dwi'n meddwl. S'dim reswm pam dyle fe ddim mynd rownd y wlad i ardaloedd gwahanol. Mae Lloegr wedi dechrau gwneud e.

O ran y gemau mawr - dyle nhw fod yng Nghaerdydd… dyna le mae'r awyrgylch a'r lwyddiant wedi bod dros y ddegawd ddiwethaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Craig Bellamy yn sgorio ei ail gol yn y gêm 2-2 yn erbyn Seland Newydd, 2007

Owain Young - Llanboidy, Sir Gaerfyrddin

Mae'n ridiculous pan mae pobl yn siarad amdano fe nawr. Unwaith ma fe'n iawn ma fe'n iawn, ond dyw e ddim yn barod 'to.

Fi'n joio mynd lan i Wrecsam, ma fe'n codi'n nghalon i. Enjoien i fynd lan mwy. Mae e'n bwysig iawn ein bod ni'n hysbysebu fe fel stadiwm rhyngwladol hynaf y byd.

I'r cefnogwyr o'r gogledd ma fe'n haws iddyn nhw fynd i Warsaw na Caerdydd! Ma fe'n ddwy awr a hanner i fi i Gaerdydd… Bydde fi ddim yn ormod o fwrn i ni fynd lan i Wrecsam oherwydd ni'n joio fe.

Weles i Trinidad a Tobago a gêm gyntaf Chris Gunter a Wayne Hennessey yn Wrecsam. Ma fe wedi bod blynyddoedd ers y gemau mawr na yn yr 80au a hoffen i weld gemau cystadleuol yno hefyd, absoliwtli.

Disgrifiad o’r llun,

Arfon Griffiths, un o chwaraewyr gorau Wrecsam erioed, wnaeth sgorio'r unig gôl pan enillwyd yn erbyn Awstria yn 1975. Sicrhaodd safle Cymru yn rownd wyth olaf Pencampwriaethau Ewrop

Pete Jones - Wrecsam

Gogledd Cymru ydi cartref pêl-droed Cymru. Rydyn ni wedi bod heb y KOP rŵan ers 2008. Mae Wrecsam angen pêl-droed rhyngwladol yn ôl.

Ers i'r Gymdeithas Bêl-droed symud y Gaerdydd mae o wedi bod yn ganolog i Gaerdydd. Mae hynny yn oce ac mae o wedi bod yn grêt ac rydyn ni wedi gweld gemau anhygoel.

Ond mae'r gost i bobl ifanc dyddiau yma yn enfawr. A dydyn nhw ddim yn cael y cyfle i weld Ramsey, Bale a'r hogiau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan y Cae Ras gapasiti o 10,771

Mae o ddigon drwg i ffans Wrecsam ond i bobl Ynys Môn ac ar draws arfordir y gogledd mae o yn anodd.

Rydyn ni wedi gweld gemau anhygoel yn Cae Ras - ennill yn erbyn Lloegr a Sbaen. Ond dwi jest eisiau gweld o ar gyfer y bobl ifanc.. I gael yr un cyfle a fi.

Hefyd o ddiddordeb