Carcharu cyn-blismon wnaeth gyfres o gyhuddiadau ffug
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-heddwas o Abertawe a wnaeth gyfres o gyhuddiadau ffug am fyfyrwraig 23 oed wedi cael ei ddedfrydu i dair blynedd a hanner yn y carchar.
Fe gafwyd y Cwnstabl Abubakar Masum, oedd yn gwasanaethu gyda Heddlu De Cymru, yn euog yn Llys Y Goron Caerdydd ym mis Mawrth o wyrdroi cwrs cyfiawnder ac o wneud defnydd anghyfiawn o system gyfrifiadurol y llu.
Clywodd yr achos bod Masum, 24, ag obsesiwn â myfyrwraig, oedd yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.
Fe ffoniodd linell Taclo'r Taclau gan ei chyhuddo o werthu cyffuriau, cadw gwn a llofruddio 'gangster' o Albania cyn cael gwared o'i gorff yn y môr.
Wedi iddo gael ei arestio fe wnaeth Masum gyfaddef gwneud y galwadau, ond dywedodd eu bod yn "ddidwyll" ac yn seiliedig ar bostiadau ar ei chyfrif Snapchat.
Fe wnaeth e gyhuddo'i chyn-gariad hi o fwriadu teithio i Abertawe er mwyn ymosod arno gydag asid.
Cafodd Masum ei ddiswyddo o'r heddlu gan banel disgyblu ddechrau Mai a'i wahardd rhag gwasanaethu fel plismon eto.
Penderfynwyd ei fod wedi torri safonau'r heddlu o ran gonestrwydd, cyfrinachedd ac ymddygiad cywilyddus.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan wrth gofnodi'r dyfarniad hwnnw bod "dim lle ar gyfer y math yma o ymddygiad" o fewn y llu.
Yn sgil awgrymiadau ffug Masum, fe wnaeth heddlu arfog gynnal cyrch ar gartref y fyfyrwraig ac fe gafodd ei holi ynglŷn â'r llofruddiaeth arfaethedig.
Amcangyfrifir fod yr adroddiadau i Daclo'r Taclau wedi gwastraffu tua 200 awr o amser yr heddlu.
Ni ddaeth Heddlu De Cymru o hyd i unrhyw dystiolaeth ei bod yn ymwneud ag unrhyw weithgareddau troseddol.
Roedd Masum wedi gwadu dau gyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder ac un cyhuddiad o fynediad heb awdurdod i gyfrifiadur yr heddlu - ond fe'i gafwyd yn euog gan y rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd.
'Beth arall y gallai ei wneud?'
Mewn datganiad personol dioddefwr a gafodd ei ddarllen yn y llys, dywedodd y ddynes 23 oed fod y cyfan wedi ei gadael hi'n poeni am yrfa bosib gyda'r heddlu yn y dyfodol.
"Roeddwn i'n meddwl pe gallai wneud hyn i mi, beth arall y gallai ei wneud?"
"Roedd cael Mas yn syllu arna i tra roeddwn i'n rhoi fy nhystiolaeth yn frawychus."
Dywedodd fod y cyfan wedi codi ofn arni hi a bod hi'n bryderus am fynd allan ar ei phen ei hun.
"Rwyf wedi teimlo bod cwmwl tywyll enfawr yn hongian drosof," meddai.
Cafodd y datganiad ei darllen yn y llys gan ei chyn-gariad, oedd wedi ei gyhuddo o gynllunio i deithio i Abertawe i gynnal ymosodiad asid.
"Fe allai hyn fod wedi difetha fy mywyd," meddai.
'Ddim yn deall y niwed'
Fe wnaeth y Barnwr Michael Fitton QC ddedfrydu Masum i dair blynedd a hanner o garchar am ddau gyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder ac un cyhuddiad o sicrhau mynediad anawdurdodedig i ddeunydd cyfrifiadurol.
Wrth draddodi'r ddedfryd, dywedodd y barnwr Michael Fitton QC: "Rwyf o'r farn nad ydych chi'n deall y niwed yr ydych wedi'i achosi.
"Fel plismon rydych wedi achosi niwed nid yn unig i'r ddynes ifanc yma a'i ffrindiau, ond i'ch teulu eich hun, ac i'r heddlu, sy'n cael enw drwg bob tro mae plismon yn torri'r gyfraith ac yn mynd i'r carchar."
Fe gafodd Masum orchymyn atal er mwyn ei rwystro rhag cysylltu â'r fyfyrwraig fyth eto.
"Fe wnaeth Abubakar Masum gamddefnyddio'i bŵer fel plismon," meddai John Griffiths, Uwch Erlynydd y Goron gyda CPS Cymru.
"Roedd canlyniadau posib ei weithredoedd yn hynod ddifrifol," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd3 Mai 2022