Dyn o flaen llys ar gyhuddiad o lofruddiaeth dynes ym Môn
- Cyhoeddwyd

Cafodd Buddug Jones ei darganfod yn ei gwely gydag anaf i'w phen
Mae dyn 52 oed wedi bod o flaen ynadon wedi ei gyhuddo o lofruddio dynes ar Ynys Môn fis diwethaf.
Cafodd corff Buddug Jones, 48, ei ddarganfod mewn tŷ ym Maes Gwelfor ym mhentref Rhyd-wyn yng ngogledd yr ynys ar 22 Ebrill.
Cafodd Colin John Milburn, 52, sydd hefyd yn byw ym Maes Gwelfor, ei gadw yn y ddalfa ar ddiwedd gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Llandudno.
Mae disgwyl iddo ymddangos nesaf yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug ddydd Llun nesaf.
Clywodd cwest a gafodd ei agor a'i ohirio'n gynharach yr wythnos hon fod Ms Jones wedi ei darganfod yn ei gwely gydag anaf i'w phen.
Clywodd y gwrandawiad hwnnw, yng Nghaernarfon, nad oedd hi mewn perthynas nag mewn swydd.
Mae ei theulu wedi ei disgrifio fel "y fam, nain a chwaer orau y gall unrhyw un ofyn amdani".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd18 Mai 2022