Wrecsam yn breuddwydio am fuddugoliaeth arall yn Wembley

  • Cyhoeddwyd
Wrexham a BromleyFfynhonnell y llun, Getty Images/Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Un fuddugoliaeth ac un gêm gyfartal gafodd Wrecsam yn erbyn Bromley yn y gynghrair y tymor hwn

Bydd Clwb Pêl-droed Wrecsam yn gobeithio ennill eu tlws cyntaf ers 2013 wrth iddyn nhw herio Bromley yn rownd derfynol Tlws FA Lloegr ddydd Sul.

Dyma fydd y trydydd tro mewn llai na degawd i Wrecsam gyrraedd ffeinal y gystadleuaeth, ac fe gafodd y ddwy gêm flaenorol eu penderfynu ar giciau o'r smotyn.

Wrecsam oedd yn dathlu wrth iddyn nhw drechu Grimsby yn 2013, ond North Ferriby oedd yn fuddugol yn 2015.

Bydd y gic gyntaf yn Wembley am 16:15 brynhawn Sul.

Disgrifiad o’r llun,

Mae miloedd ar filoedd o gefnogwyr Wrecsam yn gwneud y daith i Wembley ar gyfer y gêm

Un o'r rheiny oedd wedi teithio i gefnogi'r tîm ar eu hymddangosiad cyntaf yn Wembley yn 2013 oedd Jordan Davies. Roedd yn 14 oed ar y pryd, ond naw mlynedd yn ddiweddarach mae'n un o sêr y Dreigiau.

"Roedd yn brofiad anhygoel ac fe wnaethon ni ennill ar giciau o'r smotyn i goroni'r cyfan," meddai.

"Roeddwn i'n sefyll yna gyda fy nhad yn meddwl pa mor dda fyddai hi i fod ar y cae, a naw mlynedd yn ddiweddarach dyma fi - dwi ar ben fy nigon!"

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jordan Davies yn y dorf y tro cyntaf i Wrecsam wneud y daith i Wembley yn 2013

Roedd ychydig o siom i'r clwb y penwythnos diwethaf, wrth i Stockport ennill y gynghrair a sicrhau dyrchafiad awtomatig o'r Gynghrair Genedlaethol.

Os ydy Wrecsam am ymuno â nhw yn Adran Dau y tymor nesaf, bydd yn rhaid i hynny fod trwy'r gemau ail gyfle.

"Does 'na ddim llwyfan fwy na Wembley er mwyn taro 'nôl," meddai Davies.

"'Dan ni'n edrych 'mlaen i wneud hynny a gobeithio ennill y tlws."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Wrecsam yn gobeithio efelychu eu llwyddiant yn yr un gystadleuaeth naw mlynedd yn ôl

Dywedodd Andy Gilpin, cefnogwr brwd a chyflwynydd podlediad Fearless in Devotion, ei fod yn gobeithio y bydd y ffeinal ddydd Sul yn gyfle i anghofio am y siom o ddod yn ail yn y gynghrair, a'r gemau ail gyfle sydd i ddod.

"Dwi'n meddwl fod ychydig o siom yr wythnos ddiwethaf na wnaethon ni lwyddo i gael dyrchafiad awtomatig, ond i ni'r cefnogwyr a'r chwaraewyr dyma gyfle i ddechrau eto," meddai ar Radio Wales.

"Mae gennym ni'r gemau ail gyfle ar y ffordd ond mae'r ffeinal yn Wembley yn rhoi rhywbeth iddyn nhw ganolbwyntio arno - digwyddiad mawr - fel y gallan nhw anghofio am ddyrchafiad am wythnos.

"Mae gennym ni chwaraewyr sy'n mwynhau'r gemau mawr 'ma, fel Paul Mullin a Jordan Davies, a dwi'n meddwl y byddan nhw'n mwynhau - dwi'n gwybod y bydda i!"

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alun Owens, yma gyda Bethan Roberts, fod y ffeinal yn gyfle i ddathlu "adfywiad yn y clwb o dan berchnogion newydd"

Wrth i'r cefnogwyr gyrraedd yr ardal o amgylch y stadiwm brynhawn Sul roedd y cyffro yn amlwg.

"Ma' heddiw yn gyfle i ddathlu tymor sydd wedi bod yn gyffrous iawn, ac adfywiad yn y clwb o dan berchnogion newydd," meddai Alun Owens.

"'Dan ni gyd yn mynd i fwynhau, ond hefyd yng nghefn y meddwl, yn gwybod fod y gêm fawr falle dydd Sadwrn a'r dydd Sul canlynol."

Hwb i'r gemau ail gyfle

Un arall o'r cefnogwyr selog fydd yn y dorf yn cefnogi'r Dreigiau brynhawn Sul fydd Flo Bithell o Gefn-mawr, sy'n 91 oed.

Aeth hi i'w gêm gyntaf dros 70 mlynedd yn ôl, yn 1949!

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Flo Bithell tu allan i Wembley y tro diwethaf i Wrecsam chwarae yno - ffeinal aflwyddiannus Tlws FA Lloegr yn 2015

Fe fyddai buddugoliaeth ddydd Sul yn hwb i'r tîm cyn gemau ail gyfle'r Gynghrair Genedlaethol hefyd, gyda rownd gynderfynol Wrecsam yn erbyn un ai Notts County neu Grimsby yn cael ei chwarae ar y Cae Ras ar 28 Mai.

"Os edrychwch chi 'nôl i 2013 - y tro cyntaf i ni fod yn ffeinal Tlws yr FA a'r tro cyntaf yn Wembley - fe wnaeth hynny roi hwb enfawr i'r clwb am yr ychydig flynyddoedd wedi hynny," ychwanegodd Andy.

Gwesteion arbennig?

Oes yna nerfau ymhlith y cefnogwyr cyn y gêm fawr yn Llundain felly?

"Dydych chi ddim wir yn gallu cysgu y noson cyn Wembley!" meddai Andy.

"Mae gennym ni efallai tua 24,000 o gefnogwyr yn dod i Lundain, a phwy a ŵyr, efallai y bydd gennym ni westeion arbennig?"

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Fe brynodd Rob McElhenney a Ryan Reynolds y clwb yn swyddogol fis Chwefror 2021

Y gwesteion arbennig y mae Andy yn eu crybwyll ydy'r perchnogion - sêr Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney.

Er amheuon gan rai pan brynwyd y clwb, mae'r perchnogion newydd wedi profi eu bod yn rhoi'r clwb yn gyntaf, a'u bod nhw a'r cefnogwyr yn targedu'r un nod - llwyddiant a dyrchafiad yn ôl i'r gynghrair bêl-droed.

"Roedd lot o bobl yn meddwl 'ydyn nhw'n prynu clwb pêl-droed neu ydyn nhw'n gwneud rhaglen ddogfen?'," meddai Andy Gilpin.

"Wedyn fe wnaethon nhw benodi Phil Parkinson fel rheolwr, a dyna pryd nes i sylweddoli mai prynu clwb pêl-droed oedden nhw - maen nhw eisiau dyrchafiad.

"Roedd 'na lawer mwy o reolwyr oedd yn enwau mwy y gallen nhw fod wedi penodi os mai gwneud rhaglen ddogfen oedden nhw, ond mae Phil yn rheolwr da, cyson, profiadol."