CBAC: 'Dim o'i le ar arholiad mathemateg'
- Cyhoeddwyd
Mae bwrdd arholi CBAC wedi ailddatgan fod arholiad mathemateg Uwch Gyfrannol diweddar o fewn gofynion y cwrs oedd wedi ei osod.
Daw hyn yn sgil cwynion gan rai bod rhai o'r cwestiynau yn ymwneud â phynciau oedd wedi eu hepgor o'r cwrs wrth i'r maes llafur gael ei addasu a'i gwtogi oherwydd heriau Covid.
Mewn datganiad fore Llun dywedodd CBAC fod yr addasiadau wedi eu cyhoeddi ym Medi 2021 a'u bod ar gael i bawb ar eu gwefan.
Ar ôl yr arholiad yr wythnos diwethaf dywedodd un athro, oedd am fod yn ddienw, wrth BBC Cymru bod tocio wedi bod ar y cynnwys oherwydd y pandemig, ac mai "camgymeriad oedd cynnwys y cwestiynau dan sylw".
Dywedodd Elgan, disgybl 17 oed o Ddinbych, ei fod e wedi cael 'sioc' wrth weld cynnwys y papur arholiad.
"O'n i'n mynd fewn i'r arholiad yn disgwyl cwestiynau penodol o'n i 'di adolygu, wedyn nes i agor y llyfryn a doedd y cwestiwn cyntaf ddim hyd yn oed i fod ar y syllabus," meddai.
Yn ôl CBAC roedd y corff arholi wedi cymryd gofal i sicrhau fod y cwestiynau yn deg gan asesu dim ond hynny oedd wedi ei gynnwys yn ôl eu cyfarwyddiadau.
'Mwy heriol na'i gilydd'
Dywedodd llefarydd: "Yn 2022 fe wnaethom ychydig o addasiadau i'r cynnwys gan dynnu rhai pynciau o'r asesiad yr haf hwn ond ar yr un pryd bod yn ofalus i gadw'r holl wybodaeth a sgiliau sy'n angenrheidiol er mwyn cynnydd i'r lefel nesaf o astudio.
"Cafodd yr addasiadau hyn eu cyhoeddi ym Medi 2021 ar ein gwefan a'r bwriad oedd lleddfu unrhyw amharu oedd wedi bod oherwydd y pandemig.
"Fe allwn gadarnhau fod yr holl gwestiynau o fewn arholiadau cemeg a mathemateg yn rhan o'r cynnwys ac nad oeddynt yn ddibynnol ar wybodaeth a dealltwriaeth unrhyw un o'r meysydd oedd wedi eu hepgor o asesiad 2022."
'Mwy hael'
"Mae arholiadau o hyd yn cynnwys ystod o gwestiynau, rhai o'r rhain yn fwy heriol na'i gilydd, fel y gallwn wahaniaethau yn effeithiol a gosod graddau yn deg i bob myfyriwr.
"Rydym hefyd yn ystyried asesiadau o'r gorffennol wrth lunio papurau i sicrhau fod arholiadau bob blwyddyn o safon debyg.
"Pan fydd yr holl bapurau wedi eu marcio, mae uwch farcwyr yn ystyried atebion y myfyrwyr yn ofalus ac yn gosod ffiniau graddau yn ôl hynny.
"Pe bai ni'n canfod fod papur un flwyddyn yn fwy heriol na'r flwyddyn flaenorol fe fydd ffiniau'r gwahanol raddau yn adlewyrchu hynny."
Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi y bydd graddau 2022 yn haelach na rhai 2019 er mwyn lleddfu'r aflonyddu a fu ar rai myfyrwyr o ganlyniad i'r pandemig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai 2022
- Cyhoeddwyd13 Mai 2022
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2022