Tlodi: Elusen yn disgwyl i'r galw 'fynd drwy'r to'

  • Cyhoeddwyd
Dosbarthu bwyd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gwasanaeth newydd ei lansio yn Llanelli gan elusen FareShare ddydd Iau i ymateb i'r cynnydd mewn galw

Mae prif weithredwr elusen o Lanelli sy'n cefnogi teuluoedd mewn tlodi wedi rhybuddio ei fod yn disgwyl i'r galw am eu gwasanaethau "fynd drwy'r to" - a hynny yn sgil yr argyfwng costau byw a'r rhyfel yn Wcráin.

Roedd Mike Theodoulou o elusen cyfiawnder cymdeithasol Foothold Cymru yn siarad ar ddiwrnod cyntaf gwasanaeth newydd i ddosbarthu bwyd dros ben i'w elusen ef ac elusennau eraill yng ngorllewin Cymru.

Mae'r gwasanaeth newydd wedi ei sefydlu yn Llanelli gan elusen FareShare Cymru.

Mae FareShare yn cefnogi cannoedd o brosiectau bwyd cymunedol mewn hosteli i bobl ddigartref, clybiau brecwast ysgol, llochesi trais domestig a chlybiau cinio pobl hŷn.

Mae'n casglu bwyd dros ben gan archfarchnadoedd a ffatrïoedd ac yn ei ailddosbarthu i elusennau a grwpiau cymunedol ledled Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mike Theodoulou ei fod yn disgwyl i'r galw gynyddu

Mae Foothold Cymru yn rhedeg Siop Fwyd Cymunedol Stebonheath yn Llanelli.

Dywedodd Mr Theodoulou fod y galw yn tyfu'n sydyn, wrth groesawu y gwasanaeth newydd gan FareShare Cymru.

"Mae traean o blant yn Sir Gaerfyrddin mewn tlodi," meddai.

"Yn y ddwy ward o'n cwmpas ni yma yn Llanelli, mae tlodi plant ar 41%. Pan fyddwch chi'n ychwanegu effaith Covid, Brexit a nawr y busnes ofnadwy yn Wcráin, dwi ddim yn gwybod beth ry'n ni'n mynd i'w wneud.

"Mae'r galw am ein gwasanaethau yn mynd i fynd drwy'r to. Rydym yn helpu 400 o deuluoedd yr wythnos i roi bwyd ar eu bwrdd. Dyma 2022 yng Nghymru."

Dywedodd fod nifer y "gweithwyr sy'n dlawd" ac yn defnyddio gwasanaethau Foothold Cymru yn bryder mawr.

"Y segment sy'n tyfu fwyaf yn ein cymdeithas yw tlodi gwaith. Mae gan rai pobl ddwy swydd ac maen nhw'n dal methu ag ymdopi. Mae'n frawychus."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r galw am gefnogaeth yn cynyddu "o ddydd i ddydd" yn ôl rheolwr prosiect gyda'r elusen, Sophie Morgan

Mae Sophie Morgan, sy'n rheolwr prosiect gyda'r elusen, yn dweud bod y galw yn cynyddu o "ddydd i ddydd."

"Mae costau byw yn codi o ddydd i ddydd, mae prisiau olew, prisiau bwyd, prisiau tanwydd yn codi a ni'n gweld 'na gyda'r bobl sy'n dod i ddefnyddio'n gwasanaeth ni," meddai.

"Mae pethau'n mynd yn galetach ac yn galetach pob dydd a ni'n gweld 'na. Ni'n gweld pobl sy'n dod mewn sydd ddim wedi dod mewn i weld ni o'r blaen, ac maen nhw'n dweud pa mor galed mae pethau mas 'na.

"Mae'n rhaid i ni ymateb i hwnna a helpu cymaint o bobl ni'n gallu."

Disgrifiad o’r llun,

Mae un o storfeydd elusen FareShare yng Nghaerdydd, ac mae bwriad i gefnogi mwy o brosiectau ar hyd de Cymru

Mae ymchwil FareShare Cymru yn dangos y gallai fod angen cymorth bwyd ar 300 o brosiectau cymunedol yng ngorllewin Cymru.

Mae'r elusen bellach yn ehangu o'i chanolfan yng Nghaerdydd, gan ddechrau yn Llanelli ym mis Mawrth, Caerfyrddin ddechrau haf 2022 a Sir Benfro yn gynnar yn 2023.

Dosbarthwyd dros 550kg o fwyd i chwe phrosiect cymunedol yn Llanelli wrth i'r gwaith ddechrau yno.

'Tlodi ar hyd de Cymru'

Mae tlodi ar gynnydd ymhob ran o Gymru yn ôl Daniel Richards o FareShare, wrth esbonio pam mae'r elusen wedi ehangu ei wasanaethau i'r gorllewin.

"Dyna beth mae'r elusennau lleol yn dweud i ni," meddai.

"Hyd yn hyn ry'n ni wedi bod yn mynd mor bell ag Abertawe ond yn amlwg mae 'na dlodi ar hyd a lled de Cymru. Falle weithiau mae e'n llai amlwg yn y gorllewin."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Debbie Clarke yn un sydd wedi elwa o'r pecynnau bwyd gan y gwasanaeth newydd ddydd Iau

Un o'r rhai sy'n elwa o'r pecynnau bwyd yn Llanelli ddydd Iau oedd Debbie Clarke o ardal Glanymôr yn Llanelli.

Mae hi'n defnyddio siop Bwyd Cymunedol Stebonheath yn wythnosol ac yn talu ffi fechan i dderbyn y bwyd sydd ei angen arni am yr wythnos.

Dywedodd: "Rwy'n dod yma, ac yn cael popeth am £3.50.

"Mae'n fy helpu gyda fy nghyllideb... ac rydych chi'n gwneud i'ch ceiniogau fynd lle mae angen.

"Mae'n bwysig iawn. Rwy'n eistedd yno yn meddwl 'Lle ydw i'm mynd i allu arbed arian?'.

"Mae unrhyw doriadau y gallaf eu gwneud yn hanfodol. Mae'r staff yma yn hollol wych."

Pynciau cysylltiedig