'Bydd pob aelwyd o leiaf £600 yn dlotach eleni'
- Cyhoeddwyd
Bydd pob aelwyd yng Nghymru o leiaf £600 yn dlotach eleni ar gyfartaledd, yn ôl arbenigwyr ariannol.
Maen nhw'n rhybuddio y gallai'r cynnydd ym mhrisiau nwyddau hanfodol a chodiadau pellach ym miliau ynni wasgu fwy fyth ar incymau.
Dywed adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd bod angen i bobl baratoi ar gyfer pwysau "ar raddfa na welwyd yn y DU am ddegawdau" ar safonau byw.
Mae tîm dadansoddiad ariannol y ganolfan wedi asesu effaith costau cynyddol a chymorth y llywodraeth.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gwneud "popeth o fewn ein gallu... i helpu teuluoedd Cymru".
Bydd y bil ynni cyfartalog am drydan a nwy yn codi £693 y flwyddyn o fis Ebrill, sy'n gyfystyr ag oddeutu 12% o'r incwm sydd ar gael i'w wario yn achos yr aelwydydd mwyaf tlawd.
Ond mae'r adroddiad yn rhybuddio bod disgwyl "cryn ansicrwydd" yn y misoedd nesaf.
Mae rhagor o godiadau ym mhris ynni yn bosib cyn diwedd y flwyddyn wedi i'r rheoleiddiwr Ofgem roi eu datganiad nesaf ynghylch yr uchafswm ar brisiau ym mis Awst.
Gan fod gymaint o dai sy'n hen neu wedi'i hinsiwleiddio'n wael, fe allai Cymru gael ei tharo'n arbennig o galed gan godiadau mawr mewn costau ynni yn sgil ymosodiadau Rwsia ar Wcráin, medd yr adroddiad.
Mae chwyddiant yn debygol o gyrraedd ei lefel uchaf mewn degawdau, ac yn cynyddu'n gyflymach na chynnydd budd-daliadau.
Bydd y codiad yn Yswiriant Cenedlaethol, o fis Ebrill ymlaen, yn golygu y bydd aelwydydd Cymru, ar gyfartaledd, £220 yn dlotach y flwyddyn, medd yr adroddiad.
Dwy flynedd ers dechrau'r pandemig, mae llywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig dan bwysau i warchod pobl rhag costau uwch.
Ym mis Chwefror, fy gyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod yn darparu cyllid gwerth £340m i helpu pobl gyda'u costau byw.
Mae cynlluniau Llywodraeth y DU yn cynnwys disgownt o £200 ar filiau trydan yn yr hydref, y bydd yn rhaid i gwsmeriaid ei dalu'n ôl mewn rhandaliadau dros bum mlynedd.
Ond yn ôl yr adroddiad, hyd yn oed gyda'r holl fesurau cymorth, bydd aelwydydd Cymru sy'n cael ynni ar dariff amrywiol, yn dal £400 yn dlotach ar gyfartaledd ym mis Ebrill oherwydd prisiau ynni uwch.
Mae'r ffigwr hwnnw'n codi i £600 o gynnwys codiadau treth.
Yr aelwydydd sydd ymhlith y 10% tlotaf oll sy'n wynebu'r trafferthion mwyaf, o ystyried maint yr incwm sydd gyda nhw ar gael i'w wario.
Dywed yr adroddiad bod cyllid Llywodraeth Cymru'n fwy hael na rhannau eraill y DU ac "wedi ei dargedu fwy at aelwydydd incwm is".
Ychwanegodd awdur yr adroddiad, Cian Siôn: "Er ymyriadau llywodraethau'r DU a Chymru, mae cyfuniad o bwysau chwyddiannol, codiadau treth a thwf incwm sy'n arafu yn golygu bod aelwydydd yn y DU yn wynebu'r wasgfa fwyaf ar safonau byw mewn degawdau."
Dywed Llywodraeth y DU eu bod wedi amlinellu pecyn cymorth gwerth £21bn, sy'n cynnwys ad-daliad treth cyngor o £150 o fis Ebrill a'r disgownt o £200 ar filiau ynni ym mis Hydref, a bod cap ar brisiau ynni er mwyn amddiffyn pobl rhag prisiau nwy eithriadol o gyfnewidiol.
Ychwanegodd llefarydd: "Byddwn ni'n amlinellu strategaeth cyflenwi ynni a fydd yn sbarduno ein capasiti ynni adnewyddol a niwclear i gryfhau ein cyflenwad domestig a helpu lleihau costau ynni."
'Heb weld ei debyg o'r blaen'
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gwneud popeth posib "gyda'r adnoddau a'r pwerau sydd ar gael" i ymateb i "argyfwng costau byw dy'n ni heb weld ei debyg o'r blaen".
Yn ôl llefarydd mae'r Gronfa Gymorth i Aelwydydd yn cynnig "amryw o fesurau", gan gynnwys taliad o £200 i bobl sy'n ei chael yn anodd talu biliau ynni'r gaeaf, a thaliad costau byw o £150 i gartrefi sydd ym mandiau treth cyngor D-E.
Fe wnaeth gweinidogion Cymru alw ar Lywodraeth y DU i "ddarparu cefnogaeth i fwy o bobl" yn eu datganiad ar gyfer cyllideb y gwanwyn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2022