O dermau milwrol i heddwch: sut newidiodd ethos yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Wrth i'r Urdd ddathlu canrif ers ei sefydlu gan Ifan ab Owen Edwards, mae ei wyres Mari Emlyn wedi bod yn ymchwilio i gysylltiad y mudiad gyda gobaith ac ewyllys da, gan ddod o hyd i archif sy'n taflu goleuni newydd ar hanes y mudiad.
Cysylltir mis Mai, ac yn arbennig Mai'r deunawfed â'r Neges Heddwch ac Ewyllys Da. Mae'r dyddiad penodol hwn yn coffáu'r Gynhadledd Heddwch cyntaf a gynhaliwyd yn yr Hâg yn 1899.
Roeddwn i'n awyddus i graffu ar y cysylltiad rhwng y Neges Heddwch â mudiad yr Urdd gan fod y ddau yn dathlu eu canmlwyddiant eleni. Ac wrth ymchwilio ar gyfer y rhaglen radio Urdd, gobaith, beth? mi gefais fy synnu. Mi ddes i ar draws archif sy'n taflu goleuni newydd ar hanes y mudiad.
Roedd prif ffocws tair blynedd gyntaf 'Urdd Gobaith Cymru Fach' fel y'i gelwid i ddechrau, ar wladgarwch pur. Mudiad iaith yn ei hanfod oedd y mudiad a sefydlwyd gan fy nhaid ganrif yn ôl.
Roedd ôl profiadau'r Rhyfel Byd Cyntaf yn drwm arno wrth iddo greu strwythur i'r mudiad. Mabwysiadodd dermau milwrol i'r rhengoedd: Is-gapten, Uwch-gapten, Rhingyll, Cadfridog...
Ym mis Awst 1922, mae Ifan ab Owen Edwards yn sgwennu: "Gadewch i ni fod yn soldiars, yn soldiars dros Gymru! Pa fyddin well a allai fod 'na byddin o blant Cymru!?...Listiwch heddiw - er mwyn Cymru Fach!"
Byddin o blant?! Mae hynny'n taro'n chwithig iawn i 'nghlust i heddiw.
Ond yn raddol, diolch i'r drefn, daeth fy nhaid yn awyddus i gywiro unrhyw syniadau rhyfelgar oedd ganddo ar ddiwedd y Rhyfel Mawr.
Bu Neges Ewyllys Da'r Parch Gwilym Davies yn ddylanwad aruthrol arno wrth iddo osod delfrydau heddwch, yn ogystal ag achub y Gymraeg, i'r Urdd. Mae clip bach o raglen deledu yn 1962 adeg pen-blwydd yr Urdd yn ddeugain oed, yn cadarnhau'r argraff ddofn a adawodd y Neges arno.
O fewn tair blynedd i sefydlu'r Urdd, penderfynodd Ifan ab Owen Edwards fynd â'r mudiad i gyfeiriad newydd.
Erbyn 1930, doedd y Neges Ewyllys Da ddim yn ddigon ganddo, roedd o eisiau troi'r gobaith oedd yn dod law yn llaw efo'r Neges yn weithred ymarferol ac aeth â chriw o bymtheg o fechgyn yn 'genhadon hedd' ar bererindod gyntaf y mudiad i Genefa i gyfarfod â'r Parch Gwilym Davies ym mhencadlys Cynghrair y Cenhedloedd. Dyma'r cyntaf o sawl taith dramor i wneud cysylltiadau yn enw cyd-ddealltwriaeth a brawdgarwch hyd nes i'r Ail Ryfel Byd roi pen ar y mwdwl.
Estynnodd yr Urdd ei law i'w gyd-ddyn yn dilyn yr Ail Ryfel Byd ac mae'r gwaith dyngarol hwn yn parhau'n gwbl ganolog i waith y mudiad. Er pwysiced yr Eisteddfod a'r gwersylloedd, mae llawer mwy i'r Urdd mewn gwirionedd. Ond tybed faint ydan ni'n sylweddoli arwyddocâd gwaith dyngarol yr Urdd, nid yn unig i Gymru ond hefyd i'r byd?
Mi fydda i'n holi'r union gwestiwn hwnnw yn y rhaglen i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn sgil ei benderfyniad yn gynharach eleni i ddyfarnu ei Wobr Arbennig o yng Ngwobrau Dewi Sant, i'r Urdd am ei waith dyngarol.
Dw i'n grediniol y byddai fy nhaid heddiw'n cymeradwyo'n frwd bod yr Urdd wedi cofleidio brawdgarwch ar hyd degawdau'r ganrif. Ac er y byddai'n gresynu ein bod yn dal i ryfela, mi fyddai, dw i'n siŵr, yn ymfalchïo bod y mudiad (a'r iaith Gymraeg) nid yn unig wedi goroesi canrif, ond hefyd ym mlwyddyn ei ganmlwyddiant, yn croesawu ffoaduriaid o Afghanistan ac erbyn hyn o Wcráin hefyd i'w gwersylloedd.
Dyma enghraifft ymysg nifer lle gwelwn yr Urdd yn gweithredu'r addewid o fod yn ffyddlon i'm cyd-ddyn pwy bynnag y bo, yn hytrach na phregethu'r addewid.
Wrth deithio efo aelodau'r Urdd i Ganolfan Nobel yn Olso i rannu'r neges Heddwch ac Ewyllys da'r mis Mai hwn, cefais fy rhyfeddu wrth ddod at brif fynedfa'r adeilad eiconig hwnnw o weld uwchben y drws y gair, 'Hap' sef y gair Norwyeg am 'gobaith'.
Yn y rhaglen hon, rydw i'n edrych ar arwyddocâd y gair 'gobaith' yng nghyd-destun heddwch a'r Urdd ac yn gofyn, Urdd, gobaith, beth?
Bydd Urdd, gobaith, beth? yn cael ei darlledu ar BBC Radio Cymru ar 29 Mai am 1830.
Hefyd o ddiddordeb: