'Dirgelwch yn parhau' dros achos gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Chris JohnFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Christopher John, oedd yn dad i ddau o blant ifanc, ei ddisgrifio adeg ei farwolaeth fel rhywun roedd "pawb yn dotio ato"

Mae dirgelwch yn parhau ynghylch pam y gyrrodd chwaraewr bowls rhyngwladol ei gar BMW gan daro bws ysgol oedd yn teithio tuag ato ar yr A478 yn Sir Benfro.

Bu farw Christopher John, oedd yn 31 oed ac o Glunderwen, yn y fan a'r lle yn dilyn y gwrthdrawiad ar 17 Mai y llynedd, ac fe gafodd 17 o ddisgyblion Ysgol y Preseli, Crymych eu hanafu.

Clywodd cwest yn Hwlffordd bod Mr John, oedd yn aelod o dîm bowlio mat byr Cymru, yn gyrru tua Llandysilio ar ddiwedd ei ail shifft nos o'r wythnos yng Ngwesty'r Cliff yng Ngwbert ble roedd yn rheolwr nos.

Cofnododd Uwch Grwner Dros Dro Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, Paul Bennett, gasgliad ei fod wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd.

Disgrifiad o’r llun,

Y gwasanaethau brys yn ymateb i'r gwrthdrawiad fis Mai y llynedd

Clywodd y gwrandawiad bod y car wedi gwyro o un ochr o'r ffordd, yn ardal Efailwen, rhwng Dinbych-y-pysgod a Chrymych, i lwybr y bws.

Dywedodd tystion bod Mr John yn teithio ar gyflymder o 55mya. Roedd y bws yn teithio ar gyflymder o 37mya adeg y gwrthdrawiad.

Yn ôl y Cwnstabl Matt Fraser, ymchwilydd gwrthdrawiadau fforensig, doedd dim namau ar y car na'r bws a dim arwydd o argyfwng meddygol.

Doedd dim arwydd chwaith bod Mr John wedi ceisio arafu cyn taro'r bws, ac roedd hi'n amhosib i yrrwr y bws geisio osgoi'r gwrthdrawiad.

Clywodd y gwrandawiad bod Mr John wedi marw o sawl anaf trawmatig i'w gorff a'i goesau o ganlyniad i'r gwrthdrawiad.

Dywedodd y Crwner bod "dim gwir ddealltwriaeth" pam y digwyddodd y gwrthdrawiad, ac fe dalodd deyrnged i deulu Mr John oedd yn dilyn y cwest mewn person ac ar-lein.

Pynciau cysylltiedig