Crwner yn anhapus gydag ymchwiliad bwrdd iechyd Betsi

  • Cyhoeddwyd
uned Ablett
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ben Harrison ei ganfod mewn lolfa yn uned seiciatryddol Ablett gyda rhwymyn o amgylch ei wddf

Dywed crwner fod ganddi bryderon am safon adroddiad Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i farwolaeth claf, a'i bod yn ystyried galw am ymchwiliad annibynnol i'r modd y cafodd ymchwiliad ei gynnal.

Bu farw Ben Harrison, 37 oed o Ddinbych, oedd â hanes o broblemau iechyd meddwl yn Ysbyty Glan Clwyd ar 18 Rhagfyr 2020.

Dridiau ynghynt cafodd ei ganfod mewn lolfa yn uned seiciatryddol Ablett, sydd ar safle Ysbyty Glan Clwyd, gyda rhwymyn o amgylch ei wddf.

Doedd y tîm wnaeth geisio ei achub ddim wedi sylweddoli fod y silindr ocsigen gafodd ei ddefnyddio ddim yn gweithio yn iawn.

Yn ôl Hilary Owen, pennaeth llywodraethiant Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, cafodd ymchwiliad ei gynnal yn syth ac fe wnaeth rhai camau - gan gynnwys gosod drychau i gadw golwg ar gleifion - wedi eu cymryd yn fuan wedyn.

'Dim digon o fanylion'

Ond dywedodd dirprwy grwner gogledd-ddwyrain a chanolbarth Cymru, Kate Sutherland, nad oedd adroddiad y bwrdd iechyd yn cynnwys manylion am beth oedd wedi ei wneud na phryd.

Ychwanegodd "nad oedd yna unrhyw eglurhad o sut ddigwyddodd pethau".

Dywedodd hefyd ei bod yn bryderus fod pob aelod o'r panel ymchwilio yn aelodau cyflogedig o'r bwrdd iechyd.

Yn ôl cyfreithiwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Trish Gaskell, roeddynt yn annibynnol yn y ffaith nad oeddynt yn rhan uniongyrchol o'r digwyddiad.

Mae disgwyl i gwest llawn i farwolaeth Mr Harrison gael ei gynnal yn ddiweddarach yn y flwyddyn.