'Mae'n gwneud fi'n flin': Galw am ofal iechyd cyfartal i ferched

  • Cyhoeddwyd
Llinos Blackwell
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n gwneud fi'n flin bod cyn lleied o ymchwil" i endometriosis, meddai Llinos Blackwell

Mae angen gweithredu ar frys i sicrhau gofal iechyd mwy cyfartal i ferched Cymru, yn ôl ymgyrchwyr.

Maen nhw wedi cyhoeddi cynllun ar Ddiwrnod Rhyngwladol Gweithredu dros Iechyd Merched yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r ddarpariaeth yn y maes.

Dywedodd un sydd wedi gorfod brwydro am ddiagnosis endometriosis ei bod "wedi gorfod paffio gymaint i gael y driniaeth dyliwn i fod wedi gael yn y lle cyntaf".

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gobeithio cyhoeddi cynllun iechyd merched eu hunain i fyrddau iechyd "yn yr haf".

'Mae'n gwneud fi'n flin'

Wedi byw gyda phoenau difrifol ers yn blentyn, bu'n rhaid i Llinos Blackwell o'r Rhyl weld pedwar meddyg gwahanol cyn cael ei thrin am endometriosis.

Fe gafodd hi ddwy driniaeth wahanol - mae hi'n teimlo, rŵan, wnaeth fwy o niwed iddi. Ac roedd yn rhaid iddi roi gwybod i'w meddyg am ganolfan arbenigol dros y ffin cyn iddi fedru cael triniaeth fwy addas.

"Mae'n gwneud fi'n flin bo' fi wedi gorfod paffio gymaint i gael y driniaeth ddyliwn i fod wedi ei gael yn y lle cyntaf.

"Mae'n gwneud fi'n flin bod cyn lleied o ymchwil i'r cyflwr a bod cyn lleied yn cael ei wario ar hynny, bod y cyllid ddim yna i'r ymchwil o'i gymharu â chyflyrau eraill sy'n effeithio ar yr un nifer o bobl.

"Mae endometriosis yn effeithio ar 1 o bob 10 merch a dydy'r ymwybyddiaeth ddim yna.

"Ydy hynny oherwydd bod hwn yn rhywbeth sy'n effeithio ar ferched a ddim dynion? Dwi'n meddwl bod hynny'n rhan enfawr o'r broblem."

Er bod dros hanner y boblogaeth yn ferched, dydy canlyniadau gofal iechyd yn aml ddim cystal ag i ddynion, yn ôl ymgyrchwyr.

Felly mae grŵp o elusennau a cholegau meddygol wedi dod at ei gilydd o dan arweiniad Sefydliad y Galon a mudiad Triniaeth Deg i Ferched Cymru i lunio cynllun i geisio newid hynny.

Maen nhw eisiau gwell mynediad at wasanaethau arbenigol, gwella sut mae data yn cael ei gasglu, gwell hyfforddiant i weithwyr a rhagor o wasanaethau ar y cyd mewn un man.

'Cywilydd neu embaras'

Un enghraifft o leoli gwasanaethau gyda'i gilydd ydy canolfan gan Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn Ysbyty'r Barri.

Mae'n rhoi cymorth i gleifion sy'n dioddef o gyflyrau megis llithriad organau'r pelfis (pelvic organ prolapse), anymataliaeth a phroblemau gyda'r coluddyn.

Roedd Julie Cornish, llawfeddyg y colon rhefr (rectum), yn allweddol wrth sefydlu'r ganolfan.

"Mae rhain yn gyflyrau cyffredin iawn - maen nhw'n effeithio ar fenywod yn bennaf, ond gallant effeithio ar ddynion hefyd," meddai.

Cynhelir clinigau ar gyfer pethau fel problemau'r coluddyn, y bledren neu gynecoleg ar yr un pryd, sy'n golygu y gall cleifion gael cyngor ar unwaith gan wahanol arbenigwyr heb fod angen ymuno â rhestrau aros ar wahân, gan dorri'n sylweddol ar amseroedd aros.

Disgrifiad o’r llun,

"Cywilydd neu embaras" sy'n atal nifer rhag mynd i gael cymorth, meddai Julie Cornish

Ond mae Ms Cornish yn cydnabod bod y niferoedd sy'n ceisio cymorth ar hyn o bryd yn ganran fach iawn oherwydd y stigma.

"Rydym fel arfer yn gweld cleifion sydd wedi cael problemau ers pump, saith, hyd yn oed 10 mlynedd.

"Y rhai sy'n dod atom yn gyflym yw'r rhai sydd â phroblemau sylweddol iawn, ond mae'r rhai yn y canol yn dioddef.

"Ac nid hyd nes y bydd rhywbeth yn eu sbarduno - rhyw ddigwyddiad neu ryw drychineb sy'n golygu y byddant yn mynd i geisio cymorth.

"Ond mae angen i ni siarad amdano.

"Nifer o bobl sydd â chywilydd neu embaras oherwydd eu bod yn meddwl mai nhw yw'r unig berson - ond nid ydyn nhw mewn gwirionedd.

"Os ydych chi'n ceisio cymorth, gallwch chi gael help."

'Symptomau hollol wahanol'

Ond nid dim ond materion yn ymwneud â genedigaeth a gynecoleg sydd angen sylw.

Mae angen gwella darpariaeth mewn ystod eang o feysydd iechyd, yn ôl Julie Richards, sy'n ymddiriedolwr gyda mudiad Triniaeth Deg i Ferched Cymru.

"Pam mae hwn yn bwysig yw oherwydd mae symptomau o'r ffordd mae corff menywod yn ymateb i afiechydon yn wahanol i ddynion.

"Felly er enghraifft, trawiad ar y galon, mae 'na symptomau hollol wahanol.

"[Mae] symptomau autism yn hollol wahanol ac fel arfer mae'r meddygon yn edrych ar bopeth drwy lens iechyd dynion felly mae angen newid hynny...

"...fel bod gyda ni y gwasanaeth sy'n gwneud diagnosis amserol a cywir a bod 'na gydraddoldeb wedyn o ran iechyd menywod."

Pan gyhoeddodd llywodraethau'r Alban a DU gynlluniau'n ddiweddar i geisio gwella eu darpariaeth i ferched, ni ddigwyddodd hynny ar yr un pryd yng Nghymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai'r Gweinidog Iechyd yn cyhoeddi cynllun "yr haf hwn ar sut y dylai byrddau iechyd yng Nghymru ddarparu gwasanaethau iechyd merched o ansawdd uchel".

"Mae Rhaglen Gydweithredol y GIG hefyd yn arwain y gwaith o ddatblygu Cynllun Iechyd Menywod 10 mlynedd, a gyhoeddir yn ddiweddarach eleni.

"Mae ein Grŵp Gweithredu Iechyd Menywod yn parhau i ddatblygu gwaith hanfodol i gefnogi iechyd menywod, gan gynnwys sefydlu rhwydwaith o gydlynwyr iechyd a lles y pelfis a goruchwylio penodiad nyrs endometriosis bwrpasol ym mhob bwrdd iechyd."

Pynciau cysylltiedig