Twristiaeth i deimlo effaith yr argyfwng costau byw?

  • Cyhoeddwyd
Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Mae hi'n argoeli i fod yn benwythnos prysur yn Aberystwyth, ond a fydd pobl yn gwario llai?

Ar drothwy'r Pasg a gyda chostau byw yn cynyddu'n sylweddol, mater o ddod drwy'r storm fydd hi eleni medd y diwydiant twristiaeth.

Mae rhai yn gobeithio y bydd pobl yn dewis aros ym Mhrydain gan ymweld â Chymru, ac eraill yn torri prisiau i geisio denu ymwelwyr.

Ar y prom yn Aberystwyth mae trên bach y ffair yn chwyrlio o gwmpas ac mae 'na gannoedd o bobl yn mwynhau eu hunain yn yr ardal.

Richard Griffiths ydy perchennog Gwesty'r Richmond yn y dref, ac mae hefyd yn llefarydd ar ran Twristiaeth Canolbarth Cymru.

"I gymharu â Phasg cyn Covid, mae fe'n o lew - dydy o ddim yn wych ond ma' fe'n OK," meddai.

"Mae lot o bobl o gwmpas, lot o ymwelwyr am y dydd a phobl dros nos yn dod ar hyn o bryd.

"Mae'r tywydd yn lyfli ac mae digon o bethe i wneud yma yn Aberystwyth a'r canolbarth."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Richard Griffiths yn gobeithio'r gorau am dymor da eleni er yr amgylchiadau anodd

Ond mae pryder y bydd costau byw yn rhwystro pobl rhag mynd ar eu gwyliau neu wario llai.

"Yn bendant bydd costau i'r unigolyn yn newid dros y misoedd nesa' 'ma a byddan nhw'n fwy parod i weld be allen nhw gael am eu harian," meddai Mr Griffiths.

"Mae hynna'n mynd i fod yn ffactor mawr i'n diwydiant ni yng Nghymru. Mae'n rhaid poeni am bethe fel hyn."

Er y poeni, mae Mr Griffiths yn ffyddiog y daw busnesau drwyddi ac yn gobeithio'r gorau am dymor da eleni er yr amgylchiadau anodd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Julie Scally a Joanne Capey fod costau byw yn ei gwneud yn fwy tebygol iddyn nhw gymryd eu gwyliau yng Nghymru

Ymhlith y dyrfa ar y prom yn Aber oedd Julie Scally a Joanna Capey o Newcastle-under-Lyme yn Sir Stafford.

Dywedon nhw y bydd costau byw cynyddol yn eu gwneud nhw'n fwy tebygol o ddod i aros i'w carafán yn Llanrhystud yn hytrach na gwario mwy ar fynd dramor.

Yn Y Rhyl ar arfordir y gogledd mae busnesau hamdden yn torri prisiau i geisio denu ymwelwyr oherwydd yr argyfwng costau byw.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Beth Hughes fod eu maes carafanau wedi gostwng prisiau er mwyn ceisio denu ymwelwyr

Dywedodd Beth Hughes, llefarydd ar ran maes carafanau Robin Hood yn y dref: "'Dan ni fel cwmni yn gorfod edrych ar ein prisiau, yn gorfod meddwl be' mae pobl eisiau, felly byddwn ni yn gostwng prisiau ein gwyliau trwy gydol yr haf."

Mae'r tywydd sych presennol yn gymorth mawr i ddenu ymwelwyr, ond mae cwestiynau o hyd sut y bydd costau byw cynyddol yn effeithio ar y diwydiant twristiaeth yn y tymor hir.