Nodi pen-blwydd yr Ŵyl Gerdd Ryngwladol yn 50
- Cyhoeddwyd
Bydd sawl pen-blwydd yn cael ei ddathlu mewn cyngerdd arbennig yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy nos Sadwrn.
Bydd y digwyddiad arbennig yn nodi hanner canmlwyddiant Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, Jiwbilî Platinwm y Frenhines a degawd cydnabod Llanelwy fel dinas swyddogol.
Bydd y brif ŵyl i nodi hanner canmlwyddiant yr Ŵyl Gerdd yn digwydd rhwng 17 Medi a 1 Hydref ond nos Sadwrn fe fydd yna ragflas ar y dathliadau mawr.
Yr Athro William Mathias wnaeth sefydlu'r ŵyl ym 1972, gan ddewis Cadeirlan Llanelwy fel lleoliad oherwydd ei acwsteg "perffaith" gyda'r nod o ddenu mwy o artistiaid i ogledd Cymru.
Cyfansoddodd gerddoriaeth ar gyfer sawl achlysur brenhinol, gan gynnwys Jiwbilî Arian y Frenhines yn 1977 a phriodas y Tywysog Charles a Diana Spencer yn 1981.
'Gwell na Sydney!'
Dywedodd y cyfarwyddwr artistig Ann Atkinson: "Mae Eglwys Gadeiriol Llanelwy yn amgylchedd acwstig perffaith i arddangos ein harlwy hynod dalentog yn y cyngerdd lansio ac yn yr ŵyl ei hun.
"Mae'r cyfuniad o'r garreg a'r pren yn creu rhywbeth hudolus iawn rhywsut."
"Rwyf hefyd wedi perfformio yn y neuadd gyngerdd yn Nhŷ Opera Sydney ac, er bod gan y neuadd honno acwstig gwych, a bod yn onest mae'n rhaid i mi ddweud bod Eglwys Gadeiriol Llanelwy yn lleoliad llawer gwell yn acwstig."
Yn ôl Robert Guy, Cyfarwyddwr Cerdd y Gerddorfa mae rhaglen y cyngerdd agoriadol wedi'i dewis yn benodol i'r dathliad triphlyg.
Dywedodd: "Bydd yn cynnwys Zadok the Priest, cerddoriaeth sy'n gysylltiedig â'r Coroni a'r Priodasau Brenhinol yn ogystal â cherddoriaeth a gomisiynwyd ar gyfer y NEW Sinfonia gan yr ŵyl yn ystod ein cyfnod preswyl ynghyd â cherddoriaeth gan fy mrawd, Jonathan."
'Un o uchafbwyntiau'r calendr diwylliannol'
Bydd côr cymunedol newydd NEW Voices a cherddorfa NEW Sinfonia, a sefydlwyd gan Robert a'i frawd Jonathan Guy yn ymddangos am y tro cyntaf yn ystod dathliad hanner canmlwyddiant yr ŵyl.
Yn rhan o'r digwyddiad bydd gweithgareddau cymunedol, perfformiadau mewn ysgolion lleol a gweithdai cerdd yn cael eu cynnal yn ystod y pythefnos.
Y gweithdai sy'n nodwedd o'r ŵyl, wnaeth ysbrydoli Robert Guy i ddod yn gerddor proffesiynol yn y lle cyntaf.
"Pan oeddwn i'n 16, mi wnes i gymryd rhan mewn gweithdy addysgiadol yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Cymru a rhoddodd brofiad cynnar i mi o weithio gyda cherddorfa broffesiynol a cherddorion proffesiynol," meddai.
"Ers ei sefydlu gan y cyfansoddwr arloesol, William Mathias, mae wedi tyfu i fod yn un o uchafbwyntiau'r calendr diwylliannol yma yng Nghymru ac mae bellach wedi'i sefydlu'n gadarn fel un o'n trysorau cenedlaethol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mai 2022
- Cyhoeddwyd21 Mai 2022