Pobl ag anhwylderau bwyta'n methu dianc rhag rheol Lloegr

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Mae'n 'neud i mi deimlo'n wael am beth fi'n bwyta'

Dydy pobl sy'n byw ag anhwylderau bwyta yng Nghymru ddim wedi gallu dianc rhag rheol i labelu calorïau ar fwydlenni yn Lloegr.

Dyna rybudd un elusen ar ôl i bobl sylwi ar galorïau yn ymddangos ar fwydlenni yma ers i'r ddeddf "beryglus" ddod i rym yn Lloegr fis Ebrill.

Nod y rheol dros y ffin yw gostwng lefelau gordewdra.

Er bod Llywodraeth Cymru'n ymgynghori ar y newid ar hyn o bryd, gan gynnwys ar fwydlenni plant, dydy hi ddim eto'n gyfraith yma.

Dywedodd elusen Beat - sy'n helpu pobl ag anhwylderau bwyta - eu bod wedi gweld cynnydd o 300% yn nifer y galwadau am gymorth yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod yn annog pobl i ymateb i'r ymgynghoriad ac ei bod yn gofyn i fwytai ddarparu bwydlen heb galorïau os oes rhywun yn holi am hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl wedi sylwi ar galorïau wedi eu labelu mewn print bras ar fwydlenni yng Nghymru ers i'r gyfraith ddod i rym yn Lloegr

Mae Bethan Angharad Evans, 38 o Gaerdydd, wedi byw gyda math o anhwylder bwyta bwlimia ers 20 mlynedd.

Pan yn 18 oed, mae'n dweud mai cyfrif calorïau oedd yr unig beth yr oedd hi'n gallu ei reoli. Nawr, mae sylweddoli ar galorïau ar fwydlenni yng Nghymru wedi ei "dychryn".

"Dwi 'di bod allan ddwywaith yn barod a gweld y bwydlenni a mae'n hala ofn arna' i.

"Ma gweld nifer y calorïau just yn profi'n anodd i fi sy'n golygu bo fi'n edrych ar y fwydlen a... mae'n 'neud i fi deimlo'n wael am beth dwi'n bwyta," ychwanegodd.

"I rywun sydd ar ddechrau eu taith anhwylder bwyta, mi allai hwn wneud pethau'n waeth cyn iddyn nhw gael y driniaeth sydd angen... mae just yn ddychrynllyd."

Yn Lloegr, mae bwytai sy'n cyflogi dros 250 o weithwyr bellach yn gorfod labelu calorïau ar fwydlenni.

Ond, mae'n ofynnol iddyn nhw fedru darparu bwydlen heb y wybodaeth hefyd.

'O'n i a'n ffrindie' 'di siomi'

Pan aeth Megan Haf Davies, 19, allan am bryd o fwyd gyda'i ffrindiau yng Nghaerdydd rai wythnosau'n ôl, fe ofynnodd y grŵp am fwydlen heb galorïau ar ôl sylwi ar y ffigurau ger y prydau.

Ond, doedd y bwyty ddim yn gallu darparu bwydlen wahanol iddynt.

"Ar ôl i fi ofyn, o'dd y waitress yn really cydymdeimlo, o'dd hi'n gweud 'na, fi'n really sori, ond does dim un i gael'," eglurodd Megan.

Disgrifiad o’r llun,

Fe ofynnodd Megan Haf Davies a'i ffrindiau am fwydlen heb galorïau yng Nghaerdydd ond doedd y bwyty ddim yn gallu darparu un gwahanol

"O'n i a'n ffrindie' i really 'di siomi am hwnna achos o'n ni'n meddwl, 'wel, mi ddyle fod i bobl sydd ddim mo'yn gweld y wybodaeth calorïau'.

"Dyw e ddim eto yn rheol i gael calorïau ar fwydlenni yng Nghymru eto felly o'n i wedi cael siom mawr."

Mae'r bwyty wedi ymddiheuro ar ôl i Megan gwyno.

Mae Llywodraeth Cymru'n ystyried cyflwyno'r un rheol ag sydd yn Lloegr er mwyn ceisio lleihau cyfraddau gordewdra.

Ond, wrth i'r cyfnod ymgynghori barhau, mae'r pwnc yn parhau i hollti barn.

'Ffigyrau gordewdra brawychus'

Yn ôl y dietegydd Sioned Quirke, fe fyddai cyflwyno calorïau ar fwydlenni fel rheol yng Nghymru yn "syniad da iawn" ac yn un dull allai helpu wrth geisio gostwng cyfraddau gordewdra.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dietegydd, Sioned Quirke, yn dweud y byddai cyflwyno calorïau ar fwydlenni yn caniatáu i bobl wneud dewis gwybodus am yr hyn maen nhw'n ei fwyta

"Dwi'n meddwl bod ffigyrau gordewdra a chlefyd y siwgr math dau yng Nghymru yn frawychus," dywedodd Sioned, sy'n bennaeth ar uned ddieteg Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

"Dan ni'n gwybod bod dra 60% o oedolion dros eu pwysau neu'n ordew felly dwi'n meddwl fod bob cam bach yn mynd i helpu.

"Dwi'n meddwl bod o'n syniad da iawn i roi faint o galorïau ar y bwydlenni oherwydd ma' pobl yn gallu gwneud dewis iachach, os ma' nhw isio neu ma' nhw o leia' yn gwybod yn union be' ma' nhw'n ei fwyta.

"Ma' hi mor anodd amcangyfrif faint o galorïau sydd yn rhywbeth 'dan ni'n bwyta tu allan i'r tŷ oherwydd 'dan ni'm yn gwybod sut mae'n o'n cal ei goginio."

Ychwanegodd Sioned y byddai cael ail fwydlen heb galorïau mewn bwytai yn bwysig er mwyn rhoi opsiwn i bobl.

'Cynnydd aruthrol yn y galw am help'

Ond, yn ôl elusen Beat, mae'r syniad yn "beryglus" ac mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried profiadau pobl sy'n byw ag anhwylderau bwyta.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Beat wedi gweld cynnydd o 300% yn y galwadau am gymorth rhwng Mawrth 2021 a Mawrth 2022 yn ôl Siân Brough o'r elusen

"Ar hyn o bryd, 'dan ni'n amcangyfrif bod dros 58,000 o bobl ag anhwylder bwyta yng Nghymru ac ry'n ni'n gwybod y gall cael calorïau ar fwydlenni achosi pryder a gofid i bobl sydd â'r salwch meddwl difrifol hyn," dywedodd Siân Brough, dirprwy reolwr gwasanaethau'r elusen.

"Mae'n rhaid i'r llywodraeth anfon neges glir i gaffis, bwytai, siopau takeaway ar draws y genedl a sicrhau nad yw labeli calorïau yn cael ei gynnwys ar fwydlenni.

"'Dan ni'n hynod bryderus hefyd bod labeli calorïau yn cael ei ystyried ar gyfer bwydlenni plant yng Nghymru, a gallai hyn gynyddu'r trallod mae plant a phobl ifanc, sydd ddim yn sylwi bod rhywbeth yn bod o ran patrymau bwyta a gallai hynny waethygu."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mewn ymateb i alwadau'r elusen, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn ystyried "ystod o fesurau" fel rhan o ymgynghoriad ar fwyta'n iach.

"Mae hyn yn cynnwys cyflwyno gofyniad i fannau tu allan i'r cartref sicrhau bod bwydlenni heb galorïau ar gael os oes angen.

"Byddem ni'n annog pobl i ymateb i'r ymgynghoriad a dweud eu dweud ar y cynigion," ychwanegodd y llefarydd.

"Er nad yw labelu yn orfodol yng Nghymru ar hyn o bryd, mae rhai lleoedd eisoes wedi cyflwyno calorïau ar fwydlenni a byddem yn gofyn i fwytai, pan yn bosib, i ddarparu bwydlenni sydd ddim yn cynnwys manylion calorïau ar gais."

Mae gwybodaeth a chyngor iechyd meddwl ar gael ar wefan BBC Action Line.