'Lloerig' am wallau niferus ar fap newydd Beddgelert

  • Cyhoeddwyd
Rhai o'r gwallau ar y map ar-lein newyddFfynhonnell y llun, Arolwg Ordnans
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r gwallau ar y map ar-lein newydd

Macs Pebyll, Cerrig-y-Thwydwr a Llewyn Celyn - dyma rai o'r gwallau niferus sydd wedi cynddeiriogi hanesydd blaenllaw wedi iddyn nhw ymddangos ar fapiau ar-lein yr Arolwg Ordnans.

Dywed Nia Powell o Nantmor yng Ngwynedd ei bod yn "lloerig", ac mae'n dweud mai Llywodraeth Cymru yn hytrach na Llywodraeth y DU a ddylai fod yn gyfrifol am fapiau yng Nghymru.

Mae Ms Powell yn cyfeirio'n benodol at enwau yn ei hardal hi, sef Beddgelert - enwau sy'n ymddangos ar fersiwn gyfrifiadurol 2021.

Dywedodd yr Arolwg Ordnans mai nod eu data ydy adlewyrchu unrhyw newidiadau, gan gynnwys enwau adeiladau a lleoedd.

Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd Ms Powell bod yna wallau sillafu, bod enwau wedi cael eu Seisnigo a bod hen enwau sy'n parhau ar lafar wedi cael eu cyfnewid am enwau sy'n perthyn i ymwelwyr diweddar.

Dywed hefyd bod yna lawer o wybodaeth gamarweiniol.

Mae Cyngor Cymuned Beddgelert wedi ysgrifennu at yr Arolwg Ordnans (AO) ac mae cadeirydd y cyngor wedi cadarnhau y byddant yn trafod y mater ymhellach ddiwedd y mis.

Disgrifiad,

Nia Powell: Gwallau sillafu 'difrifol' ar fap digidol newydd

Dywedodd Nia Powell: "Mae sawl agwedd o'r fersiwn hwn yn annigonol a gwallus, ac yn amlwg mae wedi cael ei lunio gan rywrai heb ddealltwriaeth o'r Gymraeg na gwybodaeth gyflawn o'r enwau a arferir yn lleol ychwaith. Ni fu ymgynghoriad.

"Nid yw'n amlwg o lle y cafwyd y wybodaeth a gyflwynir. Mae yna stamp arbennig o Seisnig ar yr hyn sydd i'w weld ar y mapiau newydd 'awdurdodol' hyn.

"Gall yr holl gamgymeriadau a'r newidiadau hyn effeithio ar fywyd bob dydd - o fwydo gwybodaeth sat-nav i broblemau gyda pherchenogaeth a chofrestru eiddo gan fod awdurdodau yn aml yn mynnu mai enwau'r AO sy'n gywir.

Disgrifiad o’r llun,

Cefn Geryant sydd ar fap yr OS yn hytrach na Chefn Gerynt

"Ar wahân i ystyriaethau ymarferol, mae'r dewisiadau a wnaed wrth lunio'r mapiau yn dileu a glastwreiddio'n sylweddol ein hetifeddiaeth o ran perthynas iaith a thir.

"Rhoddir mwy o barch i'r estron nag i'r boblogaeth gynhenid. Dwi'n lloerig."

Mae'r Arolwg Ordnans yn gwmni cyfyngedig ers 2015 ac yn atebol i'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ac "heb os mae'r camgymeriadau yma yn dangos bod angen trosglwyddo y cyfrifoldeb am fapiau Cymru i Lywodraeth Cymru," ychwanega Ms Powell.

Galw dwy fferm yn 'Sheep wash'

"Yr hyn sy'n frawychus yw bod cymaint o wallau yn yr ardal fechan yr wyf i yn gwybod amdani," ychwanega Ms Powell ac wrth eu rhestru mae'n cyfeirio at:

  • Gelli-Lago yn lle Gelli Iago;

  • Llewyn Celyn am Llwyn Celyn

  • Berth-Lŵyd yn lle Berth-lwyd

  • Cefn Geryant yn lle Cefn Gerynt

  • Mais-Ysguboriau yn lle Maes Ysguboriau

  • Macs Pebyll yn lle Maes Pebyll Hafod y Llan

  • Cysgod yr Herog yn lle Cysgod yr Hebog

  • Cerrig-y-Thwydwr yn lle Cerrig y Rhwydwr

Ymhlith yr enwau Seisnig, meddai, mae Dolfriog Hall yn lle Plas Dolfriog, Dolfriog Woods (yn lle Coed Dolfriog) ac Eagles Rock am nodwedd yn Nantgwynant ac mae dwy fferm yn Nolbenmaen yn cael eu galw'n 'Sheep wash'.

Ychwanegodd Ms Powell: "Mae Llwyn Celyn (i lawr fel Llewyn Celyn) yn lle Beudy Newydd er mai Beudy Newydd yw'r enw gwreiddiol sy'n cael ei ddefnyddio o hyd, a Llwyn Celyn yn enw y tŷ haf newydd.

"Mae'r enw Bwthyn y Wennol yn cael ei nodi yn lle Cwmcaeth er mai un o adeiladau Cwmcaeth, sydd wedi'i drosi'n ddiweddar, yw Bwthyn y Wennol.

Ffynhonnell y llun, Arolwg Ordnans
Disgrifiad o’r llun,

Nodir enw Bwthyn y Wennol - adeilad sydd wedi'i drosi yn ddiweddar yn hytrach na'r prif le Cwmcaeth

"Mae'r rhestr yn hirfaith, gyda rhai enwau fel Y Wern-las na fferm Dolfriog ddim wedi cael eu henwi o gwbl.

"Wedyn rhoddir yr enw Bwlchllechog ar dir na fu erioed yn rhan o dir Bwlchllechog, ond yn hytrach yn rhan o Dŷ Mawr. Gall camgymeriad o'r fath achosi trafferthion yn y dyfodol wrth drosglwyddo tir ac ynglŷn â pherchenogaeth tir.

"Ac mae yna wybodaeth gamarweiniol hefyd - nodir bod Roman Fort ym Meudy Newydd pryd y dangoswyd flynyddoedd yn ôl nad caer Rufeinig mo'r olion ar fuarth Beudy Newydd.

"Rhoir hefyd dau enw ar yr un lle ac mae un o'r enwau yn perthyn i annedd arall drwy nodi 'Gelli-Wastad or Clogwyn' - dim ond rhai gwallau dwi wedi nodi ond mae 'na fwy ac mae'n siŵr bod hyn wedi digwydd ar draws Cymru ond nad yw pobl wedi sylweddoli."

Y mapiau cyfrifiadurol sy'n peri problem. Mae'r fersiwn clasurol o'r mapiau, sydd i'w cael ar is-dudalen, yn rhyfeddol o gywir, medd Ms Powell ond y "drafferth yw mai fersiwn cyfrifiadurol 2021 fydd y prif fersiwn a fydd ar gael o hyn allan".

Mewn llythyr at yr AO dywed Ms Powell mai go brin y byddai sillafu Oxford fel Ox-ford, Penzance fel Pen-Zance neu Loughborough fel Lyff-byry yn dderbyniol yn Lloegr, ac yn yr un modd mae camsillafiadau yn y Gymraeg yn gwbl annerbyniol.

Awgrymodd hefyd y byddai'n syniad da i'r Arolwg Ordnans ofyn i bobl leol sy'n adnabod eu hardal yn dda i wirio'r mapiau - trwy gynghorau cymuned, efallai - ac y dylid gweithio gyda phrosiect mapio digidol Cymru y Llyfrgell Genedlaethol, a gyllidir gan Lywodraeth Cymru.

'Rhaid i bob unigolyn gysylltu'

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Arolwg Ordnans: "Ry'n yn defnyddio enwau cyfredol ry'n yn eu derbyn gan awdurdodau lleol ar draws y DU - dyma'r enwau y mae'r gwasanaethau brys a darparwyr eraill yn gyfarwydd â nhw.

"Rhaid i berchennog pob eiddo gysylltu â'r awdurdod lleol os oes camsillafu ac yna y bydd modd newid rhai gwallau ar gais swyddog penodol o'r cyngor sir.

"Fyddwn ni ddim yn trosi yr un enw i Gymraeg ar gais unigolyn - o ran cywirdeb sillafiad enwau Cymraeg mae'r Arolwg Ordnans yn ddibynnol ar Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg."

Mae polisi yr AO ar enwau Cymraeg, dolen allanol yn nodi eu bod yn ystyried cyngor y comisiynydd yn achos rhai enwau ond nid pob enw.

'Angen ystyried sut gellir gwella'

Cadarnhaodd dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg y bydd yn cysylltu â'r Arolwg Ordnans i drafod y mater.

Mewn datganiad, dywedodd Gwenith Price: 'Rydym yn ymwybodol o'r anawsterau annerbyniol y mae pobl yn eu profi'n gyson mewn perthynas ag enwau lleoedd a'r amrywiol ffurfiau a ddefnyddir gan sefydliadau.

"Mae'n broblem sy'n arwain at wasanaethau anfoddhaol a dryswch yn rhy aml, ac mae angen ystyried sut gellir gwella ansawdd y mapiau a'r cronfeydd.

"Rydym yn croesawu'r ymrwymiad yng Nghytundeb Cydweithio'r Llywodraeth a Phlaid Cymru i sicrhau bod enwau lleoedd Cymraeg yn cael eu diogelu a'u hyrwyddo."

Pynciau cysylltiedig